Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Dim |
|
Aelodaeth Cofnodion: Cytunodd y Panel
Ymchwiliad Craffu - Cydraddoldebau i gyfethol Dr Gideon Calder trwy gydol yr
ymchwiliad. |
|
Cydraddoldebau - Cyfarwyddiaeth Adnoddau (gan gynnwys agweddau Adnoddau Dynol) PDF 96 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cyng. Clive Lloyd (Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a
Pherfformiad), Sarah Caulkin (Rheolwr Adnoddau Dros Dro) ac Adrian Chard
(Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Rheoli Sefydliadol) yn bresennol er mwyn trafod
cydraddoldebau ac er mwyn cynrychioli meysydd gwasanaeth Adnoddau ac Adnoddau
Dynol. Rhoddodd y Cyng. Clive Lloyd gyflwyniad ar gydraddoldebau oherwydd bod y
pwnc yn berthnasol i'r gyfarwyddiaeth adnoddau, a dyma rai o'r materion a
gododd: ·
Roedd yn falch bod y panel hwn wedi cael ei sefydlu, ac
mae'n teimlo bod cydraddoldebau'n fater pwysig a bod diffyg wrth ystyried y
modd y mae'r cyngor yn cwblhau ei ddyletswyddau. ·
Mae'n bwysig ystyried sut rydych yn gwreiddio'r Ddeddf
mewn busnes o ddydd i ddydd. ·
Mae nifer o Gynghorwyr Hyrwyddo sy'n ymwneud ag agweddau
gwahanol, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig. ·
Mae gennym Gynllun Cydraddoldeb a adolygir bob blwyddyn
ond teimlwn y gallwn wneud llawer mwy, ond dyma'r cam cyntaf. Er enghraifft,
mewn perthynas â'r blwch cyflog rhwng y rhywiau, sut y gallwn greu awyrgylch
lle mae menywod yn teimlo y gallant gael dyrchafiadau ac elwa o'r tâl o
ganlyniad i hyn Cyfarwyddiaeth Adnoddau Rhoddodd Sarah Caulkin gyflwyniad i'r panel a baratowyd yn seiliedig ar y
cwestiynau a anfonwyd cyn y cyfarfod. Yn eich barn chi, pwy
sy'n gyfrifol am weithredu a gwreiddio cydraddoldebau yn y sefydliad? •
Ymagwedd cyngor cyfan - mae cydraddoldebau'n
gyfrifoldeb i bawb •
Mae pob cyfarwyddiaeth yn gyfrifol am roi
cydraddoldebau ar waith a'u gwreiddio yn unol â'r Amcanion Cydraddoldeb a'r
Adroddiad Adolygiad Cydraddoldeb Blynyddol •
Hyrwyddwyr Cydraddoldeb newydd ym mhob
cyfarwyddiaeth sy'n gwreiddio diwylliant o gydraddoldeb ymhellach ar draws y
cyngor •
Nid oes un swyddog corfforaethol erioed wedi
bod yn gyfrifol am gydraddoldebau'n unig •
Mae'r tîm Mynediad at Wasanaethau'n gyfrifol
am roi cyngor, arweiniad a chefnogaeth ond nid ydy'n gyfrifol am roi pethau ar
waith a'u gwreiddio - cylch gwaith ehangach o lawer, gan gynnwys ymgynghoriad
statudol •
Mae'r Uned Cyflwyno
Strategol yn llunio'r Adroddiad Adolygiad Cydraddoldeb Blynyddol Sut ydych yn sicrhau
ymagwedd gyson at gwblhau Asesiadau Effaith Cydraddoldeb ac at eu safon yn eich
cyfarwyddiaeth? •
Mae angen cwblhau AEC ar ddechrau pob
prosiect •
Anogir staff adnoddau i gymryd rhan mewn
prosiectau'n gynnar yn y broses er mwyn sicrhau bod goblygiadau cydraddoldeb yn
