Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. Peter Jones gysylltiad personol.

2.

Adroddiad Trosolwg: Llygredd Aer/Swn pdf eicon PDF 137 KB

Gwahoddiad i drafod y materion â’r Cyng. Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, a Mark Wade, Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd

Cofnodion:

 Yn bresennol i drafod y mater gyda'r gweithgor yr oedd y Cyng. Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, Mark Wade, Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd, Huw Morgan, Swyddog Adrannol - Llygredd, Tai ac Iechyd y Cyhoedd a Tom Price, Arweinydd Tîm Rheoli Llygredd.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Hale y rhesymau dros y gwaith hwn a mynegwyd pryderon ynghylch y cynnydd mewn datblygiad ar draws Abertawe gan gynnwys datblygiadau tai (y mae eu hangen) ac effaith rhain ar yr amgylchedd yn arbennig mewn perthynas â llygredd sŵn ac aer.

 

Trafodwyd y materion canlynol:

 

·         Mae gan yr Adran swyddogaeth reoleiddiol draddodiadol o ran ymdrin â throseddau Deddf Aer Glân mewn lleoliadau domestig neu ddiwydiannol, yn ogystal â chyflwyno hawlenni ar gyfer rhai gweithgareddau diwydiannol penodol.  Dywedwyd wrth y gweithgor mai'r newid mwyaf mewn pwyslais yw symud o fonitro llygredd aer ar draws y wlad fesul tipyn i asesiad priodol o dargedau ansawdd aer yn seiliedig ar dystiolaeth iechyd y cyhoedd. 

·         Mae rheoli sŵn yn ei hanfod yn parhau i ddarparu gwasanaeth i ddiogelu pobl rhag poendod afresymol. Mae'r hyn yn waith mwy adweithiol gyda chyfreithiad rheolaidd yn dod yn ei sgîl. Mae Cyfarwyddeb sŵn amgylcheddol wedi dylanwadu ar y gwaith yn y maes sŵn a chynllunio.

·         Derbynnir dros 5000 o gwynion y flwyddyn gyda'r mwyafrif o'r rhain yn ymwneud â sŵn ac mae'r gwasanaeth yn derbyn yr un nifer o gwynion y tu allan i oriau ag y mae yn ystod oriau gwaith arferol. Mae'r rhan fwyaf yn cael eu datrys heb achos llys, fel arfer caiff nifer bach ei erlyn gyda'r mwyafrif yn derbyn rhybudd. Nid ydym yn derbyn cynifer o gwynion gan yr Ombwdsmon ac mae hyn yn bennaf oherwydd bod gwasanaeth y tu allan i oriau yn ei le.

·         Sefydlwyd rheolaeth ansawdd aer lleol yn gynnar yn Abertawe gan mai ni oedd un o'r ychydig awdurdodau peilot yn ôl ym 1995. Mae sylw cynyddol wedi'i roi i ansawdd aer ar lefel llywodraeth ganolog. Mae cynnydd yn sylw'r cyfryngau at effeithiau ar iechyd y cyhoedd a'r dystiolaeth feddygol gynyddol ar draws maes eang hefyd wedi helpu i dynnu sylw at y prif fater, sef allyriadau cerbydau ffordd mewn ardaloedd lle mae tagfeydd.

·         Mae'r maes gwaith hwn wedi'i amlygu mewn cynlluniau gwasanaeth a chynlluniau corfforaethol. Mae'n fater sy'n ymwneud â'r priffyrdd a chynllunio ac mae hefyd yn mynd ar draws cynlluniau iechyd cyhoeddus eraill.

·         Gan fod y pwysau gan Lywodraeth Cymru wedi cynyddu ac adnoddau sydd ar gael i gynghorau lleol wedi lleihau, mae llai o fentrau lleol wrth i'r ffocws gael ei roi ar gyflwyno gweithgareddau statudol sy'n drwm iawn ynddynt eu hunain.  

·         Mae asesiad a chylch adrodd parhaus yn eu lle ac mae'r adroddiadau hynny yn ddogfennau cyhoeddus sy'n nodi sefyllfa Abertawe o ran yr holl lygryddion sydd o ddiddordeb.

·         Heblaw am y dyletswyddau statudol niferus sy'n gynwysedig mewn deddfwriaeth mae'r cyngor yn ei dilyn, mae tystiolaeth ddiymwad bellach fod llygredd aer a sŵn yn niweidiol dros ben i ddatblygiad plentyn, systemau cardiofasgwlaidd, cynhwysedd yr ysgyfaint, y system nerfol ganolog, iechyd meddwl yn ogystal â nifer o faterion amgylcheddol ac ecolegol.

·         Mae mewnbwn gan yr Adran hefyd yn cael ei gyflwyno i gynlluniau statudol eraill megis y Cynllun Datblygu Lleol.

