Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Dim

2.

Cydraddoldebau - Cyfarwyddiaeth Lleoedd pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Roedd y Cyfarwyddwr Lleoedd, Martin Nicholls, yn bresennol, a rhoddodd gyflwyniad PowerPoint ar y cwestiynau craidd a anfonwyd cyn y cyfarfod.  Nodwyd y pwyntiau canlynol a oedd yn ychwanegol i'r cyflwyniad hwnnw.

 

·         Mae adolygiadau comisiynu wedi bod yn ffordd effeithiol o gynnwys a nodi meysydd i'w gwella.

·         Rhaid i ni fod yn agored ein meddwl ac ymgysylltu â grwpiau i wella'r hyn rydym yn ei wneud a chynyddu pa mor amlwg ydym.

·         Mae timau NEAT yn dda iawn.

·         Mae'n bwysig i ni weld sut rydym yn gorgyffwrdd â gwasanaethau a phrosiectau eraill fel y gallwn wella arferion.  Eitem sefydlog yn ein cyfarfodydd Uwch-dîm Rheoli yw rhannu'r da a'r drwg a dysgu ganddynt.  Rydym yn cytuno ei bod hi'n bwysig cael deialog ehangach ar draws yr adran.

·         Mae angen olrhain a monitro Asesiadau Effaith Cydraddoldeb (AEC)ar draws y cyngor, ac mae angen monitro eu canlyniadau er mwyn deall yn iawn y buddion y mae eu hangen.

·         Gofynnwyd cwestiynau ynghylch siglenni a chyfarpar mewn parciau i blant ag anableddau.  Clywodd y panel nad oes cyllideb ar hyn o bryd ar gyfer hyn, ond mae ap ariannu torfol yn cael ei ddatblygu.  Dylai unrhyw ddarpariaeth newydd gynnwys cyfarpar fel hwn.

·         Dylid cael cynrychiolwyr cydraddoldeb yn yr adran, ac ydy, mae'n rhywbeth sy'n ychwanegol at y swydd bresennol ac nid yw'n rôl annibynnol.  Pa mor effeithiol yw'r rôl hon o gofio bod ganddynt eisoes rôl amser llawn? Rydym yn cydnabod y bydd hynny'n amrywio mewn adrannau gwahanol gan ddibynnu ar bwy sy'n cyflawni'r rôl honno. I rai pobl, mae'n rhan o'i rôl ehangach am ei bod yn ymwneud â gweithgarwch tebyg i ymgynghoriad, ac i eraill, bydd ar ben eu rôl fel, er enghraifft, weithwyr gwastraff.  Mae'n anodd ond mae'n dal yn well i gael pobl i gyflawni'r rôl sydd o fewn yr adran ac sy'n deall y problemau adrannol yn ogystal â'r agweddau cydraddoldeb.

·         Mae hyfforddiant i gynrychiolwyr cydraddoldeb yn fewnol ac nid yw'n achrededig.

·         Oes gennym strategaeth gyfathrebu ar gyfer pobl ag anableddau gwahanol neu nodweddion a warchodir, fel ein bod yn sicrhau bod gennym ymagwedd gydlynol fel cyngor (cyhoeddus)? 

·         Cydgynhyrchu hyfforddiant o gwmpas cydraddoldebau â phobl o feysydd y nodweddion gwarchodedig hynny, gan gynnwys pobl anabl, fyddai'r ffordd ymlaen.  Bydd rhywfaint o hyfforddiant ar y cyd hefyd rhwng defnyddwyr gwasanaeth a staff. (cyhoeddus)

·         Nid oes gan y Grŵp Cydgysylltu Anableddau gylch gorchwyl, ni roddir rhestr o wahoddedigion ac nid oes strwythur clir ar ei gyfer.  Mae angen llawer o waith arno er mwyn iddo weithio'n gywir. (cyhoeddus)

·         O ran prentisiaethau, nid yw pawb yn chwilio am wasanaethau arbennig ond hoffent gael yr un cyfle â phawb arall. (cyhoeddus)

·         Hoffem weld bod unrhyw ganiatâd cynllunio ar gyfer adeiladau'n cynnwys o leiaf y mymryn lleiaf o hygyrchedd, yn enwedig ar gyfer adeiladau cyhoeddus fel ysgolion.  Mae angen meddwl yn llawr mwy a'i gynnwys mewn polisïau. Mae angen siarad â'r bobl yr effeithir arnynt er mwyn datblygu hyn. (cyhoeddus)

·         Dylai pob ysgol leol allu derbyn pob disgybl yn ei dalgylch a darparu'r cyfleusterau i wneud hynny. (cyhoeddus)

 

3.

Cydraddoldebau - Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Dave Howes, ynghyd â Rachel Moxey a Jane Whitmore yn bresennol yng nghyfarfod y panel a rhoddwyd cyflwyniad PowerPoint ganddynt ar y cwestiynau craidd a anfonwyd cyn y cyfarfod.  Nodwyd y pwyntiau canlynol a oedd yn ychwanegol i'r cyflwyniad.

 

·         Cydgynhyrchu a sut mae'n gweithio  Mae newid fesul cam yn golygu gwneud pethau'n sylweddol wahanol.  Mae'n wahanol am ein bod yn gweithio gyda'n gilydd fel partneriaid cyfartal.  Mae angen llawer o amser er mwyn gwneud hyn yn iawn, mae angen sgil arbennig ac mae angen datblygu rhywfaint o ymddiriedaeth rhwng pawb sy'n rhan o'r broses.  Rhaid i ni fod yn siŵr am yr hyn y gellir ei wneud neu beidio.  Mae rheoli disgwyliadau'n allweddol. Os caiff ei wneud yn dda, mae'n golygu bod penderfyniadau go iawn yn cael eu gwneud ar y cyd.  Rydym ar y camau cynnar, ac yn dysgu wrth i ni fynd yn ein blaenau.  Byddwn yn datblygu strategaeth cydgynhyrchu a gaiff ei llunio'n gydgynhyrchiol.