cael eu harchwilio a'u deall yn llawn, e.e. tîmau Cyfreithiol a Mynediad at
Wasanaethau •
Templedi safonol er mwyn sicrhau cysondeb •
Mae'r tîm Mynediad at Wasanaethau'n adolygu
ac yn rhoi cyngor er mwyn sicrhau ansawdd •
Mae angen i adroddiadau pwyllgorau asesu
goblygiadau cydraddoldeb •
Mae Hyrwyddwyr Cydraddoldeb newydd yn
gwreiddio cysondeb ac ansawdd ymhellach yn y gyfarwyddiaeth Oes gennych staff
sydd wedi'u hyfforddi'n benodol ar weithdrefnau ac arfer AEC? Pwy sy'n monitro ansawdd y rhain yn
eich cyfarwyddiaeth? •
Mae'r tîm Mynediad at Wasanaethau'n monitro
pob AEC ac yn rhoi cyngor ac arweiniad •
Mae'r Hyrwyddwyr Cydraddoldeb newydd yn
derbyn hyfforddiant er mwyn gwreiddio ansawdd a chysondeb ymhellach Pwy yw'r prif
ddylanwadwyr o ran cydraddoldeb yn eich cyfarwyddiaeth? Er enghraifft Aelod y Cabinet,
Hyrwyddwyr Cydraddoldeb (cynghorwyr a/neu staff) •
Dirprwy Arweinydd •
Aelod y Cabinet - Cymunedau Gwell •
Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Adnoddau •
Prif Swyddog Trawsnewid •
Prif Swyddog Cyfreithiol •
Hyrwyddwyr Cydraddoldeb Pa gynllun hyfforddi
sydd gennych mewn perthynas â materion cydraddoldeb? Sut caiff anghenion
hyfforddiant staff eu hasesu mewn perthynas â'r anghenion hyfforddiant hyn? •
Mae hyfforddiant penodol i Hyrwyddwyr
Cydraddoldeb wedi dechrau •
Hyrwyddir hyfforddiant ar y Ddeddf a'r naw
nodwedd warchodedig ar StaffNet i'r holl staff a gellir cadw lle drwy Oracle •
Mae modiwl e-ddysgu Cydraddoldebau ar gael ar
y Gronfa Ddysgu, lle gall staff ei gwblhau fel rhan o'u broses sefydlu •
Asesir anghenion hyfforddi staff unigol gan y
rheolwyr llinell yn ystod arfarniadau a fel rhan o ddatblygiad cyffredinol Beth mae eich
cyfarwyddiaeth yn ei wneud er mwyn nodi rhwystrau i fynediad at wasanaethau ac
i gael gwared arnynt? •
Cyfarfu'r Prif Swyddog Cyfreithiol a'r
Rheolwr Adnoddau dros dro â Grŵp Cydgysylltu Anableddau (GCA) dros yr haf
er mwyn deall sut y gall y gyngor wella mynediad at wasanaethau ar gyfer y GCA
a grwpiau eraill •
Rhoddodd y cyfarfod hwn feysydd penodol o
adborth y gallwn ymdrin â hwy er mwyn gwella mynediad •
Strategaeth Cydgynhyrchu •
Strategaeth Cynnwys •
Ymgynghoriadau Statudol Sut ydych yn gweithio
gyda sefydliadau cydraddoldeb, defnyddwyr gwasanaethau a phartneriaid allweddol
eraill i gyflwyno eich gwasanaethau yn unol â deddfwriaeth cydraddoldebau,
megis trwy gydgynhyrchu? •
Mae'r cyngor yn datblygu cynllun a
Strategaeth Cydgynhyrchu gorfforaethol, ac yn ehangu cydgynhyrchu tu hwnt i
ffiniau arferol y Gwasanaethau Cymdeithasol, e.e. Strategaeth Toiledau •
Mae'r Gyfarwyddiaeth Adnoddau'n cefnogi
gwasanaethau'r cyngor pan fydd angen ymgynghoriad statudol •
Mae gwasanaethau rheng flaen megis y Ganolfan
