Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

18.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

19.

Cofnodion: pdf eicon PDF 236 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 18 Medi 2019 fel cofnod cywir.

 

Materion yn Codi:

 

Cofnod Rhif 16 - Trosglwyddo ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd

 

Atgoffodd y Cadeirydd y pwyllgor y byddai digwyddiad lansio Fforwm Rhiant-ofalwyr Abertawe yn cael ei gynnal ar 18 Hydref 2019 am 9.30am yn Theatr y Grand Abertawe. Yn anffodus ni fyddai yntau'n gallu mynd iddo, ond anogodd aelodau eraill i fynd.

 

Yn ogystal, adroddodd Chris Francis yr hoffai Heidi Lythgoe egluro'r pwyntiau canlynol y tynnwyd sylw atynt yn y cyfarfod blaenorol:

 

·                 O ran y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a'r cwricwlwm newydd, roedd cynrychiolwyr Fforwm Rhiant-ofalwyr Abertawe wedi bod yn cysylltu â'r Adran Addysg drwy'r Grŵp Llywio Strategol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn hytrach na'n uniongyrchol ag ysgolion.

·                 O ran yr Arolwg ar Asesiadau i Ofalwyr - nid oedd hwn yn ymwneud ag ansawdd y cyfathrebu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol, ond yn hytrach, eu profiad wrth gael mynediad at Asesiadau i Ofalwyr.

20.

Ymagwedd y cyngor at Gomisiynu Strategol. (Cyflwyniad) pdf eicon PDF 508 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Partneriaethau a Chomisiynu a'r Prif Swyddog Ataliaeth, Lles a Chomisiynu gyflwyniad ar ymagwedd y cyngor at Gomisiynu Strategol. 

 

Roedd Amanda Carr, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe, hefyd yn bresennol i roi gwybodaeth am fodelau cyflwyno amgen y gallai'r pwyllgor hefyd eu hystyried.  Roedd y rhain yn cynnwys manylion micro-fentrau a chydweithfeydd sy'n cysylltu'r ymagweddau sy'n seiliedig ar gryfder a amlinellwyd gan swyddogion.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor, trafodwyd y materion canlynol:

 

·                 Roedd holl staff y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio tuag at y nodau Comisiynu Strategol, fodd bynnag, nodwyd bod bylchau yn y maes Addysg yr oeddent wedi'u hamlygu'n 'risg' i'r Cyfarwyddwr Addysg;

·                 Cydnabuwyd y dylid cael dangosyddion perfformiad (DP) er mwyn monitro canlyniadau;

·                 Mae angen safoni gweithdrefnau e.e. monitro contractau a dysgu gan ei gilydd o ran arfer gorau;

·                 Roedd digwyddiad hyfforddi staff wedi'i drefnu ym mis Tachwedd ar y Fframwaith Comisiynu Personol Integredig er mwyn ychwanegu gwerth, nodi bylchau/dyblygu;

·                 Y gwahaniaeth rhwng caffael a chomisiynu;

·                 Y gwahaniaeth rhwng comisiynu strategol ac adolygiadau comisiynu;

·                 Roedd ffrydiau cyllido Llywodraeth Cymru wedi'u cyfuno a'u lleihau i'r:

·                 Grant Cymorth Tai;

·                 Grant Plant a Chymunedau;

·                 Y cynnydd o 13% mewn costau sy'n ymwneud a threfniadau Gofal Cartref;

·                 Paham yr oedd trefniadau gwahanol ar gyfer darpariaeth Gwasanaethau Cymdeithasol mewn awdurdodau lleol eraill gan nad oeddent yn addas i bawb.  Fodd bynnag, cydnabuwyd y gellid safoni prosesau drwy'r newidiadau yn sgîl y ddeddfwriaeth newydd;

·                 Sut roedd partneriaid yn cyfrannu drwy Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (BGC) drwy eu 4 ffrwd waith:

·                 Y Blynyddoedd Cynnar;

·                 Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda;

·                 Cymunedau Cryf;

·                 Gweithio gyda Natur;

·                 Yn ogystal, dewiswyd BGC Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot gan Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd fel rhan o gynllun braenaru rhanbarthol y Blynyddoedd Cynnar;

·                 Y cyswllt rhwng y BGC a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg (BPR);

·                 Sut roedd y 3ydd sector yn cysylltu â sefydliadau cymunedol ar lawr gwlad a sut gallai gysylltu penderfynwyr â chynllunwyr ac aelodau'r gymuned;

·                 Gallai'r 3ydd  sector weithredu hefyd fel galluogwr ar gyfer sefydliadau llai i'w cysylltu â rhai cyfleusterau megis trefniadau cyfreithiol a llywodraethu;

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

 

Dywedodd fod y Pwyllgor wedi trafod canolbwyntio ar arwahanrwydd/unigedd ymysg yr henoed o'r blaen. 

 

Dywedodd Amanda Carr fod dau gynllun newydd yn cael eu trafod ar hyn o bryd a allai fod o gymorth gyda'r pwnc a awgrymir, fodd bynnag, roedd un cynllun ar gamau cynnar iawn.  Felly, awgrymwyd y dylai rhagor o drafodaethau gael eu cynnal rhwng y Cadeirydd a swyddogion.

 

Penderfynwyd

 

1)              Nodi'r cyflwyniad;

2)              Y bydd y Cadeirydd yn cwrdd â'r swyddogion i drafod yr union ofynion mewn perthynas â'r pwnc hwn ar gyfer y cyfarfod nesaf.

21.

Trosglwyddo ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd. (Llafar)

Y diweddaraf am gyfarfod cyntaf yr Is-grŵp.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynau Busnes ddiweddariad llafar fel a ganlyn:

 

·                 Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp Tasg a Gorffen ar 13 Medi 2019;

·                 Bwriedid cynnal y cyfarfod nesaf ar 18 Hydref 2019, ond cafodd ei oedi ychydig yn sgîl lansio Fforwm Rhiant-ofalwyr Abertawe;

·                 Byddai cyfarfodydd misol yn cael eu cynnal rhwng nawr a mis Ionawr 2020;

·                 Byddai'r ddogfen sgerbwd ddrafft yn cael ei hystyried ynghyd â'r map rhanddeiliaid i sicrhau yr ymgysylltir â'r holl bartneriaid perthnasol;

·                 Trefnwyd trafodaethau â'r Prif Swyddog Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu a Phennaeth y Gwasanaethau Dysgwyr Diamddiffyn;

·                 Roedd 2 achos trosglwyddo wedi'u trafod â chynrychiolydd o'r gwasanaeth Iechyd ynghylch newidiadau i integreiddio ac awgrymwyd rhai argymhellion yn sgîl hyn;

·                 Byddai Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cwrdd â chydweithwyr o'r gwasanaeth Iechyd ddydd Llun 21 Hydref i drafod yr argymhellion;

·                 Cadarnhawyd bod cynnydd yn cael ei wneud yn ôl y disgwyl er mwyn i’r pwyllgor ystyried y polisi ym mis Ionawr 2020.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynau Busnes am y diweddariad.

22.

Cynllun Gwaith 2019-2020. pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y cynllun gwaith diweddaredig ar gyfer 2019-2020.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r Cynllun Gwaith.