Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Teams

Cyswllt: Michelle Roberts. Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

3.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud 

 

 

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

4.

Ymchwilio Craffu - Cydraddoldebau - Effaith ac adroddiad dilynol pdf eicon PDF 640 KB

Aelod Cabinet dros Gymunedau Gwell, y Cynghorydd Louise Gibbard a Rhian Millar, Mynediad at Wasanaethau.

 

Cofnodion:

Daeth y Cynghorydd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell, Lee Wenham, Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata a Rhian Millar, y Cydgysylltydd Ymgynghori, i gyfarfod y Panel a chyflwynwyd adroddiad ganddynt a oedd yn amlinellu'r cynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion sy'n deillio o'r ymchwiliad craffu hwn.  Nodwyd y canlynol:

·         Cafodd Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2020/24 ei ddatblygu a'i gyhoeddi ym mis Ebrill 2020. Datblygwyd y cynllun yn unol â chanllawiau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac mae'n ymgorffori argymhellion allweddol yr Ymchwiliad Craffu

·         Mae Bwrdd Cydraddoldeb a Chenedlaethau'r Dyfodol strategol newydd wedi'i sefydlu. Bydd gan y bwrdd gyfrifoldeb allweddol am y camau gweithredu a'r argymhellion yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'r Ymchwiliad Craffu. Bydd y bwrdd hefyd yn gyfrifol am Genedlaethau'r Dyfodol (yn enwedig y saith maes newid a nodwyd gan y Ddeddf). Mae hyn yn newid allweddol yn y strwythur i ddarparu Cydraddoldeb a Chenedlaethau'r Dyfodol ar draws y cyngor. Mae swydd i gefnogi'r bwrdd hefyd wedi'i chymeradwyo ac rydym yn bwriadu gwneud apwyntiad yn ystod y misoedd nesaf.

·         Mae pandemig COVID-19 wedi dod â heriau sylweddol i'r cyngor. Yn ystod y 10 mis diwethaf bu'n rhaid i swyddogion symud ffocws i sicrhau bod gwasanaethau'r cyngor yn cael eu cynnal a bod y bobl fwyaf diamddiffyn yn cael eu cefnogi yn ystod yr argyfwng. Mae'r newid ffocws hwn wedi arwain at ohirio neu atal rhai meysydd gwaith a allai effeithio ar sut y mae rhai o'r camau gweithredu wedi'u datblygu hyd yma.

·         Mae rhai enghreifftiau o'r gwaith sydd wedi'i wneud i gefnogi cymunedau a grwpiau diamddiffyn yn Abertawe dros y cyfnod hwn yn cynnwys y canlynol:

o   Symudodd 4,500 o staff y cyngor i weithio gartref gan ddefnyddio technoleg ddigidol

o   Adleolwyd 221 ac ailbwrpaswyd dros 300 o staff y cyngor i wasanaethau hanfodol/cymorth

o   Crëwyd canolfannau gofal plant brys mewn 60 o leoliadau ysgol

o   Sefydlwyd gwasanaethau prydau ysgol am ddim • Adolygwyd pecynnau gofal cymdeithasol i gyfyngu ar gyswllt diangen

o   Sicrhawyd bod dros 140 o weithwyr gofal cymdeithasol ychwanegol ar gael

o   Agorwyd dwy ganolfan gofal brys ychwanegol

o   Ategwyd cadwynau cyflenwi cyfarpar amddiffyn personol a nodwyd cyflenwyr newydd

o   Sefydlwyd trefniadau cyflenwi cyfarpar amddiffyn personol i gefnogi holl leoliadau gofal cymdeithasol Bae Abertawe

o   Sefydlwyd cymorth brys i bobl ddigartref

o   Sefydlwyd rhwydweithiau cyflenwi a dosbarthu bwyd

o   Recriwtiwyd dros 1,400 o wirfoddolwyr lleol

o   Sefydlwyd gwasanaethau cymorth gwarchod gan gynnwys llinell gymorth bwrpasol, dosbarthu bwyd a meddyginiaeth, gweithwyr ardal leol.

·         Mae llawer o bethau i'w rhoi ar waith o hyd o'r argymhellion ac mae'n bosib na fydd llawer byth yn gwbl gyflawn gan eu bod yn parhau i gael eu hystyried a'u gwella.

·         Mae COVID-19 wedi agor llwybrau cyfleoedd newydd hefyd gan gynnwys y defnydd cynyddol o gyswllt rhithwir, ymgysylltu ac ymgynghori â'r cyhoedd. Mae llawer o wersi wedi'u dysgu o'r ffyrdd newydd hyn o weithio.

·         Mae'r cynllun strategol yn cael ei roi ar waith ond ni fydd rhai o'r camau gweithredu sy'n gysylltiedig â hyn byth yn cael eu 'gwneud' - bydd yn ymwneud â gwelliant parhaus.   Mae newidiadau ac esblygiad bob amser yn yr agenda cydraddoldebau felly mae angen i ni barhau i symud gyda'r agenda hon.

·         Cytunodd y panel y bu camau cadarnhaol ymlaen gyda'r argymhellion, yn enwedig creu'r Bwrdd Cydraddoldeb a Chenedlaethau'r Dyfodol newydd a'r gefnogaeth gysylltiedig. Bydd hyn a'r gwaith arall a wnaed hyd yma yn darparu sylfaen dda ar gyfer symud ymlaen allan o COVID ac i ysgogi gwelliannau yn y tymor canolig a'r tymor hwy.

·         Cytunodd y Panel i gyfarfod eto ym mis Tachwedd 2021 i edrych yn fanylach ar y cynnydd a wnaed ac effaith yr ymchwiliad. 

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 224 KB