Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgorau Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 21 Hydref ac 18 Tachwedd 2020
fel cofnod cywir. |
|
Cynllun Gwaith 2020-2021. PDF 222 KB Cofnodion: Atgoffodd y
Cadeirydd y Pwyllgor fod Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol,
wedi mynychu'r cyfarfod ar 21 Hydref 2020 i amlinellu darpar eitemau i'r
Pwyllgor eu hystyried ar gyfer ei Gynllun Gwaith ar gyfer 2020-2021. Yn
anffodus, ers hynny, bu heriau digynsail yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol
i Oedolion ac ar hyn o bryd nid oeddent yn gallu darparu'r adnoddau perthnasol
i'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl er mwyn datblygu'r eitemau a drafodwyd yn
flaenorol. Felly, yn dilyn trafodaethau pellach gyda
Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac aelodau perthnasol y Cabinet,
argymhellwyd bod y Pwyllgor yn ystyried gwaith mewn perthynas â'r Gwasanaethau
Plant, yn enwedig "Gofalwyr Ifanc - Sicrhau lles gofalwyr ifanc yng
nghyd-destun COVID-19". Daeth Gavin
Evans, Prif Swyddog Cymorth Cynnar,
Partneriaeth a Phobl Ifanc,
i'r cyfarfod i roi trosolwg o'r sefyllfa bresennol yn Abertawe mewn perthynas â
Gofalwyr Ifanc. Ar hyn o bryd, YMCA Abertawe sydd â'r
contract ar gyfer Gofalwyr Ifanc yn Abertawe, ac maent yn darparu elfennau
gwahanol o gymorth megis Grwpiau Ieuenctid, asesiad un i un o anghenion a'r Cynllun Adnabod –
cynllun sy'n benodol i Abertawe ar hyn o bryd ond gobeithio y bydd yn dod yn
genedlaethol. Er mai YMCA Abertawe sydd â'r contract
ar gyfer Gofalwyr Ifanc yn Abertawe ar hyn o bryd, roedd proses ail-gomisiynu
wrthi'n cael ei chynnal a byddai canlyniad y cynigydd llwyddiannus yn hysbys ym
mis Ionawr 2021. Byddai'r cynigydd
llwyddiannus yn cael ei wahodd i gyfrannu at y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor
drwy ddull cyd-gynhyrchu. Aeth y Prif Swyddog ymlaen i amlinellu'r
grwpiau amrywiol a oedd wedi cwrdd yn ystod y pandemig, gan gynnwys cyfarfodydd
gweithgor rheolaidd gydag YMCA Abertawe er mwyn sicrhau bod gofalwyr ifanc yn
cael eu cefnogi. Roedd dulliau cyfathrebu newydd wedi'u datblygu drwy wahanol
lwyfannau digidol ac roedd adnoddau ar-lein hefyd yn cael eu defnyddio. Yn ogystal, prynwyd 20 gliniadur o ganlyniad
i gyllid gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cael ei fenthyg i'r Gofalwyr Ifanc drwy
YMCA Abertawe. Roedd gwaith yn mynd rhagddo mewn
perthynas ag arolwg ar farn ac effaith COVID-19 ar ofalwyr ifanc hyd at 18
oed. Byddai Egija Cinovska, Cydlynydd y
Prosiect Gofalwyr Ifanc yn YMCA Abertawe, a oedd wedi gweithio'n helaeth gyda
gofalwyr ifanc, yn cael ei gwahodd i gyfarfod yn y dyfodol i rannu ei
gwybodaeth pe bai YMCA Abertawe yn llwyddiannus yn y broses ail-gomisiynu. Roedd grŵp trawsadrannol gan
gynnwys swyddogion Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Gwasanaethau
Plant a Theuluoedd, Timau Blynyddoedd Cynnar ac Iechyd wedi bod yn datblygu
Strategaeth Gofalwyr Ifanc 3 blynedd newydd. Y gobaith oedd y byddai'r gwaith
yn cael ei gwblhau erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf a'i gyd-gynhyrchu gydag
YMCA Abertawe a'r Gofalwyr Ifanc eu hunain. Trafodwyd yr heriau amrywiol sy'n cael
eu hwynebu gan y Gofalwyr Ifanc a thrafodwyd y materion cymhleth, a gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau amrywiol, yr ymatebwyd iddynt gan y Prif Swyddog. Nodwyd a gwerthfawrogwyd cyfraniadau'r
gwesteion a wahoddwyd hefyd. Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog
dros Gymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc am fod yn bresennol i ddarparu'r trosolwg. Aeth ymlaen i egluro bod Cyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn i'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl gymryd
rôl fwy canolog wrth ddatblygu'r darn hwn o waith ac awgrymodd y dylid cynnal gweithgorau
yn ogystal â chyfarfodydd Pwyllgor ffurfiol.
Byddai dogfennau cefndir amrywiol yn cael eu e-bostio at y Pwyllgor cyn
y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr 2021. Penderfynwyd y byddai'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl yn
ystyried yr eitem ganlynol ar gyfer Cynllun Gwaith 2020-2021: Gofalwyr Ifanc - Sicrhau lles gofalwyr ifanc yng nghyd-destun COVID-19 i
ddatblygu polisi a fydd yn: ·
Casglu barn gofalwyr ifanc ar yr effaith y mae COVID-19 wedi'i
chael ar eu lles, gan gyfeirio'n benodol at effaith y cyfyngiadau symud; ·
Cyd-gynhyrchu ystod o fesurau a allai gefnogi gofalwyr yn
well pe bai'r firws yn cychwyn eto yn y dyfodol neu pe bai cyfyngiadau symud
eraill ar waith er mwyn sicrhau eu lles; ·
Nodi unrhyw newidiadau yn y ddarpariaeth gwasanaeth a
weithredwyd yn ystod y cyfyngiadau symud a weithiodd yn dda; ·
Adeiladu ar y ddarpariaeth bresennol o gymorth i ofalwyr
yn Ninas a Sir Abertawe; ·
Cynnwys barn amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys;
Cynghorwyr, gofalwyr, y rhai sy'n derbyn gofal, Canolfan Gofalwyr Abertawe,
darparwyr trydydd sector, Addysg a rhanddeiliaid perthnasol eraill y gellir eu
nodi. |