·         Nid oes dangosyddion perfformiad yn y maes hwn ar hyn o bryd er y cyflwynir adroddiadau manwl iawn i'r llywodraeth yn seiliedig ar arweiniad cenedlaethol.

·         Bu gwelliant yn ansawdd yr aer eleni. Yn gyffredinol, mae crynodiadau y llygryddion yn lleihau ac mae nifer y safleoedd a fesurwyd sy'n methu targed yn lleihau.

·         Mae gwybodaeth helaeth ar gael ar-lein ar wefan y cyngor ond mae llawer o'r wybodaeth yn eithaf cymhleth. Mae nifer o bobl yn ymweld â'r wefan ond bydd hyn siŵr o fod gan bobl broffesiynol eraill, academyddion a myfyrwyr yn bennaf. Cytunodd y gweithgor fod angen dod o hyd i ffordd o symleiddio'r wybodaeth hon ar gyfer mynediad a monitro gwell gan y cyhoedd. Ystyrir datblygu ap ar y cyd â'r Brifysgol.

·         Mae llygredd aer yn broblem mor fawr, mor gymhleth ac anodd i fynd i'r afael â hi. Mae iechyd y cyhoedd wedi'i nodi fel argyfwng ac mae'n broblem fyd-eang.  Mae trafnidiaeth ffordd wrth wraidd hyn, mae diwylliant y car wedi ein cyrraedd. Mae angen newid cymdeithasol o'r gweithgareddau llygru uchel.

·         Mae angen cymryd camau bach tuag at hyn lle bo'n bosib, yn gyntaf mae'n bwysig cydnabod ei fod yn broblem iechyd sylfaenol. Mae'r enghreifftiau a nodwyd yn cynnwys ardaloedd o gwmpas ysgolion a'r effeithiau ar ddatblygiad pobl ifanc. 

·         Gwnaeth y gweithgor longyfarch yr Adran am eu gwaith a'r gwaith ehangach sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â llygredd aer ar draws y cyngor gan gynnwys:

o   Cerbydlu gwyrdd (yr ALl i brynu'r nifer mwyaf o gerbydau electronig yng Nghymru)

o   Mentrau ynni adnewyddadwy a datblygiad ein cwmni ynni ein hunain

o   Hyrwyddo'r Morlyn fel ynni adnewyddadwy'r dyfodol

o   Cytunwyd ar y Flaenoriaeth Bioamrywiaeth Gorfforaethol yn ddiweddar ynghyd â pholisïau cysylltiedig

o   Priffyrdd a mesurau rheoli traffig

·         Mae pryderon ynghylch cynnydd yn nifer y tai newydd mewn sawl ardal fel y nodir yn y CDLl a'r cynnydd cysylltiedig mewn traffig. Rhagwelir cynnydd o 20% yn nifer y bobl sy'n defnyddio cludiant cyhoeddus ond ddim yn hyderus y bydd hyn yn digwydd gan fod diwylliant y car mor gryf ac mae nifer o ddatblygiadau newydd yn ddibynnol ar geir. 

·         Mae cludiant cyhoeddus yn allweddol. Mae angen bod yn fwy rhagweithiol wrth ddatblygu system cludiant cyhoeddus dda. Clywodd y gweithgor fod hyn yn her gan fod ALl wedi'u cyfyngu o ran yr hyn y gallant ei wneud gan fod cludiant cyhoeddus wedi'i ddadreoli. Felly ychydig o reolaeth sydd gan y cyngor neu ddim rheolaeth o gwbl dros wasanaethau bysus Abertawe er enghraifft. Mae Abertawe wedi galluogi rhai llwybrau anfasnachol trwy gymhorthdal ond mae eu dylanwad yn gyfyngedig. Felly rhaid ceisio gweithio gyda gweithredwyr gan nad oes gennym reolaeth ein hunain.

·         Cytunodd y gweithgor y dylai pob lefel o’r llywodraeth fynd i'r afael â llygredd aer sy'n broblem fawr. Bydd angen newid mewn agwedd gan bawb. Mae'r Alban wedi cyflwyno mwy o gostau sydd heb eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Datrysiad dros dro yn unig fyddai hyn ac mae rhai enghreifftiau wedi peri i'r problemau ledaenu i rannau gwahanol o'r ddinas.

·         Mae angen strategaeth llywodraeth ganolog sydd wedi'i hariannu'n ganolog a'i gweithredu ar lefel fwy lleol trwy Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.  Cytunodd y gweithgor fod cynnydd mewn gwelliannau cenedlaethol wedi oedi. Beth gellir ei wneud yn lleol? A oes angen cynllun clir arnom i leihau llygredd aer hyd yn oed os na allwn ei ariannu ar hyn o bryd? O leiaf wrth gael cynllun yn ei le mae modd ei ddatblygu pan ac os bydd cyllid ar gael; strategaeth glir sy'n cynnwys yr holl randdeiliaid, nid yr awdurdod lleol yn unig. 

