Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2019 fel cofnod
cywir. |
|
Trosglwyddo ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd Chris Francis, Prif Arweinydd Datblygu a
Chomisiynu Busnes y diweddariad llafar canlynol: Roedd y Grŵp Llywio wedi parhau
â'i waith gan ganolbwyntio ar y Polisi Trosglwyddo Drafft. Roedd y Grŵp yn
cynnwys cynrychiolaeth gan bartneriaid mewn Addysg, Gwasanaethau i Oedolion,
Iechyd ac aelodau o'r Fforwm Gofalwyr sy'n Rieni. Mae'r Polisi Drafft wedi'i
ddosbarthu i aelodau o'r Grŵp Llywio a byddai'n cael ei ystyried ganddynt
yn eu cyfarfod nesaf ddydd Gwener, 17 Ionawr 2020. Y gobaith oedd y byddai'r
ddogfen wedyn yn barod i'w dosbarthu i randdeiliaid
eraill ar gyfer ymgynghoriad ehangach, gan gynnwys i'r Pwyllgor Datblygu Polisi
Pobl. Dywedodd y Prif Arweinydd Datblygu a
Chomisiynu Busnes bod newidiadau sylweddol ar droed yn y maes gwaith hwn ac nad
oedd yn eglur beth yn union fyddai'r goblygiadau i'r cyngor a'r Bwrdd Iechyd.
Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys y Ddeddf Tribiwnlys Addysg newydd ac
Arweiniad Llywodraeth Cymru ar gyfer Plant ag Anghenion Cymhleth. Roedd gan y
ddwy ddogfen adrannau a oedd yn ymwneud â Throglwyddo
wedi'u cynnwys ynddynt, y byddai angen eu cynnwys mewn unrhyw bolisi newydd a
oedd yn cael ei ystyried i'w fabwysiadu gan y cyngor. Dywedodd hefyd fod Bwrdd Rhaglen
Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg yn parhau a'i waith ar gefnogi plant â'r
anghenion mwyaf cymhleth. Cynhaliwyd adolygiad yn ddiweddar a gwaed cyfres o
argymhellion. Byddai'r Bwrdd yn cyfarfod eto'r
wythnos hon i ystyried a ellid ailadrodd y gwaith cadarnhaol a wnaed mewn
perthynas â Throglwyddo ar draws y rhanbarth. Cydnabu'r Prif Arweinydd Datblygu a
Chomisiynu Busnes fod cryn dipyn o waith yn cael ei wneud mewn perthynas â Throglwyddo ar lefel uwch, a allai newid y cyfeiriad
teithio yn y dyfodol. Dywedodd wrth y Pwyllgor ei fod hefyd
wedi cadeirio cyfarfod Rheolwyr Amlasiantaeth ynghyd
â chynrychiolwyr o’r meysydd Addysg, Iechyd a’r Gwasanaethau i Oedolion.
Roeddent wedi bod yn gweithio ar greu rhestr gynhwysfawr o bobl ifanc y credwyd
y byddai angen cefnogaeth amlasiantaeth arnynt wrth
iddynt drosglwyddo i fod yn oedolion. Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis
Chwefror, lle byddent yn adolygu'r rhestr i sicrhau ei bod yn gywir a byddai'n
rhaid sefydlu cynlluniau cadarn er mwyn cefnogi'r bobl ifanc yn ystod y cyfnod troglwyddo. Gofynnodd y Pwyllgor nifer i
gwestiynau, ac ymatebodd y swyddog iddynt yn briodol. Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif
Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes am y diweddariadau a chafwyd trafodaeth
ynghylch y camau nesaf mewn perthynas â'r Polisi Troglwyddo
Drafft. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r diweddariad; 2)
Dosbarthu'r Polisi Troglwyddo
Drafft i'r Pwyllgor Datblygu Pobl ar yr un pryd ag y caiff ei ddosbarthu i randdeiliaid i ymgynghori arno; 3)
Cynnal gweithdy yn syth ar ôl y cyfarfod
nesaf ar 19 Chwefror 2020 er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried y Polisi Troglwyddo Drafft. |
|
Ymagwedd Strategol at Fodelau Comisiynu - Modelau Gofal a Chefnogaeth Newydd. (Llafar) Cofnodion: Eglurodd Jane
Whitmore, Rheolwr Partneriaethau a Chomisiynu, y byddai Lisa Banks, Swyddog
Cynllunio Uned Contract a Chynllunio yn yr Hwb Comisiynu, a hithau'n
darparu sesiwn mewn arddull gweithdy yn syth ar ôl y Pwyllgor. Fe fyddai'r pwyllgor
yn archwilio eu gwaith parhaus ar ystyried y Modelau Gofal a Chefnogaeth Newydd
ar gyfer y Modelau Comisiynu ymhellach mewn perthynas â'u trafodaethau
blaenorol ar Fentrau Cymdeithasol. Fel y gofynnwyd amdano yn y cyfarfod blaenorol ym mis Tachwedd 2019, roedd Lisa Banks wedi gwneud cryn dipyn o waith ymchwil sylweddol ar y pwnc. Byddai angen i'r Pwyllgor ystyried beth oedd y cyfleoedd, y risgiau, y rhwystrau a'r camau perthnasol y byddai angen eu cymryd i symud y darn hwn o waith yn ei flaen. Penderfynwyd y dylid diweddaru'r pwyllgor ar ganlyniadau'r gweithdy mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Cynllun Gwaith 2019-2020. PDF 137 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2019-2020. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
Cynllun Gwaith; 2)
Bydd
y Pwyllgor yn cynnal gweithdy mewn perthynas â'r Polisi Trosglwyddo Drafft yn
syth ar ôl ei gyfarfod ar 19 Chwefror 2020; 3) Diweddaru'r Pwyllgor ar y gweithdy a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2020 ar yr "Ymagwedd Strategol at Fodelau Comisiynu - Modelau Newydd o Ofal a Chefnogaeth" mewn cyfarfod yn y dyfodol. |