Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2021 fel cofnod
cywir. |
|
Datblygu Strategaeth Gwirfoddolwyr. (Ar lafar) Cofnodion: Rhoddodd Amy Hawkins, Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau i Oedolion, ymateb
llafar mewn perthynas â datblygu Strategaeth Gwirfoddoli Corfforaethol. Cefndir Dywedodd ein bod wedi gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr yn ystod yr
ymateb i COVID-19 a bod yr effaith wedi bod yn aruthrol o fewn y cyngor ac o
fewn cymunedau. Roedd cysylltu cyfleoedd gwirfoddoli o fewn y cyngor yn gam gweithredu ar
gyfer ffrwd waith Cefnogaeth y Gymuned Cynllun Adfer y cyngor. Pam y dylem gael strategaeth gwirfoddoli corfforaethol? ·
Er mwyn sicrhau bod natur
a gwerth cynnwys gwirfoddolwyr yn cael eu deall ar bob lefel o'r cyngor fel bod
gwirfoddolwyr a'r cyngor yn elwa o'r cyfraniad y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud. ·
Gwyddom fod cannoedd o wirfoddolwyr
eisoes yn cyfrannu o fewn gwaith y cyngor ac er budd cymunedol a chymdeithasol
ehangach, er enghraifft; Pwyllgorau, Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd,
Llywodraethwyr Ysgol, aelodau'r CRhA a Hyfforddwyr Chwaraeon Cymunedol,
Cydlynwyr Digwyddiadau, Gwirfoddolwyr Canolfannau Cymunedol a Grwpiau
Cyfeillion. ·
Mae ystod ac ansawdd
gwasanaethau, cyfleusterau, gweithgareddau a bywyd diwylliannol yn elwa o
wirfoddolwyr. ·
Mae gwirfoddoli'n gwella
ansawdd bywyd y gwirfoddolwyr eu hun a'r bobl a'r cymunedau maent yn eu
cefnogi. ·
Mae rheoli a chefnogi
gwirfoddolwyr yn bwysig a bydd y strategaeth wirfoddoli yn sicrhau bod
cefnogaeth a chydnabyddiaeth briodol i'r rhai sy'n gwirfoddoli a'r rhai sy'n
cefnogi gwirfoddolwyr. Egwyddorion Allweddol Gwirfoddoli: 1.
Mae gwirfoddoli'n cael ei
wneud drwy ddewis. Mae gan unigolion yr
hawl i wirfoddoli neu beidio. 2.
Er na ddylai gwirfoddolwyr
fel arfer dderbyn na disgwyl gwobrau neu gymhellion ariannol, dylid eu had-dalu
am dreuliau rhesymol. 3.
Dylai cyfraniad
gwirfoddolwyr a staff cyflogedig gyd-fynd â'i gilydd Ni ddylid defnyddio
gwirfoddolwyr i gymryd lle staff cyflogedig nac i danbrisio eu cyflog a'u
hamodau gwasanaeth. 4.
Dylai gwirfoddolwyr wella
ansawdd gweithgareddau'r cyngor. 5.
Dylai mecanweithiau effeithiol
fod ar waith i gefnogi a datblygu gwirfoddolwyr. 6.
Dylai gwirfoddolwyr (a
staff cyflogedig) allu cyflawni eu dyletswyddau mewn amgylcheddau diogel ac
iach sy'n rhydd o aflonyddwch, bygwth, bwlio, trais a gwahaniaethu. 7.
Dylai gwirfoddolwyr gael mynediad
at gyfleoedd priodol ar gyfer dysgu a datblygu. 8.
Dylid cael proses
gydnabyddedig ar gyfer datrys problemau, ar gyfer staff a gwirfoddolwyr. 9.
Dylai gwirfoddoli fod yn
agored ac yn hygyrch i bawb. 10.
Dylai'r gwirfoddolwr a'r
cyngor elwa o'r berthynas wirfoddoli. 11.
