Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar
17 Hydref 2018 fel cofnod cywir. |
|
Cyflwyniad - Cynlluniau Presennol I Wella Trosglwyddo I Plant Gyda Anableddau. Cofnodion: Rhoddodd Chris Francis, Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes, gyda chefnogaeth
Gemma Whyley, Rheolwr Prosiect, a Michelle Apthorpe, Rheolwr Hwb y Tîm Anableddau Plant, gyflwyniad ar y
cynlluniau presennol i wella trosglwyddo ar gyfer plant ag anableddau. Dyma'r
manylion yn y cyflwyniad: - ·
Cyflwyniad; ·
Crynodeb
o'r ysgogwyr newid cenedlaethol; ·
Crynodeb
o'r broses sylfaenol a ddisgrifir yn y protocol; ·
Beth
rydym yn ei wybod am farn pobl ifanc a'u teuluoedd yn y sefyllfaoedd hyn? ·
Rhai
o'r cwestiynau y bydd angen i ni eu gofyn am ein protocol trosglwyddo; ·
Trafodaeth:
Ble nesaf? Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i'r swyddogion a atebodd yn briodol. Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol:
- ·
Ymgynghoriad
â Rhieni; ·
Adolygiad
comisiynu a gynhaliwyd yn 2016, y broses a ddefnyddiwyd a'r rheswm pam na
chynhwyswyd trosglwyddo'n wreiddiol; ·
Sicrhau
bod llais y plentyn yn ganolog, mewn modd tebyg i achosion amlasiantaeth; ·
Mae
trosglwyddo bob tro'n broblem i bobl ifanc; ·
Cefnogaeth
gan bartneriaid amlasiantaeth, a chytuno ar y dulliau
ymgynghori a ffefrir; ·
Sicrhau
bod lleisiau'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau (h.y. rhieni a phlant) yn
cael eu clywed; ·
Cyfathrebu'n
effeithiol â phlant sy'n defnyddio'r gwasanaethau; ·
Mae
angen ailsefydlu'r Grŵp Strategaeth Anabledd; ·
Mae
angen cynnwys y gwaith y mae angen ei wneud yng nghynllun gwaith y pwyllgor. Penderfynwyd: - 1)
Nodi
cynnwys y cyflwyniad; 2) Y bydd swyddogion yn rhoi gwybod i'r
Cadeirydd/Is-gadeirydd am yr amserlenni ar gyfer cwblhau'r gwaith trosglwyddo a
drafodwyd. |
|
Cynllun Gwaith 2018-2019. PDF 94 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019. Penderfynwyd nodi’r Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019. |