Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

23.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

24.

Cofnodion: pdf eicon PDF 240 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2019 fel cofnod cywir.

25.

Ymagwedd Strategol at Fodelau Comisiynu - Modelau Gofal a Chefnogaeth Newydd. (Cyflwyniad)

Cofnodion:

Rhoddodd Jane Whitmore, Rheolwr Partneriaethau a Chomisiynu, a Lisa Banks, Swyddog Cynllunio Uned Contract a Chynllunio yn yr Hwb Comisiynu, ddiweddariad ar yr Ymagwedd Strategol i Fodelau Comisiynu ynghylch Modelau Gofal a Chefnogaeth Newydd.

 

Yn dilyn trafodaethau blaenorol mewn perthynas â modelau cyflwyno amgen, amlinellodd y swyddogion fanylion cyllid ar gyfer cynllun peilot mewn perthynas â'r Gronfa Her yr Economi Sylfaenol. Byddai hyn yn datblygu ymagweddau newydd o ddylunio, caffael a darparu gofal a chymorth lefel isel yn y gymuned.

 

Nod Cronfa Her yr Economi Sylfaenol, a oedd yn ymateb i Brexit yn wreiddiol, oedd profi ffyrdd newydd o feithrin a thyfu rhannau bob dydd economi Cymru, ac roedd yn rhan o waith Llywodraeth Cymru i gyrraedd y cymunedau hynny ledled Cymru a oedd yn teimlo eu bod wedi colli diddordeb ac wedi’u gadael ar ôl.

 

Cyflwynodd Cyngor Abertawe gais ar gyfer £100,000 o gyllid i ddatblygu adnodd i brofi dwy ymagwedd newydd o ddylunio a chaffael gwasanaethau ac i ddarparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn Abertawe i:

 

·                  Gefnogi pobl sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth lefel isel i ddod ynghyd i ddylunio a chaffael eu gwasanaeth eu hunain, gan ddefnyddio taliadau uniongyrchol ac ymagweddau cydweithredol;

·                  Gweithio mewn cymunedau ochr yn ochr â Chydlynwyr Ardal Leol i ddod o hyd i unigolion i ymuno â'r gweithlu gofal cymdeithasol trwy ddatblygu trefniadau ar gyfer mentrau bach, mentrau cymdeithasol neu gydweithredol i ddarparu gofal a chefnogaeth lefel isel.

 

Gwnaethant egluro nad oedd ardaloedd gwledig yn broffidiol i gwmnïau rhyngwladol mawr a oedd yn ei chael hi’n anodd recriwtio ar yr amodau a'r telerau yr oeddent yn gallu eu cynnig o fewn yr adnoddau cyfredol, gan olygu bod prinder gofal a chefnogaeth mewn ardaloedd gwledig. Roedd darparwyr lleol hefyd wedi cael eu gorfodi o'r farchnad.

 

Nid oedd y gofal a'r gefnogaeth a gynigiwyd o fewn yr adnoddau cyfredol mor hyblyg ag yr hoffai pobl iddo fod ac nid oedd yn canolbwyntio ar y person. Nid oedd pobl yn rheoli dyluniad na darpariaeth eu gofal a'u cefnogaeth o ddydd i ddydd.

 

Nid oedd Taliadau Uniongyrchol yn ddeniadol ar hyn o bryd gan mai ychydig iawn y gallai rhywun ei brynu.

 

Roedd yr awdurdod hefyd eisiau adeiladu ar ymagwedd ein Cydlynydd Ardal Leol wrth adeiladu cymunedau cryf a gwydn lle gallai pobl a oedd angen gofal a chefnogaeth gael eu cefnogi gan bobl a oedd mewn sefyllfa i'w ddarparu'n hyblyg, yn lleol a chyda thelerau ac amodau gwell.

