Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnodion: Rhoddodd y
Cynghorydd Sam Pritchard ei ymddiheuriadau am absenoldeb. Mae'r Cynghorwyr Skyes a Fitzgerald yn
tynnu'n ôl o'r Panel. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Trosolwg o Gydraddoldebau PDF 133 KB Gwahoddwyd y
Cynghorydd Mary Sherwood, Aelod y Cabinet dros Gymunedau (Pobl) a Tracey
Meredith, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd
Busnes, i gyflwyno’r adroddiad a thrafod y materion a godwyd Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd Mary Sherwood, Aelod y Cabinet dros Gymunedau (Pobl) a Tracey Smith,
Prif Swyddog Cyfreithiol a Monitro yn bresennol yn y Panel i gyflwyno trosolwg
o'r pwnc. Trafodwyd y materion canlynol: ·
Y
cefndir cyfreithiol gan gynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010, tri nod y ddyletswydd
gydraddoldeb yw rhoi sylw priodol i'r angen am: ―
Ddileu
gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu, fictimeiddio ac ymddygiad arall sy'n
cael ei wahardd gan y Ddeddf Cydraddoldeb ―
Hyrwyddo
cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai sydd heb y
nodwedd honno. ―
Meithrin
perthnasoedd da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd a amddiffynnir a'r rhai sydd heb
y nodwedd honno. ·
Y
ddyletswydd gyffredinol i gynnwys y nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran,
rhyw, hil (gan gynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw neu
genedligrwydd, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth,
tueddfryd rhywiol, crefydd neu gred (neu ddiffyg cred), priodas neu
bartneriaeth sifil. ·
Yng
Nghymru, mae dyletswydd statudol sy'n ymhelaethu ar Reoliadau (Cymru) 2011 sy'n
gosod dyletswyddau penodol ar yr awdurdod, megis: ―
Creu
Cynllun Cydraddoldeb Strategol ―
Pennu
a chyhoeddi amcanion cydraddoldeb ―
Cyhoeddi
datganiad sy'n nodi'r camau a gymerwyd i gyflawni'r amcanion cydraddoldeb ―
Adolygu'r
amcanion cydraddoldeb o fewn 4 blynedd o'r dyddiad dechrau ―
Cydymffurfio
â'r darpariaethau cynnwys ―
Nodi
a chasglu'r wybodaeth berthnasol am gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol ―
Cyhoeddi
gwybodaeth mewn ffordd hygyrch ―
Asesu
a monitro effaith polisïau a newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau ―
Casglu
data gweithwyr yn flynyddol ―
Ystyried
a ddylai amodau dyfarnu contract caffael gynnwys ystyriaeth i gydymffurfio â'r
ddyletswydd gyffredinol ―
Cyhoeddi
amcan cydraddoldeb mewn perthynas ag ymdrin ag unrhyw fwlch cyflog rhwng y
rhywiau a nodwyd a chymryd camau i ymdrin ag unrhyw fwlch cyflog ·
Hoffai
Aelod y Cabinet weld y cyngor yn mynd y tu hwnt i'n dyletswydd gyfreithiol a
phwysleisiodd bwysigrwydd y dyletswyddau a ymgorfforwyd yn yr awdurdod lleol. ·
Cytunwyd
bod yn rhaid i'r amcanion cydraddoldeb a bennwyd gan y cyngor arwain at
ganlyniadau gwell i bobl. ·
Mae'r
Cynllun Cydraddoldeb presennol yn dod i ben yn 2020 felly byddwn yn diwygio'r
ddogfen. Bydd y cynllun yn edrych yn wahanol iawn ac yn cael ei symleiddio.
Cynllunio i gael cyfarwyddyd strategol cliriach y bydd adrannau'n ei gyflwyno.
Byddem yn gwerthfawrogi barn y panel o'r ymchwiliad hwn er mwyn helpu i
ddiwygio'r ddogfen honno. ·
Mae'n
bwysig ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a'r nodau lles a
'Chymru sy'n fwy cyfartal' yn benodol. ·
Mae'n
bwysig i'r Cynllun Cydraddoldeb gael trosolwg gwleidyddol i sicrhau ei fod yn
gweithio'n dda ac i gymryd camau gweithredu lle bo angen gwneud newidiadau. ·
Mae
llawer o waith yn cael ei wneud o ran materion cydraddoldeb gyda CLlLC ac mae'r
panel yn awyddus i gael y newyddion diweddaraf wrth iddynt adrodd arnynt. ·
Efallai
nad yr Asesiadau Effaith Cydraddoldeb yw'r ffordd orau ar gyfer y dyfodol am eu
bod nhw'n cael eu cynnal yn rhy hwyr yn y broses - mae angen mwy o
gydgynhyrchu. |
|
Cynllunio'r Ymchwiliad i Gydraddoldebau PDF 164 KB Bydd y panel yn ystyried y Cylch Gorchwyl ac yn trafod y rhaglen waith ar gyfer ei ymchwiliad Cofnodion: Trafododd y panel
ei gylch gorchwyl a'r rhaglen waith a fydd ar yr agenda i gytuno arnynt yng
nghyfarfod nesaf y panel ar 24 Hydref 2018. |