Dylid cydnabod cyfraniad y
gwirfoddolwr. Cynnydd Cyfredol: ·
Sicrhawyd rhywfaint o
gyllid tymor byr ar gyfer cynnydd dros dro mewn oriau ychwanegol i weithwyr
presennol ar sail tasg a gorffen i fapio cyfleoedd presennol a chyfleoedd posib
o fewn eu meysydd gwasanaeth a'u cyfarwyddiaethau. ·
Ar hyn o bryd rydym yn
casglu gwybodaeth am y rolau amrywiol y mae gwirfoddolwyr eisoes yn ymgymryd â
nhw. ·
Yn ogystal â chyfleoedd ar
gyfer rolau y gellid eu datblygu gyda gwasanaethau ar draws y cyngor. ·
Y prosesau a'r
gweithdrefnau sydd eisoes ar waith. ·
Profiadau staff sy'n
gweithio gyda gwirfoddolwyr ar hyn o bryd. ·
Gwybodaeth am fuddion ar y
cyd – budd y rôl wirfoddoli i'r gwasanaeth a'r manteision i'r gwirfoddolwr
megis hyfforddiant, cymwysterau etc. ·
Camau gweithredu
rhanbarthol ychwanegol i gefnogi'r strategaeth hon; Hyfforddiant Gwirfoddoli a
Phecynnau Cymorth i gefnogi sefydliadau mewn amrywiaeth o themâu gwirfoddoli
gan gynnwys; Camau Cyntaf at Wirfoddoli, Gwirfoddoli ar gyfer Gyrfa,
Gwirfoddoli'n Ddiogel – bydd y rhain yn cael eu hychwanegu at ein gwefannau ni
a gwefannau partneriaid. Y Camau nesaf ·
Gorffen y mapio; ·
Cydgynhyrchu'r strategaeth
wirfoddoli; ·
Datblygu ac adnewyddu'r
polisïau/gweithdrefnau gwirfoddoli presennol i gefnogi rhoi'r strategaeth ar
waith; ·
Cymeradwyo, lansio a rhoi
ar waith. Gellid cael rhagor o wybodaeth gan naill ai: Anthony Richards Anthony.Richards@abertawe.gov.uk neu Amy Hawkins Amy.Hawkins@abertawe.gov.uk Roedd Amanda Carr a Julia Manser, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe
(SCVS) sy'n rheoli Canolfan Wirfoddoli Abertawe hefyd yn bresennol i roi cyngor
ac arweiniad, a byddent yn cefnogi gwaith y pwyllgor er mwyn sicrhau bod
Abertawe'n cael ei chydnabod fel Cyngor Rhagoriaeth Gwirfoddolwyr. Diolchodd y Cadeirydd i'r holl swyddogion am ddod i'r cyfarfod ac roedd yn
edrych ymlaen at gael rhagor o wybodaeth yn y cyfarfod nesaf. Penderfynwyd cofnodi'r eitem lafar. |
|
Strategaeth Gofalwyr Ifanc. (Diweddariad Llafar) Cofnodion: Rhoddodd Gavin Evans, Prif Swyddog Cymorth Cynnar,
Partneriaeth a Phobl Ifanc ddiweddariad llafar ar y Strategaeth Gofalwyr Ifanc: ·
Gwahoddwyd y Cynghorydd Ceri Evans i fynychu cyfarfodydd
y grŵp amlasiantaeth yn y dyfodol, trefnwyd y
cyfarfod nesaf yn ystod wythnos gyntaf mis Ebrill 2021; ·
Trefnwyd y Strategaeth Ddrafft ar gyfer diwedd Ebrill
2021; ·
Roedd y grŵp wedi bod yn edrych ar gyflawniadau a
blaenoriaethau a byddai'n canolbwyntio ar gwblhau'r Strategaeth Gofalwyr Ifanc; ·
Er bod Addysg yn cael ei chynrychioli yn y grŵp ar
hyn o bryd, ceisiwyd cynrychiolaeth o bob ysgol i sicrhau y byddai'r gwaith yn
cael ei roi ar waith ar y lefel honno; ·
Roedd hi’n "Ddiwrnod Gofalwyr Ifanc" ddydd
Llun, ond cynhaliwyd Wythnos Gweithredu Gofalwyr Ifanc gyda gweithgareddau
ar-lein amrywiol ar gyfer Gofalwyr Ifanc a'u teuluoedd; ·
Lansiwyd y cerdyn adnabod newydd, ac roedd Abertawe’n un o ddeg
o Awdurdodau Lleol yng Nghymru a wnaeth gymryd rhan; ·
Cyflwynwyd Cyfathrebu Corfforaethol gyda dyfyniadau
amrywiol gan y Gweinidog ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant. Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog Cymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl
Ifanc am y diweddariad llafar. Penderfynwyd cofnodi'r
wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Cynllun Gwaith 2020-2021. PDF 224 KB Cofnodion: Amlinellodd y Cadeirydd y Cynllun
Gwaith ar gyfer 2020-2021. Awgrymodd Alyson Pugh, Aelod y Cabinet
dros Gymunedau Gwell, y gallai'r Pwyllgor gynorthwyo gyda'r materion
cyflogadwyedd mewn perthynas â gwahanol gynlluniau megis y cynllun Kick Start a oedd yn cynnwys
amrywiaeth o asiantaethau allanol. Ar
hyn o bryd, y cyngor sy'n gyfrifol am frysbennu'r cynlluniau hyn er mwyn
sicrhau bod y bobl gywir yn cael eu paru â'r prosiect mwyaf priodol. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
nodi'r cynllun gwaith: 2)
Bydd y pwyllgor yn ystyried ychwanegu
"Cyflogadwyedd" i'w cynllun gwaith ar gyfer 2021-2022. |