 

Y gobaith oedd y byddai'r cynllun yn cyflawni;

 

·                 Cynnydd yn y defnydd o Daliadau Uniongyrchol a chynnydd yn nifer yr unigolion sy'n cydweithredu i ddiwallu eu hanghenion a rennir;

·                 Cynnydd yn nifer y mentrau bach, a’r cydweithfeydd sy'n darparu gofal cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig, a thrwy hynny gynyddu argaeledd cyflenwad a chreu dewis a lleihau rhestrau aros;

·                 Gwell cefnogaeth hyblyg sy'n canolbwyntio ar y person ac y bydd pobl yn ei rheoli, gan arwain at ganlyniadau gwell;

·                 Dod â phobl i mewn i'r gweithlu gofal cymdeithasol gydag amodau a thelerau gwell a chreu cyfoeth lleol.

 

Gwnaethant egluro bod y model hwn wedi'i brofi yng Ngwlad yr Haf lle cafwyd anawsterau wrth ddod o hyd i ddarparwyr gofal cartref ar draws y sir. Maent wedi ddarganfod bod y cynllun wedi dod yn hunangynhaliol ar ôl 3 blynedd.

 

Yn ogystal, roedd Powys a Sir Benfro hefyd ar y camau cynnar o wneud cais am gyllid ar gyfer cynlluniau tebyg.

 

Roedd y sylwadau gan y pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·                 Cronni taliadau a sut y byddai defnyddwyr yn defnyddio'r cyfleusterau;

·                 A fyddai gwaith yn cael ei wneud gyda Chynghorau Cymuned a Thref;

·                 Y gofynion ar gyfer cofrestru (neu beidio) gydag Arolygiaeth Gofal Cymru;

·                 Pryder ynghylch sicrhau ansawdd/cymwysterau a hyfforddiant/cost-effeithiolrwydd;

·                 Ystyriaethau megis atebolrwydd, yswiriant, rhoi meddyginiaethau, ac ati;

 

Mewn ymateb i sylwadau, cadarnhaodd swyddogion y canlynol;

 

·                 Pwrpas y cyllid oedd datblygu model gofal newydd yn hytrach nag ariannu'r prosiect go iawn;

·                 Disgwyliad y byddai'r cynllun yn dod yn hunangynhaliol;

·                 Gweithio gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru ar hyn o bryd mewn perthynas â 5 oedolyn ag anableddau dysgu a oedd wedi cronni eu harian i gomisiynu gwasanaethau drwy asiantaeth.

 

Cytunodd y pwyllgor y byddai cyfrannu at weithredu'r prosiect hwn yn bodloni gofynion ymagwedd strategol yr awdurdodau i fodelau comisiynu ynghylch modelau gofal a chefnogaeth newydd.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â phrosiect Gwlad yr Haf a chytunwyd y byddent yn cynnal digwyddiad ar ffurf gweithdy yn syth ar ôl cyfarfod y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 15 Ionawr 2020. 

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r cyflwyniad;

2)              Bydd y Pwyllgor yn derbyn diweddariadau llafar yn ei gyfarfodydd a drefnwyd ar gyfer 18 Rhagfyr 2019 a 15 Ionawr 2020;

3)              Bydd y Pwyllgor yn cynnal gweithdy mewn perthynas â Chronfa Her yr Economi Sylfaenol yn syth ar ôl ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2020.

26.

Cynllun Gwaith 2019-2020. pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2019-2020.

 

Penderfynwyd nodi'r Cynllun Gwaith diwygiedig:

 

·                 Aildrefnu Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygiad) (2019) hyd at 18 Rhagfyr 2019 oherwydd nad oedd swyddogion ar gael.

·                 Bydd y Pwyllgor yn derbyn diweddariadau llafar ar Ymagwedd Strategol i Fodelau Comisiynu - Modelau Gofal a Chefnogaeth Newydd yn ei gyfarfodydd a drefnwyd ar gyfer 18 Rhagfyr 2019 a 15 Ionawr 2020;

·                 Mae'r Pwyllgor yn cynnal gweithdy mewn perthynas â Chronfa Her yr Economi Sylfaenol yn syth ar ôl cyfarfod 15 Ionawr 2020.