Gyswllt, a'r timau Refeniw a Budd-daliadau'n cysylltu'n uniongyrchol â
defnyddwyr gwasanaethau, sefydliadau cydraddoldeb a grwpiau cymunedol, yn
enwedig lle cynigir unrhyw newidiadau i wasanaethau, e.e. ciosgau yn y Ganolfan
Ddinesig •
Wedi datganoli i wasanaethau gyda chefnogaeth
gorfforaethol •
Fodd bynnag, yn gorfforaethol hoffem geisio
sicrhau bod cynllun cynnwys ar waith er mwyn helpu grwpiau i gynllunio ac i
ymrwymo'n addas, gan gynnwys y canlynol: mae'r GCA yn cynnwys (er enghraifft)
CGGA, Anabledd Cymru, RNIB, gofalwyr sy'n rhieni ac mae hefyd yn cynrychioli
sefydliadau eraill, rhwydwaith pobl dros 50, y Fforwm BME a'r Fforwm LGBT Pa newidiadau eraill
hoffech chi eu hawgrymu? •
Gellid ailadrodd yr hyn a ddysgwyd o roi'r
GDPR ar waith ym maes Cydraddoldebau o ran strwythur, llywodraethu a swyddog
dynodedig •
Mae angen i'r Adroddiad Cydraddoldebau
Blynyddol fod yn fyrrach ac mae angen iddo ganolbwyntio mwy ar ganlyniadau ac
effaith •
Adeiladu ymhellach ar y newidiadau cadarnhaol
sydd eisoes ar waith, e.e. Hyrwyddwyr Cydraddoldeb, cydgynhyrchu â phartneriaid
a defnyddwyr gwasanaethau Cododd a thrafododd y cynghorwyr y canlynol hefyd: •
I ba raddau y mae'r staff yn dylanwadu ar gydraddoldebau yn
y cyngor? Rydym yn ceisio cynnwys staff yn yr hyn rydym yn ei wneud ond mae'n
dibynnu ar natur y prosiect, h.y. roedd staff yn rhan o holl broses yr
adolygiadau comisiynu. Mae gennym
Hyrwyddwyr Cydraddoldeb newydd
(cynrychiolwyr staff cydraddoldebau) hefyd yn y gyfarwyddiaeth adnoddau
a byddant yn cael eu cynnwys mwy ar lawr gwlad.
Cafodd Undebau Llafur eu cynnwys ac ymgynghorwyd â hwy •
Pa hyfforddiant sydd ar gael ynghylch materion
cydraddoldeb a faint o ddiddordeb sydd ynddo?
Mae amrywiaeth o gyrsiau ar gael ar-lein a wyneb yn wyneb; mae rhai'n
orfodol ond nid oes llawer o bobl yn eu cwblhau. Mae angen ceisio cynyddu'r
niferoedd hyn. •
Sut rydym yn hyfforddi i ddefnyddio'r broses
Cydgynhyrchu? Hyfforddir uwch-reolwyr yn gyntaf, yna gallant rhaeadru'r wybodaeth
ar draws y sefydliad. Mae cydgynhyrchu'n
broses ardderchog ond nid yw'r canlyniadau bob tro'n union fel y byddech yn eu
disgwyl. Nid yw'n addas ar gyfer pob gwasanaeth - mae'n rhaid iddo fod y maes
cywir sy'n canolbwyntio ar y cyhoedd. •
Mae Mynediad at Wasanaethau'n ymddangos yn broblem
enfawr, er enghraifft gallu cael mynediad at gyfrifiadur neu ei
ddefnyddio. Mae angen cael llwybrau
gwahanol er mwyn cael mynediad at wasanaethau'r cyngor. Cytunwyd y bydd rhai
o'r llwybrau hynny'n arwain at sefydliadau neu grwpiau eraill. Dywedwyd wrth y
panel y byddai cydgynhyrchu'n helpu i nodi'r ffyrdd/llwybrau gorau. Codwyd
mater cynhwysiad digidol, a phwysleisiodd y panel bwysigrwydd ystyried materion
cydraddoldeb, a all fod yn eithaf sylweddol.
