Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Cod
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2021 fel cofnod cywir. |
|
Strategaeth Gofalwyr Ifanc. PDF 534 KB Gavin Evans Cofnodion: Darparodd Gavin
Evans, Prif Swyddog dros Gymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc, nifer o
sleidiau PowerPoint mewn perthynas â'r Strategaeth Gofalwyr Ifanc. Amlinellodd y sleidiau: Ø
Trosolwg
o ddatblygiad y strategaeth; Ø
Meysydd
sy'n cael eu datblygu yn y strategaeth; Ø
Nodau/diben
y strategaeth: Cynyddu ymwybyddiaeth o Ofalwyr Ifanc; Cynyddu'r broses o adnabod Gofalwyr Ifanc; Sicrhau'r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir; Ø
Canlyniadau
a mesurau; Ø
Y
camau nesaf Darparodd Egija Cinovska,
Cydlynydd Prosiect Gofalwyr Ifanc YMCA Abertawe, wybodaeth ychwanegol mewn
perthynas â'r cynllun cerdyn adnabod Gofalwyr Ifanc Cenedlaethol. Esboniodd y gallai'r Gofalwyr Ifanc yn yr
ysgol ddefnyddio'r cerdyn, er enghraifft lle'r oedd angen gorffen yn yr ysgol
yn gynnar neu fynd i'r ysgol yn hwyr oherwydd cyfrifoldebau gofalu, neu fel
arall os nad oeddent wedi gallu cwblhau unrhyw waith cartref. Yn ogystal, y gobaith oedd y gellid
defnyddio'r cerdyn mewn fferyllfeydd fel y gallai gofalwr ifanc gasglu
meddyginiaeth ar gyfer ei ddibynnydd, yn ogystal â gallu ei ddefnyddio i gael
pris gostyngol ar gludiant cyhoeddus pe bai angen iddynt hebrwng dibynnydd i
unrhyw apwyntiad a drefnwyd. Byddai'r
cynllun cerdyn adnabod ar sail cymryd rhan yn wirfoddol. Dywedodd y Prif
Swyddog dros Gymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc wrth y Pwyllgor fod
YMCA Abertawe wedi llwyddo i ailgomisiynu'r
gwasanaeth Gofalwyr Ifanc am y 3 blynedd nesaf. Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau a gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau amrywiol i'r
swyddogion, yr ymatebwyd iddynt yn unol â hynny. Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu cyflwyniad llawn gwybodaeth. Penderfynwyd y dylid nodi'r cyflwyniad. |
|
Strategaeth Cyd-gynhyrchu fel offeryn i ddatblygu'r Strategaeth Gofalwyr Ifanc. (Cyflwyniad) Jane Whitmore Cofnodion: Rhoddodd Jane Whitmore,
y Comisiynydd Arweiniol Strategol, gyflwyniad mewn perthynas â sut y gellid
defnyddio'r Strategaeth Cydgynhyrchu fel offeryn i ddatblygu'r Strategaeth
Gofalwyr Ifanc. Amlinellodd: ·
Nod y
strategaeth a gynlluniwyd gan ein dinasyddion; ·
Y
cefndir; ·
Y
Daith i Wreiddio Cydgynhyrchu; ·
Cynnwys
plant a phobl ifanc; ·
Beth
yw ystyr cydgynhyrchu; ·
Ei
egwyddorion; ·
Yr
hyn nad yw'n gydgynhyrchu; ·
Y
gwahaniaeth rhwng cydgynhyrchu ac ymgynghori/cynnwys ac addysg; ·
Sut y
gall cydgynhyrchu weithio; ·
Sut y
gall cydgynhyrchu ddatblygu Strategaeth Gofalwyr Ifanc. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddog am ei chyflwyniad a dywedodd y dylai'r Pwyllgor Datblygu
Polisi Pobl fabwysiadu proses y Strategaeth Cydgynhyrchu ar gyfer ei holl
eitemau cynllun gwaith yn y dyfodol. Penderfynwyd y dylid nodi'r cyflwyniad. |
|
Cynllun Gwaith 2020-2021. PDF 223 KB Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2020-2021. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Darparu
diweddariad llafar ar y Strategaeth Gofalwyr Ifanc yn y ddau gyfarfod sy'n
weddill o'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl ar gyfer 2020-2021; 2) Dylid ychwanegu "Datblygu Strategaeth Gwirfoddolwyr" at yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 17 Mawrth 2021. |