·         Teimlwyd bod angen i adrannau'r cyngor weithio'n agosach ar y mater hwn ac y byddai strategaeth yn helpu i sicrhau hyn.

·         Ni ellir mynd i'r afael â materion byd-eang ar eu pennau eu hunain, rhaid i bob gwlad ymrwymo, ond teimlodd y cynghorwyr fod Abertawe yn gwneud llawer ac roeddent am ddiolch i swyddogion a dangos eu gwerthfawrogiad am y gwaith y maent yn ei wneud. Roedd cynghorwyr hefyd yn falch bod y gwasanaeth gyda'r hwyr yn parhau pan nad yw hyn yn wir gyda rhai cynghorau eraill. Er bod y gweithgor yn cydnabod cyfyngiadau cyllidebol y cyngor, hoffai weld y gwasanaeth pedair awr ar hugain hwn yn parhau.

·         Mae gwybodaeth dda a manwl ar y wefan ond yr unig anfantais yw nad yw'n hygyrch i'r cyhoedd, gallant foddi yn swm yr wybodaeth. Cytunodd y gweithgor fod angen gwneud gwaith i deilwra'r wefan er mwyn gwneud yr wybodaeth yn fwy hygyrch i'r cyhoedd. Roeddent hefyd yn falch o glywed bod y brifysgol yn datblygu ap posibl. Mae'r system monitro llygredd aer bresennol yn dangos pob priffordd ac ansawdd aer mewn amser go iawn ond nid yw'n hygyrch i'w ddefnyddio ar hyn o bryd.

·         Mae angen monitro a chymryd camau lle bo'n bosib i fynd i'r afael â llygredd ger ysgolion Abertawe. Gofynnodd y gweithgor beth wyddai'r ysgolion a'r rhieni am y materion hyn, a sut mae'r materion hyn yn cael eu bwydo i bolisïau a strategaethau'r cyngor. Clywodd y grŵp am waith mewn a chydag ysgolion er enghraifft llwybrau cerdded i'r ysgol etc. Rhai materion a allai effeithio ar hyn yw plant nad ydynt yn mynychu eu hysgol leol yn ei chael hi'n anos i deithio adref.

·         Trafodwyd bod angen mwy o ymwybyddiaeth a chamau gweithredu gan lywodraethwyr ysgolion.

·         Mae angen gwaith cyffredinol i newid agweddau, ac mae gwaith ac ymchwil yn cael ei wneud yn y maes hwn gan Brifysgol Abertawe.

·         Clywodd y gweithgor am gynllun rhannu beiciau Prifysgol Abertawe, myfyrwyr yn beicio i ddarlithoedd a sut mae hyn yn cael effaith go iawn.

·         Cytunodd y cynghorwyr fod angen meddwl hefyd am atebion naturiol i broblemau ansawdd aer, megis plannu coed sy'n amsugno CO2 fel coed bedw.

·         Mynegodd aelodau’r gweithgor eu pryderon ynglŷn â phrinder mannau gwyrdd fel rhan o ddatblygiadau newydd, a allai helpu i amsugno llygredd mewn ardaloedd trefol, megis mannau cwrdd/ymlacio, waliau byw neu erddi to.

·         Rhoddodd aelod o'r cyhoedd a oedd yn bresennol yn y cyfarfod gydweddiad meddygol am effeithiau ansawdd aer gwael gan ddweud 'gallwn ddadansoddi'r broblem fel cyngor ond nid oes gennym ddull o'i thrin'. Dywedodd Aelodau'r Cabinet nad oedd hyn yn gwbl wir ac 'er na allwn gynnal y llawdriniaeth gallwn gynnig meddyginiaeth'. Rydym yn gwneud nifer o bethau i wella llygredd aer, fel prynu cerbydau gwyrdd, prosiectau ynni adnewyddadwy a datblygiad ein cwmni ynni ein hunain.

·         Yn falch o glywed am y berthynas waith gadarnhaol gyda Phrifysgol Abertawe mewn perthynas â materion ansawdd aer.

·         Mae'r gweithgor hefyd wedi cydnabod bod angen ymagwedd gyfannol at y mater hwn, gweithio ar draws sefydliadau a chydlynu â'r cyngor. Roeddent hefyd yn cydnabod yr angen am gynllunio tymor hir ag eraill, yr angen i siarad ag eraill i ganfod sut i ddatrys y broblem er mwyn mynd i'r afael â hi.

·         Cytunodd y gweithgor fod hwn yn fater pwysig o ran iechyd ac y dylai fod ganddo well proffil cyhoeddus. 

 

3.

Camau Nesaf

Bydd y panel yn trafod barn, casgliadau ac argymhellion i’w cynnwys yn y llythyr at Aelod y Cabinet

 

Cofnodion:

Cytunodd y cynghorwyr i ysgrifennu at yr Aelod Cabinet yn mynegi eu barn trwy lythyr gan y cynullydd.

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 47 KB

Llythyr Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 313 KB