·         Dylai cydgynhyrchu olygu bod y cynnyrch gorffenedig yn well ac yn fwy tebygol o ddarparu gwasanaethau y mae pobl yn dymuno'u cael a gwneud hynny'n well.  Bydd y gwahaniaeth y bydd hyn yn ei wneud i'r unigolyn yn y dyfodol yn cael ei brofi.

·         Gallai cydgynhyrchu hefyd fod yn ateb i chwalu rhwystrau ond gall fod yn anodd dod o hyd i'r bobl sy'n wirioneddol eithriedig mewn cymunedau a'u cynnwys.  Mae'n her i ni o ran a ydym yn ddigon agored i ddod o hyd i'r unigolion mwyaf eithriedig ac ymgysylltu â nhw.  Gwaith ar droed yw hwn yn bendant. Rydym yn tueddu i weithio gyda'r un bobl dro ar ôl tro; bydd angen i ni gysylltu'n ehangach â phobl.

·         Rydym ar gamau cynnar iawn yn y gwaith cydgynhyrchu hwn ac mae gennym yr uchelgais i wneud hyn yn llawer gwell, ond gallwn wynebu sawl rhwystr wrth wneud hyn.  Rydym yn cydnabod ein bod yn dysgu ein hunain ac yn ceisio bod yn sefydliad sy'n datblygu'n barhaus.  Mae bod yn fwy adeiladol wrth ymgysylltu a chynnwys yn anodd ond yn uchelgeisiol.

·         Yn sgîl ymchwiliad craffu i dlodi ychydig  flynyddoedd yn ôl, rydym yn sefydlu Comisiwn Gwirionedd Tlodi.  Bydd yn cynnwys gweithio gyda phobl sy'n profi tlodi.  Bydd hyn yn cynnwys y cyngor yn ogystal â darparwyr gwasanaethau allweddol eraill.  Rydym yn gweithio gyda'r Pwyllgor Datblygu Polisi i ddatblygu hyn.

·         Yn Abertawe yn y Gwasanaethau Cymdeithasol rydym yn cefnogi'n staff drwy arfer myfyriol.  Edrych yn ofalus ar pam y mae rhywbeth wedi gweithio neu beidio.  Edrych ar y ffactorau allweddol sy'n arwain at y canlyniad rydych chi a'ch teulu wedi'i gyflawni, gan gynnwys rhwystrau, a sut cawsant eu goresgyn.  Mae'n hynod ddefnyddiol hefyd pan fyddwch yn gofyn i'r teulu ar y diwedd. Rydym yn ceisio gwneud mwy o hynny er gall fod yn anodd, yn enwedig os nad y canlyniad a gafwyd yw'r un roeddent wedi gobeithio'i gael. 

·         Rydym yn cydnabod nad yw gweithlu'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn adlewyrchu cymunedau a'r angen i allu uniaethu â'r bobl hynny sydd ar gyrion cymdeithas a/neu sy'n ddiamddiffyn.  Mae staff y Gwasanaethau Cymdeithasol yn tueddu i fod yn ifanc, yn wyn ac yn fenywod gyda staff y Gwasanaethau i Oedolion i'r gwrthwyneb, ac yn bennaf yn fenywod hŷn.  Oes gennym ni strategaeth ddigon cadarn ar gyfer staffio? Na nid yw'n ddigon cadarn, mewn gwirionedd, nid yw'n swydd arbennig o atyniadol.  Rydym yn gwneud ein gorau glas i oresgyn y canfyddiad hwn, ond mae'n anodd.

·         Mae'n un o'n blaenoriaethau yn y dyfodol i sicrhau bod ein gweithlu'n adlewyrchu cymunedau'n well; mae'n bendant yn faes y gallwn ei gryfhau.

·         Mae'r Tîm Tlodi a'i Atal yn fwy amrywiol, ond nid yw o reidrwydd yn ddigon amrywiol; gallai fod gwell cydbwysedd.  Datblygodd amrywiaeth y tîm hwn drwy'r rhaglen Cymunedau'n Gyntaf flaenorol.

·         Os ydym am i'n gweithlu fod yn fwy amrywiol, rhaid i ni fel awdurdod newid ein hymagwedd at arfer recriwtio a chyflogaeth.  Mae hefyd yn anodd edrych ar ba mor amrywiol yw ein gweithlu oherwydd nad yw'r data a gesglir yn arwydd dibynadwy.

·         Nid oes digon o amser nac arian i fynd ati i gydgynhyrchu ar hyn o bryd (cyhoeddus).

·         Gall fod yn anodd dod o hyd i AEC ar wefan y cyngor ac nid yw'n hawdd deall y broses a ddefnyddir.  A ddylid cynnwys pobl y mae penderfyniadau'n effeithio arnynt? (cyhoeddus)

·         Targed o 1% yn unig sydd gan Gyngor Abertawe ar gyfer staff ag anabledd. A yw hwn yn rhy isel? Targed Llywodraeth Cymru yw 5%. (cyhoeddus)

·         Rydym am gael ymagwedd gydgynhyrchiol at ddarparu gwasanaethau ac rydym yn hapus i weithio gyda phobl i ddatblygu hyn.  Mae'r gwaith wedi cychwyn, ond nid yw wedi'i wreiddio.  Mae adnoddau'n broblem.  Ond rydym yn dechrau o sefyllfa nodweddiadol i wneud hyn.

·         Mae angen i fwy o ddogfennau fod yn rhai hawdd eu darllen (cyhoeddus)

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.30pm

 

4.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 433 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Received