Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Datblygu Polisi – Pobl a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2021 fel cofnod
cywir. |
|
Datblygu Strategaeth Wirfoddoli Cyngor Abertawe. (Er gwybodaeth) PDF 242 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Amy Hawkins, Pennaeth Dros Dro’r Gwasanaethau i Oedolion, gyda
chefnogaeth Anthony Richards, Rheolwr Datblygu'r Strategaeth Tlodi a'i Atal,
adroddiad "Er Gwybodaeth" i fanylu ar y cynnydd o ran datblygu Strategaeth
Gwirfoddoli Cyngor Abertawe a chyflwyno diweddariad ar y Prosiect Gwirfoddoli
Rhanbarthol. Roedd Julia Manser, Cyngor Gwasanaethau
Gwirfoddol Abertawe (CGGA), Rheolwr Canolfan Wirfoddoli Abertawe hefyd yn
bresennol i gynorthwyo’r Pwyllgor wrth ddatblygu'r Strategaeth Gwirfoddoli. Amlinellodd yr adroddiad: Ø
Y cefndir; Ø
Mapio cyfleoedd gwirfoddoli presennol a chyfleoedd
gwirfoddoli posib a gynhelir gan Gyngor Abertawe; Ø
Datblygu Strategaeth Gwirfoddoli; Ø
Prosiect Gwirfoddoli Rhanbarthol; Ø
Y camau nesaf Trafododd y pwyllgor: Ø
Elfen ddiogelu gwirfoddoli, yn enwedig i'r rheini sy'n
agored i niwed, gan gynnwys gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd,
goruchwylio gwirfoddolwyr gan reolwyr, asesu risg rolau, sesiynau sefydlu a
hyfforddiant parhaus i wirfoddolwyr a goruchwylwyr/rheolwyr; Ø
Dylid gwneud gwirfoddoli mor hawdd â phosib a'i annog i'r
rheini sy'n dymuno gwirfoddoli; Ø
Dylid nodi nifer y gwirfoddolwyr fel bod gwirfoddolwyr yn
cael eu cefnogi ac egwyddorion y strategaeth yn cael eu gwreiddio yn yr Awdurdod; Ø
Monitro perfformiad a rhannu arfer da; Ø
Wythnos y Gwirfoddolwyr 1-7 Mehefin – annog cyfathrebu i
ddenu gwirfoddolwyr newydd; Ø
Cymorth i wirfoddolwyr adeiladu dulliau effeithiol o ran
dilyniant/cyfleoedd gwaith yn y dyfodol; Ø
Rôl Cyngor Abertawe yn y ddarpariaeth wirfoddoli
ranbarthol ehangach. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Strategaeth Gofalwyr Ifanc. (Diweddariad Llafar) Cofnodion: Rhoddodd Gavin
Evans, Prif Swyddog Cymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc ddiweddariad llafar
ar y Strategaeth Gofalwyr Ifanc, fel a ganlyn: ·
Ers y
cyfarfod diwethaf roedd y Grŵp Partneriaeth wedi'i ailffurfio gyda'r Cylch
Gorchwyl newydd fel y "Grŵp Llywio Gofalwyr Ifanc", gydag
aelodaeth ddiwygiedig i gynnwys y Cynghorydd Ceri Evans, Cadeirydd y PDP Pobl; ·
Datblygu'r
Strategaeth Gofalwyr Ifanc oedd y brif flaenoriaeth o hyd; ·
Roedd
y YMCA wedi sicrhau cyllid i benodi swyddog penodedig i gefnogi'r Gofalwyr
Ifanc; ·
Byddai
Fforwm neu Fwrdd Gofalwyr Ifanc yn cael ei greu lle byddai eu barn ar gyd-gynhyrchu'r
Strategaeth Gofalwyr yn cael ei thrafod.
Mae'n bwysig ei fod yn cael ei arwain gan y bobl ifanc a bod rhwystrau
perthnasol yn cael eu dileu; ·
Roedd
yr amserlen ar gyfer cwblhau'r strategaeth yn debygol o fod ym mis Medi ond
cytunwyd ei fod yn bwysig cael pethau'n iawn yn hytrach na rhuthro'r broses; ·
Roedd
pobl ifanc yn fwy tebygol o awgrymu syniadau blaengar a llwyfannau cyfryngau
cymdeithasol amrywiol ar gyfer datblygu’r Strategaeth. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Prif Swyddog dros Gymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc am y
diweddariad. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Cynllun Gwaith 2020-2021. PDF 223 KB Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2020-2021. Yn ogystal â
pharhau â'r gwaith cyfredol mewn perthynas â'r Strategaeth Gofalwyr Ifanc a'r
Strategaeth Gwirfoddoli, roedd y Cadeirydd wedi cyfarfod â Swyddogion i drafod
yr eitem "Cyflogadwyedd" a awgrymwyd gan y Cynghorydd Alyson Pugh,
Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell.
Byddai’r cynllun Cam Nesa a oedd yn canolbwyntio ar y rheini nad ydynt
mewn Addysg, Cyflogaeth a Chyflogaeth (NEET) yn dod i ben a byddai'n gadael
bylchau ynghylch pa mor agored i niwed y mae rhai unigolion. Gwahoddwyd y swyddogion i ddod i’r cyfarfod
nesaf ym mis Mehefin a bwriedir i’r Pwyllgor ddechrau ar y pwnc gwaith hwn o
fis Gorffennaf 2021. Penderfynwyd y dylid nodi'r Cynllun Gwaith. |