Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2019 fel cofnod cywir. |
|
Ymagwedd Strategol at Fodelau Comisiynu - Modelau Gofal a Chefnogaeth Newydd. (Cyflwyniad) Cofnodion: Rhoddodd Jane
Whitmore, Rheolwr Partneriaethau a Chomisiynu, a Lisa Banks, Swyddog Cynllunio
Uned Contract a Chynllunio yn yr Hwb Comisiynu, ddiweddariad ar yr Ymagwedd
Strategol i Fodelau Comisiynu ynghylch Modelau Gofal a Chefnogaeth Newydd. Yn dilyn
trafodaethau blaenorol mewn perthynas â modelau cyflwyno amgen, amlinellodd y
swyddogion fanylion cyllid ar gyfer cynllun peilot mewn perthynas â'r Gronfa
Her yr Economi Sylfaenol. Byddai hyn yn datblygu ymagweddau newydd o ddylunio,
caffael a darparu gofal a chymorth lefel isel yn y gymuned. Nod Cronfa Her yr
Economi Sylfaenol, a oedd yn ymateb i Brexit yn
wreiddiol, oedd profi ffyrdd newydd o feithrin a thyfu rhannau bob dydd economi
Cymru, ac roedd yn rhan o waith Llywodraeth Cymru i gyrraedd y cymunedau hynny
ledled Cymru a oedd yn teimlo eu bod wedi colli diddordeb ac wedi’u gadael ar
ôl. Cyflwynodd Cyngor
Abertawe gais ar gyfer £100,000 o gyllid i ddatblygu adnodd i brofi dwy
ymagwedd newydd o ddylunio a chaffael gwasanaethau ac i ddarparu gwasanaethau
mewn ardaloedd gwledig yn Abertawe i: ·
Gefnogi
pobl sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth lefel isel i ddod ynghyd i ddylunio
a chaffael eu gwasanaeth eu hunain, gan ddefnyddio taliadau uniongyrchol ac
ymagweddau cydweithredol; ·
Gweithio
mewn cymunedau ochr yn ochr â Chydlynwyr Ardal Leol i ddod o hyd i unigolion i
ymuno â'r gweithlu gofal cymdeithasol trwy ddatblygu trefniadau ar gyfer
mentrau bach, mentrau cymdeithasol neu gydweithredol i ddarparu gofal a
chefnogaeth lefel isel. Gwnaethant egluro
nad oedd ardaloedd gwledig yn broffidiol i gwmnïau rhyngwladol mawr a oedd yn
ei chael hi’n anodd recriwtio ar yr amodau a'r telerau yr oeddent yn gallu eu
cynnig o fewn yr adnoddau cyfredol, gan olygu bod prinder gofal a chefnogaeth
mewn ardaloedd gwledig. Roedd darparwyr lleol hefyd wedi cael eu gorfodi o'r
farchnad. Nid oedd y gofal
a'r gefnogaeth a gynigiwyd o fewn yr adnoddau
cyfredol mor hyblyg ag yr hoffai pobl iddo fod ac nid oedd yn canolbwyntio ar y
person. Nid oedd pobl yn rheoli dyluniad na darpariaeth eu gofal a'u cefnogaeth
o ddydd i ddydd. Nid oedd Taliadau
Uniongyrchol yn ddeniadol ar hyn o bryd gan mai ychydig iawn y gallai rhywun ei
brynu. Roedd yr awdurdod
hefyd eisiau adeiladu ar ymagwedd ein Cydlynydd Ardal Leol wrth adeiladu
cymunedau cryf a gwydn lle gallai pobl a oedd angen gofal a chefnogaeth gael eu
cefnogi gan bobl a oedd mewn sefyllfa i'w ddarparu'n hyblyg, yn lleol a chyda
thelerau ac amodau gwell. Y gobaith oedd y
byddai'r cynllun yn cyflawni; ·
Cynnydd
yn y defnydd o Daliadau Uniongyrchol a chynnydd yn nifer yr unigolion sy'n
cydweithredu i ddiwallu eu hanghenion a rennir; ·
Cynnydd
yn nifer y mentrau bach, a’r cydweithfeydd sy'n darparu gofal cymdeithasol mewn
