Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Datblygu Polisi – Pobl a gynhaliwyd ar 17 Gorff 2019 fel cofnod
cywir. |
|
Trosglwyddo ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd. (Llafar) Gwahoddir cynrychiolwyr o’r Grŵp Arweinyddiaeth Rhieni/Gofalwyr Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd Heidi Lythgoe a Chris Law o Fforwm Rhieni a
Gofalwyr Abertawe i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am gymryd o'u hamser i siarad
â'r Pwyllgor. Esboniodd fod y Pwyllgor
wedi bod yn ystyried eitem Trosglwyddo yn barhaus ers y blwyddyn ddinesig
flaenorol. Diben y gwahoddiad oedd dod i ddeall rôl Fforwm Rhieni a Gofalwyr Abertawe'n well a sicrhau bod adborth digonol oddi wrth y
plant/bobl ifanc a'u teuluoedd y parhau er mwyn gwella a diweddaru'r Polisi'n
unol â hynny. Amlinellodd Chris
Francis, Swyddog Arweiniol, y cefndir ac amlinellodd fod yr awdurdod lleol wedi
darparu'r gyllideb annibynnol newydd ei sefydlu ar gyfer Fforwm Rhieni a
Gofalwyr Cymru. Y gobaith oedd y
byddai'r cynllun yn cael ei efelychu mewn mannau eraill o Gymru. Esboniodd y
cynnydd hyd yn hyn: ·
Gwaith
i wella trefniadau ynghylch asesiadau gofalwyr: ·
Gweithio'n
agos gyda'r Adran Addysg mewn perthynas ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r
Ddeddf Tribiwnlys; ·
Gweithio
gyda Grŵp Cynnig Abertawe i ddatblygu platfform ar-lein ar gyfer plant ag
anableddau a'u teuluoedd er mwyn eu hyrwyddo ac i roi gwybod iddynt am y
gwasanaethau sydd ar gael yn Abertawe.
Cydnabuwyd y gallai rhai o'r llwybrau a'r prosesau fod yn gymhleth; ·
Crëwyd
Grŵp Tasg a Gorffen amlasiantaeth sy'n cynnwys 2
aelod o'r Fforwm Rhieni a Gofalwyr i edrych ar drosglwyddo. Byddai'r aelodaeth
yn cael ei hadolygu er mwyn sicrhau bod rhaniad cyfartal rhwng swyddogion a
rhieni/gofalwyr; ·
Byddai
barnau ysgolion a phenaethiaid Ysgolion Arbennig a'r Bwrdd Iechyd yn cael eu
casglu er mwyn deall eu hopsiynau yn well;
·
Roedd
Tom Jones, Gweithiwr Cyfranogiad a Hawliau Plant wedi bod yn arwain darn o
waith i gael barn y bobl ifanc. Esboniodd Heidi Lythgoe, Cadeirydd Fforwm Rhieni a Gofalwyr Abertawe ei bod
hi wedi bod yn gweithio gyda'r Fforwm am 18 mis. Eu prif rôl yw gwella cyfranogiad gyda
rhieni/gofalwyr plant ag anableddau.
Arweiniwyd y Fforwm yn wreiddiol gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol
Abertawe, Gweithredu dros Blant a Chyswllt ar gyfer Teuluoedd â Phlant Anabl,
sydd wedi bod yn cefnogi'r grŵp er mwyn ei ddatblygu. Maent hefyd wedi
datblygu eu blaenoriaethau eu hunain a oedd yn debyg i rai Cyngor Abertawe ond
yn canolbwyntio mwy ar yr hyn sy'n bwysig i'r rhieni/gofalwyr a'u teuluoedd.
Mae aelodaeth y grŵp wedi bod yn llyfn am fod rhwymedigaethau gofal
sylweddol ond gwnaed cynnydd cyson eisoes. Yn wreiddiol, canolbwyntiwyd yn
bennaf ar sefydlu'r grŵp ac ar hyn o bryd maent yn gweithio gyda'r
awdurdod lleol ar asesiadau trosglwyddo/ADY/gofalwyr. Rhoddodd Chris
Law wybod i'r Pwyllgor am lansiad Fforwm Rhieni a Gofalwyr Abertawe a gynhelir
ddydd Gwener 18 Hydref yn Theatr y Grand Abertawe. Sicrhawyd Carrie
Grant fel siaradwr gwadd. Mae ganddi brofiad personol o blant ag anghenion
arbennig. Meddai y byddai'n gyfle gwych i'r Pwyllgor fod yn bresennol yn y
lansiad a chwrdd â rheini/gofalwyr eraill o Abertawe. Gwahoddwyd aelodau
Cynulliad lleol hefyd. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor, nododd cynrychiolwyr y Fforwm Rhieni a Gofalwyr
y canlynol; ·
Cynhaliwyd
trafodaethau cychwynnol gyda'r Bwrdd Iechyd mewn perthynas â'i gyfraniad. Mae rhai cynrychiolwyr o'r Fforwm Rhieni a
Gofalwyr hefyd wedi cymryd rhan drwy gysylltiadau â Bwrdd Rhanbarthol Bae'r
Gorllewin (Bae'r Gorllewin gynt).
