Lleoliad: O bell drwy Teams
Cyswllt: Michelle Robert, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y
llythyrau a'r cofnodion eu hadolygu a'u derbyn gan y Panel. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored
agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Ymchwilio Craffu - Cydraddoldebau - Effaith ac adroddiad dilynol PDF 380 KB Aelod Cabinet dros Gymunedau Gwell, y Cynghorydd Louise Gibbard a Rhian Millar, Mynediad at Wasanaethau. Cofnodion: Darparodd
y Cynghorydd Gibbard adroddiad effaith ysgrifenedig a rhoddodd y diweddaraf i'r
Panel ar y cynnydd a wnaed gyda'r argymhellion y cytunwyd arnynt gan y
Cabinet. Nodwyd y canlynol o'r
drafodaeth: ·
Mae Bwrdd Cydraddoldeb a Chenedlaethau'r Dyfodol strategol newydd wedi'i
sefydlu. Mae gan y bwrdd gyfrifoldeb allweddol am y camau gweithredu a'r
argymhellion yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'r Ymchwiliad Craffu. Mae'r
elfennau hyn wedi'u cynnwys yng nghynllun gwaith y bwrdd. ·
Mae swydd i gefnogi'r bwrdd wedi’i chreu a'i llenwi ac mae'r bwrdd yn
cyfarfod unwaith y mis. Mae enghreifftiau o feysydd y mae'r bwrdd wedi edrych
arnynt hyd yma yn cynnwys data'r gweithlu, strategaeth ymgynghori ac ymgysylltu
ac ymgyrchoedd cadarnhaol ynghylch cydraddoldeb. ·
Ar 10 Rhagfyr 2021 llofnododd Cyngor Abertawe ynghyd â holl aelodau'r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus eu bwriad i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol. Clywodd
y Panel mai bwriad a rennir yw hwn ac mae'n bwysig bod cymunedau lleol a
dinasyddion rhanbarth Abertawe yn cymryd rhan.
Ymgysylltwyd â nifer mawr o bobl gan gynnwys grwpiau cymunedol lleol, ac
mae arolwg ar hyn o bryd i'r cyhoedd ei gwblhau. Gofynnwyd i'r Panel hyrwyddo hwn yn eu
cymunedau lleol, lle bo modd. ·
Clywodd y Panel, er mwyn i ni fodloni'n dyhead i ddod yn Ddinas Hawliau
Dynol, mae angen i ni sicrhau bod hawliau dynol yn sylfaen i'n gwaith i
gynllunio a darparu gwasanaethau. Sefydlwyd pwyllgor llywio i lywio'r nod hwn
sy'n cynnwys swyddogion awdurdodau lleol a chynrychiolwyr o bob un o
sefydliadau'r BGC. ·
Mewn ymateb i'r camau gweithredu i wella data ein gweithlu, mae
Grŵp Cydraddoldebau'r Gweithlu newydd wedi'i
sefydlu i gefnogi'r gwaith o ddarparu atebion cydraddoldeb, i ymgysylltu â'r
gweithlu i ddarparu'r atebion hynny, ac i'n cefnogi i fod yn gyflogwr rhagorol
mewn materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb. Mae rhai o'r gweithgareddau
cychwynnol a nodwyd ar gyfer y Grŵp hwn yn cynnwys: Cefnogi'r gwaith o gyflwyno
ymarfer glanhau data i ddarparu'r data diweddaraf ar nodweddion
gwarchodedig gweithwyr, gan gynnwys dealltwriaeth o'r Gymraeg. Bod yn rhan o'r gwaith o
ddatblygu polisi ac ymagwedd Recriwtio a Dethol y cyngor i greu gweithlu mwy
cynrychioliadol a chynhwysol. Cefnogi'r gwaith o ddatblygu
hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth. Ein helpu ni i ennill
achrediad fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Cefnogi'r gwaith o gyflawni
cynlluniau gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ac LHDT+ Llywodraeth Cymru. ·
Clywodd y Panel am ragor o'r gwaith sydd wedi'i gwblhau mewn perthynas
â'r 18 argymhelliad y cytunwyd arnynt gan y Cabinet, gan gynnwys er enghraifft:
Ailgychwyn y cyfarfodydd Cynghorydd Hyrwyddo a Chynrychiolwyr
Cydraddoldeb.
Y cyfathrebu parhaus â grwpiau cydraddoldeb drwy gydol y pandemig, er y
gwnaed hyn o bell.
Creu'r Fforwm Rhyng-ffydd, a chynnydd y
fforwm.
Cwblhau'r Strategaeth Gofalwyr a ddatblygwyd gan ddefnyddio cydgynhyrchu.
Adnewyddu'r hyfforddiant cydraddoldebau gorfodol
a chydnabod mai'r camau nesaf fydd monitro'r nifer sy'n manteisio ar yr
hyfforddiant a thargedu'r ardaloedd lle nad yw'r nifer gofynnol o staff yn
manteisio arno.
Cwblhau gwefan newydd Cyngor Abertawe ac ymgynghori wrth ddatblygu hyn.
Mae'r gwasanaethau cymdeithasol wedi cwblhau eu strategaeth cydgynhyrchu a'r nod yw defnyddio'r dysgu hwn i wella cydgynhyrchu ar draws y cyngor. ·
Roedd y Panel yn cydnabod bod pandemig COVID-19 yn parhau i ddod â
heriau sylweddol i'r cyngor a bod llawer o swyddogion wedi gorfod symud ffocws
i sicrhau bod gwasanaethau'r cyngor yn cael eu cynnal a bod y rhai mwyaf agored
i niwed yn cael eu cefnogi yn ystod yr argyfwng. Roedd y Panel yn falch o weld
y gwaith enfawr a gwblhawyd drwy gydol yr amser hwnnw, gyda'n cymunedau lleol
ac ar eu cyfer. ·
Roedd y Panel yn hapus â'r cynnydd a wnaed hyd yma, ac roeddent yn falch
o'r effaith gadarnhaol y mae'r ymchwiliad, ac ymrwymiad Aelod y Cabinet dros
Gymunedau Gwell a swyddogion iddo, wedi'i chael i helpu i symud yr agenda
bwysig hon yn ei blaen yn Abertawe. ·
Cytunodd y Panel i gymeradwyo eu cyfranogaeth ddilynol â'r ymchwiliad ar
ôl clywed bod saith o'r argymhellion bellach wedi'u cwblhau a bod cynnydd da
wedi'i wneud gyda'r argymhellion hynny sy'n weddill. Roedd y Panel yn falch o
glywed bod y darnau angenrheidiol ar waith i sicrhau gwelliant parhaus yn y
meysydd hynny lle mae'r argymhellion yn anghyflawn. ·
Hoffai'r Panel gyfeirio un maes ar gyfer camau dilynol yn y
dyfodol. Mae hyn yn ymwneud ag
Argymhelliad 13 - Adeiladu ar ddatblygu Strategaeth Cydgynhyrchu
gan gynnwys pecyn cymorth i'w ddefnyddio gan staff ledled yr awdurdod. Bydd hyn yn cael ei gyfeirio at Bwyllgor
y Rhaglen Graffu, er mwyn creu gweithgor untro i
edrych ar gynnydd yn y flwyddyn ariannol newydd. Daeth y cyfarfod
i ben am 10.50am |
|