ardaloedd gwledig, a thrwy hynny gynyddu argaeledd cyflenwad a chreu dewis a
lleihau rhestrau aros; ·
Gwell
cefnogaeth hyblyg sy'n canolbwyntio ar y person ac y bydd pobl yn ei rheoli,
gan arwain at ganlyniadau gwell; ·
Dod â
phobl i mewn i'r gweithlu gofal cymdeithasol gydag amodau a thelerau gwell a
chreu cyfoeth lleol. Gwnaethant egluro
bod y model hwn wedi'i brofi yng Ngwlad yr Haf lle cafwyd anawsterau wrth ddod
o hyd i ddarparwyr gofal cartref ar draws y sir. Maent wedi ddarganfod bod y
cynllun wedi dod yn hunangynhaliol ar ôl 3 blynedd. Yn ogystal, roedd
Powys a Sir Benfro hefyd ar y camau cynnar o wneud cais am gyllid ar gyfer
cynlluniau tebyg. Roedd y sylwadau
gan y pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: ·
Cronni
taliadau a sut y byddai defnyddwyr yn defnyddio'r cyfleusterau; ·
A
fyddai gwaith yn cael ei wneud gyda Chynghorau Cymuned a Thref; ·
Y
gofynion ar gyfer cofrestru (neu beidio) gydag Arolygiaeth Gofal Cymru; ·
Pryder
ynghylch sicrhau ansawdd/cymwysterau a hyfforddiant/cost-effeithiolrwydd; ·
Ystyriaethau
megis atebolrwydd, yswiriant, rhoi meddyginiaethau, ac ati; Mewn ymateb i sylwadau, cadarnhaodd swyddogion y canlynol; ·
Pwrpas
y cyllid oedd datblygu model gofal newydd yn hytrach nag ariannu'r prosiect go
iawn; ·
Disgwyliad y byddai'r cynllun yn dod yn hunangynhaliol; ·
Gweithio gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru ar hyn o bryd
mewn perthynas â 5 oedolyn ag anableddau dysgu a oedd wedi cronni eu harian i
gomisiynu gwasanaethau drwy asiantaeth. Cytunodd y pwyllgor y byddai cyfrannu at weithredu'r prosiect hwn yn
bodloni gofynion ymagwedd strategol yr awdurdodau i fodelau comisiynu ynghylch
modelau gofal a chefnogaeth newydd. Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â phrosiect
Gwlad yr Haf a chytunwyd y byddent yn cynnal digwyddiad ar ffurf gweithdy yn
syth ar ôl cyfarfod y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 15 Ionawr 2020. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r cyflwyniad; 2)
Bydd y Pwyllgor yn derbyn diweddariadau llafar yn ei gyfarfodydd
a drefnwyd ar gyfer 18 Rhagfyr 2019 a 15 Ionawr 2020; 3)
Bydd y Pwyllgor yn cynnal gweithdy mewn perthynas â
Chronfa Her yr Economi Sylfaenol yn syth ar ôl ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2020. |
|
Cynllun Gwaith 2019-2020. PDF 137 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2019-2020. Penderfynwyd nodi'r Cynllun Gwaith diwygiedig: ·
Aildrefnu
Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygiad) (2019) hyd at 18 Rhagfyr 2019 oherwydd nad
oedd swyddogion ar gael. ·
Bydd
y Pwyllgor yn derbyn diweddariadau llafar ar Ymagwedd Strategol i Fodelau Comisiynu
- Modelau Gofal a Chefnogaeth Newydd yn ei gyfarfodydd a drefnwyd ar gyfer 18
Rhagfyr 2019 a 15 Ionawr 2020; · Mae'r Pwyllgor yn cynnal gweithdy mewn perthynas â Chronfa Her yr Economi Sylfaenol yn syth ar ôl cyfarfod 15 Ionawr 2020. |