Dyfynnwyd yr enghraifft o gyflwyno cais am Gredyd Cynhwysol oherwydd ei
fod ar-lein yn unig. •
Dywedodd y Cyng. Lloyd wrth y panel am 'Hwb Fy Nghlydach'
a agorwyd yn ddiweddar, sef hwb lle gall pobl gyfathrebu trwy Skype a chael
mynediad at wasanaethau, ac mae ganddo ardaloedd cyfnewid desgiau ar gyfer
staff. Dyma'r hwb cyntaf a ddyluniwyd gyda'r bwriad o sicrhau bod gwasanaethau
o fewn cyrraedd y cyhoedd. Lleolir yr un nesaf yng Ngorseinon. Wrth i nifer o aelodau staff weithio'n ystwyth
erbyn hyn, gall staff fod yno a bod ar gael i roi cyngor etc. •
Sut gallwn ni gynnwys a cyhoedd yn well? Nododd y
Cynghorydd y gellir lleihau'r bwlch rhwng y cyhoedd a'r cyngor yn aml. •
Rydym yn parhau i ariannu nifer o grwpiau gwirfoddol ond
mae'r nifer yn is nag o'r blaen oherwydd bod yr hinsawdd ariannol wedi newid,
ond rydym yn cefnogi CGGA. Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadaol Cyflwynodd Adrian Chard yr agweddau sy'n ymwneud ag Adnoddau Dynol a
Datblygu Sefydliadol i'r panel. Pa mor ystyrlon yw'r
data a gesglir ar gyfer yr Adolygiad Cydraddoldebau, sut ydych yn defnyddio'r
data hwn neu ddata pwysig arall sy'n berthnasol i Adnoddau Dynol er mwyn nodi
unrhyw broblemau ac er mwyn ysgogi gwelliant yn y sefydliad mewn perthynas â
materion cydraddoldeb? • Yn ystod y cam cyflwyno cais am swydd,
gofynnir i ymgeiswyr gwblhau ffurflen cydraddoldebau ac, os y cwblheir, nodir
hyn yn erbyn cofnod yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'r ffurflen yn wirfoddol,
ynghyd â'r elfen hunanwasanaeth • Gofynnir am wybodaeth am gydraddoldebau ar
sail flynyddol, ac fe'i cyhoeddir fel rhan o'r Adroddiad Adolygiad Cydraddoldeb
Blynyddol Pa hyfforddiant
Cydraddoldebau a gynigir i staff yn gorfforaethol? •
Mae hyfforddiant gorfodol ar-lein yn ogystal
â hanner diwrnod o hyfforddiant wyneb yn wyneb i staff - mae'r modiwl
cydraddoldebau'n rhan o hyfforddiant rheolwyr ynghyd â'r adran yn y broses
recriwtio a dethol. Ydy hyfforddiant
cydraffoldebau'n rhan o broses sefydlu staff? •
Mae modiwl e-ddysgu sefydlu corfforaethol ar
gael, sy'n rhoi trosolwg byr o'r Ddeddf Cydraddoldeb a'r holl nodweddion
gwarchodedig, sut y gall materion cydraddoldeb effeithio ar ein gwasanaethau, a
rhai diffiniadau allweddol o eiriau sy'n gysylltiedig â chydraddoldeb
(gwahaniaethu uniongyrchol, gwahaniaethu anuniongyrchol, gwahaniaethu drwy
ganfyddiad a thrwy gysylltiad, aflonyddu ac erledigaeth). Pa gefnogaeth a
chymorth sydd ar gael i staff sy'n gwneud achwyniad sy'n ymwneud â nodwedd
warchodedig? •
Eir i'r afael â hyn o dan y polisi
bwlio/aflonyddu er mwyn gwneud y canlynol: –
archwilio'r gŵyn yn brydlon ac yn
wrthrychol –
cymryd y gŵyn o ddifrif –
pennu ymgynghorydd AD fel cyswllt 'cadw mewn
cysylltiad' –
cynnig cymorth mewn perthynas â chwnsela –
cynnig cyfryngu –
gwneud argymhellion a newidiadau i'r prosesau
o ganlyniad i'r gŵyn A ydym yn casglu data
ar nifer yr achwyniadau a godwyd gan staff ynghylch eu nodweddion gwarchodedig? •
Mae AD a Datblygu Sefydliadol yn dechrau
