Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2019 fel cofnod cywir. |
|
Trosglwyddo ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd. PDF 231 KB Cofnodion: Cyflwynodd Chris Francis, Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes, yr
adroddiad Trosglwyddo ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd. Roedd yr
adroddiad yn darparu crynodeb o'r gwaith ar drosglwyddo a wnaed gan y pwyllgor
fel rhan o'r rhaglen waith gytunedig ar gyfer 2018/19. Tynnodd yr adroddiad sylw at y ffaith bod plant ag anableddau a/neu
anghenion dysgu ychwanegol wedi profi newid mewn nifer o feysydd wrth iddynt
gyrraedd 18 oed a dod yn oedolyn: o Wasanaethau Plant a Theuluoedd i
Wasanaethau i Oedolion, o wasanaethau pediatrig i wasanaethau iechyd oedolion,
o ysgol uwchradd i addysg uwch ac o ddibyniaeth plentyndod i ymreolaeth
oedolyn. Gallai'r newidiadau hyn fod yn anodd, yn frawychus ac yn peri straen i
bobl ifanc. Pe na bai'r rhain yn cael eu rheoli'n iawn, roedd risg y byddai’r
person ifanc yn profi canlyniadau gwael. Gallai hefyd beri straen sylweddol i
deuluoedd ac effeithio ar berthnasoedd teuluol. Archwiliodd yr adroddiad gynigion i wella ansawdd trefniadau trosglwyddo yn
Abertawe, gyda ffocws penodol ar sut y byddai llais a dewis dinasyddion yn
dylanwadu ar bolisi ac ymarfer. Diben y weledigaeth ar gyfer fframwaith polisi
yn y dyfodol, yn fras, oedd hyrwyddo gwasanaethau cydlynol a phroses lai
cymhleth. Roedd hyn yn cael ei gydlynu'n well ar gyfer yr unigolyn a oedd yn
galluogi gweithio ar y cyd ac integreiddio proffesiynol agos, a byddai'n osgoi
newidiadau sy'n creu ansicrwydd i'r person ifanc a'i deulu. Byddai'r polisi
hefyd yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd sy'n helpu i
sicrhau gwerth am arian. Roedd yr
adroddiad hefyd yn trafod y cyd-destun polisi; ymchwil bresennol; gwaith a
wneir gan y pwyllgor; sut mae trosglwyddo'n gweithio ar hyn o bryd ar draws y
system iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, gan ganolbwyntio'n arbennig ar
brofiad y dinesydd; cynlluniau presennol i wella trosglwyddo; cynigion posibl i
wella materion gan ganolbwyntio’n arbennig ar lais a dewis dinasyddion;
diweddariad a'r ffordd ymlaen. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i'r swyddog, ac ymatebodd yn briodol. Canolbwyntiodd y trafodaethau ar y canlynol:
- ·
Ymgynghori'n
effeithiol gyda â grwpiau rhieni/gofalwyr a chyrraedd pob rhwydwaith; ·
Sicrhau
bod cynlluniau gofal unigol yn gadarn; ·
Is-adrannau’r
Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydweithio'n effeithiol er lles unigolion. Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am ddarparu'r adroddiad. Penderfynwyd: - 1) nodi cynnwys yr adroddiad; 2)
y bydd polisi newydd ar
gyfer trosglwyddo pobl ifanc i fyd oedolion yn cael ei baratoi i ddisodli'r
fersiwn bresennol (dyddiedig 2011) a chaiff datblygiad y polisi newydd ei
oruchwylio gan y Pwyllgor Datblygu Polisi gyda'r disgwyliad y bydd yn cael ei
gwblhau erbyn mis Medi 2018; 3)
y bydd rhanddeiliaid
allweddol yn cymryd rhan yn natblygiad y polisi, bydd Swyddog Cyfranogiad a
Hawliau Plant yn gyfrifol am waith i sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd
yn cymryd rhan lawn a bydd adroddiad sy'n rhoi manylion eu hadborth yn cyd-fynd
â'r polisi pan fydd yn cael ei ddosbarthu i'w gymeradwyo. |
|
Byw â Chymorth - Adroddiad drafft i'r Cabinet. PDF 287 KB Cofnodion: Cyflwynodd Mark
Campisi, Prif Swyddog Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, yr Adroddiad Byw â
Chymorth drafft i'r Cabinet. Roedd yr
adroddiad yn darparu'r trefniadau ar gyfer hysbysu Aelod y Cabinet ac aelodau ward
lleol pan oedd cyfleuster byw â chymorth yn cael ei ddatblygu yn eu hardal.
Roedd hyn er mwyn caniatáu i wybodaeth gael ei rhoi i bartïon perthnasol fel
bod yr aelodau'n gallu ymateb mewn ffordd wybodus a sensitif i'r ymholiadau pe
bai problemau’n codi yn eu hardaloedd ward. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i'r swyddog, ac ymatebodd yn briodol. Canolbwyntiodd y trafodaethau ar y canlynol:
- ·
Pobl ddiamddiffyn mewn llety byw â chymorth yn cael eu
targedu gan grwpiau cyffuriau Country Lines, atal
pobl rhag cael eu targedu, a hyfforddiant diogelu penodol i gontractwyr; ·
Y posibilrwydd o wneud hyfforddiant diogelu staff
gorfodol penodol yn un o delerau contractau darparu gwasanaeth yn y dyfodol; ·
Aelodau etholedig yn cael gwybod am dai preifat sy'n cael
eu defnyddio yn eu wardiau gan gontractwyr sy'n gofalu am bobl ddiamddiffyn fel
a amlinellwyd ym mharagraff 4.3 yr adroddiad. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad. Penderfynwyd cytuno ar yr adroddiad a'i anfon i'r Cabinet i'w gymeradwyo. |
|
Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. (Diweddariad ar lafar) Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd wrth y Pwyllgor, yn absenoldeb Simon Jones, Swyddog Strategaeth a
Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol, y byddai'r pwnc yn cael ei
drafod yn y flwyddyn ddinesig newydd, yn amodol ar y blaenoriaethau a bennwyd
gan Aelod perthnasol y Cabinet/Cadeirydd y pwyllgor. Amlygodd y
pwyllgor yr angen i gontractwyr ymgymryd â hyfforddiant penodol er mwyn sicrhau
contractau yn y dyfodol. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n trosglwyddo sylwadau'r
pwyllgor. Penderfynwyd y dylid nodi cynnwys y diweddariad. |