Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim

2.

9.30am Ymuno â'r dotiau pdf eicon PDF 45 KB

Cofnodion:

Roedd tri pherson o Dîm Join the Dots yn bresennol yng nghyfarfod y panel er mwyn trafod materion cydraddoldeb.

 

Grŵp mawr o ofalwyr sy'n rhieni yw Join the Dots sy'n cefnogi plant/pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

 

Trafododd y panel a thîm Join the Dots nifer o faterion. Gweler y materion a drafodwyd isod (bydd y nodiadau llawn yn rhan o adroddiad canfyddiadau'r ymchwiliad).

 

·       Cael mynediad at wasanaethau'r cyngor gan gynnwys materion cynhwysiad digidol e.e. gwefan y cyngor.

·       Rhwystrau annheg rhag cael mynediad at wasanaethau'r cyngor

·       Trin pobl ag urddas a pharch cyfartal.

·       Gwella ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth.

·       Sut gellid gwella gwasanaethau er mwyn hyrwyddo ac arwain amgylchedd mwy cynhwysol.

 

3.

10.30am Comiswn Cydraddoldeb a Hawlian Dynol pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

Roedd Ruth Coombs, Pennaeth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, yn bresennol yng nghyfarfod y panel er mwyn trafod rôl y comisiwn ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Trafododd y materion isod (bydd nodiadau mwy manwl yn rhan o adroddiad canfyddiadau'r ymchwiliad):

 

·       Rôl Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru

·       Beth mae’r comisiwn yn ei wneud i ddiogelu a gorfodi'r cyfreithiau sy'n amddiffyn hawliau pobl i degwch, urddas a pharch

·       Sut mae’r comisiwn yn defnyddio ei bwerau unigryw i herio gwahaniaethu, hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ac amddiffyn hawliau dynol

·       Sut ydych chi'n asesu perfformiad awdurdodau lleol? Ydych chi'n rhoi adborth fel y gallent wella?

·       Pa bwerau gorfodi sydd gennych a sut rydych yn eu defnyddio?

·       Ydych chi'n gallu rhoi enghraifft o doriad amlwg a ddigwyddodd a sut cafodd ei ddatrys?

·       Beth yw'r broses ar gyfer aelod o'r cyhoedd sydd eisiau i chi ymchwilio i faterion cydraddoldeb, er enghraifft, cwyn neu doriad?

·       Sut ydych chi'n gweld rôl y Comisiwn wrth symud ymlaen?

 

4.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

Rhaglen Waith

 

Derbyniwyd

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.40am