casglu data ynghylch achwyniadau/bwlio/cwynion aflonyddu, a byddwn yn
dadansoddi hyn wrth i ni symud ymlaen. Beth mae'r cyngor yn
ei wneud er mwyn sicrhau bod Cyngor Abertawe ar gael i bawb, er enghraifft,
pobl ag anabledd, pobl â gofynion sy'n gysylltiedig â chredoau crefyddol neu
staff sy'n siarad Cymraeg? •
Mae menter 'Abertawe'n Gweithio' yn mynd i'r
afael â hyn. Mae hysbysebion a ffurflenni cais ar gael ar-lein. Mae dosbarthiadau ar gael ar gyfer gweithwyr
sydd am ddysgu Cymraeg. •
Mae AD a Datblygu Sefydliadol yn gweithio
gyda'r Adran Tlodi a'i Atal er mwyn gwella prosesau recriwtio, a fydd yn
cynnwys adolygiad o'r polisi Recriwtio a Dethol presennol er mwyn sicrhau ei
fod yn galluogi pawb i gael mynediad hwylus at gyfleoedd cyflogaeth yn y
cyngor. Beth sy'n cael ei
wneud i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau? •
Cyhoeddodd y cyngor yr wybodaeth hon ar ein
gwefan mewn adroddiad penodol •
Nododd yr adroddiad gynllun gweithredu er
mwyn cau'r bwlch fel a ganlyn, a datblygir cerrig milltir ac amserlenni manwl
pellach: •
Parhau i wella data'r gweithlu, e.e. diwygio a
sicrhau cywirdeb y data •
Parhau i adolygu trefniadau staff
achlysurol/cyflenwi •
Cynnal 'brîff gwylio' ynghylch newidiadau i
gynllun Gwerthuso Swydd GPLC •
Y modd y dosberthir gwaith ar sail rhyw mewn
graddau is •
Ystyried dadansoddi sut y dosberthir rolau uwch
yn ôl rhyw, patrymau gweithio, etc. •
Parhau i adolygu swyddi niferus a threfniadau
cytundebol •
Bydd y PDChP yn derbyn adroddiad blynyddol
sy'n amlinellu'r sefyllfa bresennol ar gyfer staff nad ydynt yn gweithio mewn
ysgolion. •
Yn ogystal â'r uchod, byddwn yn cynnwys
adolygiad o rywedd a phrentisiaid/hyfforddeion. Trafododd y panel y canlynol hefyd: ·
Nid
yw data cydraddoldebau'n gynrychioladol oherwydd nad yw'n orfodol i gwblhau'r
adran ar ffurflenni gweithwyr. Nid yw rhai pobl yn fodlon ei chwblhau pan fyddant
yn cyflwyno cais. Canfyddiad, sicrwydd bod yr wybodaeth yn gyfrinachol ac yn
cael ei defnyddio mewn ffordd addas. Mae'n anodd asesu cyfansoddiad staff y
cyngor a'r rhai sy'n cyflwyno ceisiadau pan nad oes gennym y data cywir. Allwn
ni wneud rhywbeth i wella hyn? Bydd y panel yn ystyried sut y gallwn gael
gwared ar y rhwystr hwn. A oes esiampl o'r arfer gorau wrth gasglu'r math hwn o
ddata, a sut mae awdurdodau lleol eraill yn adrodd arno? ·
Sut
gallwn ni gefnogi staff sy'n ofalwyr?
Mae gweithio ystwyth a hyblyg yn helpu i gefnogi gweithwyr. Mae tri thîm yn cynnal cynllun peilot ar
ffyrdd gwahanol o weithio. Mae'n seiliedig ar dasgau yn hytrach nag amser,
felly byddwn yn rheoli pobl ar allbwn yn hytrach na rheoli amser pobl. Byddai
gan y panel ddiddordeb mewn gweld canlyniadau'r cynlluniau peilot (os yw'n
cyd-fynd ag amserlen yr ymholiad). · A yw'r awdurdod yn darparu gofal plant? Nid oes darpariaeth uniongyrchol ond rydym yn cynnig talebau gofal plant, lle gall rhieni ddewis y cyfleuster sydd fwyaf cyfleus iddynt. |
|
Cofnodion: Adolygodd y panel y rhaglen waith. |