Byddai'r Awdurdod Lleol yn parhau i weithredu fel cyfrwng cyfathrebu; ·
Yn
ogystal, ar y cyd â'r Awdurdod Lleol, mae'r Fforwm wedi bod yn ymgysylltu ag
ysgolion mewn perthynas â'r Ddeddf ADY a'r cwricwlwm newydd, y bydd y ddau
ohonynt yn newid bywydau rhai teuluoedd.
Fodd bynnag, mae'r gwaith wedi dechrau er mwyn paratoi ar gyfer y
newidiadau hyn. Cydnabuwyd bod ADY yn
faes cymhleth ac yn anodd i'r rhieni a'r ysgolion ei reoli. Byddai'n gofyn am newid mewn diwylliant a chydgynhyrchu ar y lefel hon - byddai hyn yn gwneud
gwahaniaeth enfawr. Dylid rhoi
ystyriaeth i sut olwg fyddai ar fywyd i blant ag anableddau. Dylid bod cynhwysiad cyffredinol yn digwydd
ym mhob ysgol; ·
Roedd
rôl ar gyfer Cynghorwyr er mwyn helpu. Roedd
Panel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi ystyried
gwahanol elfennau a byddant yn parhau i gyfrannu a darparu cefnogaeth; ·
Mae
Grŵp Tasg a Gorffen wedi bod yn gweithio ar fapio proses yr Asesiadau o
Ofalwyr. Roedd arolwg yn y broses o gael
ei lunio er mwyn cael barn ar y broses a’i gwella wrth fynd ymlaen; ·
Cydnabuwyd
nad oedd y cyfathrebu rhwng y defnyddwyr gwasanaeth a'r gwasanaethau
cymdeithasol yn gyson. Byddai'r arolwg
yn nodi mannau problemus a fyddai'n cael eu hystyried gan y Grŵp Tasg a
Gorffen; ·
Byddai'r
gyllid a ddarperir gan Gyngor Abertawe'n dod i ben ym
mis Ebrill 2020. Y bwriad ar gyfer y
dyfodol yw i'r grŵp fod mewn sefyllfa i fod yn hunan-gynaliadwy, fodd
bynnag, byddai'r awdurdod yn parhau i helpu'r grŵp wrth wneud cais am
gyllid gan y ffynonellau perthnasol.
Nodwyd ei fod yn bwysig nad yw'r gofalwyr "ar eu colled" mewn
perthynas â mynd i gyfarfodydd y Fforwm a chostau goblygiadau gofal. Byddai hyn yn cael ei ystyried gan y
Grŵp Rhanddeiliaid Strategol; ·
Dylai
trafodaethau barhau â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â ffrydiau cyllido a
hyrwyddo'r Fforwm oherwydd ffocws Llywodraeth Cymru ar gydgynhyrchu; ·
Mae'r
gwaith wedi dechrau mewn perthynas â chyfathrebu â'r rheini â rhieni/gofalwyr y
mae'n anodd eu cyrraedd; Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolwyr Fforwm Rhieni a Gofalwyr Abertawe am fod yn bresennol
yn y Pwyllgor. Penderfynwyd anfon y gwahoddiad ar gyfer lansiad Fforwm Rhieni a Gofalwyr Abertawe ymlaen i'r Cadeirydd i'w gylchredeg. |
|
Cynllun Gwaith 2019-2020. PDF 136 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2019-2020. Adroddodd fod
eitem ymagwedd y cyngor at gomisiynu strategol wedi'i gohirio tan y cyfarfod ar
16 Hydref 2019 am nad oes swyddog ar gael. O ganlyniad,
byddai'r holl eitemau misol mewn perthynas â'r pwnc hwn yn cael eu hail-drefnu
yn unol â hynny. Yn ogystal, roedd
Pennaeth Gweithredol y Gwasanaethau i Oedolion wedi gofyn i'r pwyllgor dderbyn
adroddiad diwygiad Bil Deddf Galluedd Meddyliol
(2019) yng nghyfarfod mis Tachwedd. Penderfynwyd y dylid
diweddaru’r Cynllun Gwaith yn unol â hynny. |