Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

15.

Cofnodion: pdf eicon PDF 324 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi – Pobl a gynhaliwyd ar 17 Gorff 2019 fel cofnod cywir.

16.

Trosglwyddo ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd. (Llafar)

Gwahoddir cynrychiolwyr o’r Grŵp Arweinyddiaeth Rhieni/Gofalwyr

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Heidi Lythgoe a Chris Law o Fforwm Rhieni a Gofalwyr Abertawe i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am gymryd o'u hamser i siarad â'r Pwyllgor.  Esboniodd fod y Pwyllgor wedi bod yn ystyried eitem Trosglwyddo yn barhaus ers y blwyddyn ddinesig flaenorol. Diben y gwahoddiad oedd dod i ddeall rôl Fforwm Rhieni a Gofalwyr Abertawe'n well a sicrhau bod adborth digonol oddi wrth y plant/bobl ifanc a'u teuluoedd y parhau er mwyn gwella a diweddaru'r Polisi'n unol â hynny.
 

 

Amlinellodd Chris Francis, Swyddog Arweiniol, y cefndir ac amlinellodd fod yr awdurdod lleol wedi darparu'r gyllideb annibynnol newydd ei sefydlu ar gyfer Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru.  Y gobaith oedd y byddai'r cynllun yn cael ei efelychu mewn mannau eraill o Gymru. 

 

Esboniodd y cynnydd hyd yn hyn:

 

·                Gwaith i wella trefniadau ynghylch asesiadau gofalwyr:

·                Gweithio'n agos gyda'r Adran Addysg mewn perthynas ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Ddeddf Tribiwnlys; 

·                Gweithio gyda Grŵp Cynnig Abertawe i ddatblygu platfform ar-lein ar gyfer plant ag anableddau a'u teuluoedd er mwyn eu hyrwyddo ac i roi gwybod iddynt am y gwasanaethau sydd ar gael yn Abertawe.  Cydnabuwyd y gallai rhai o'r llwybrau a'r prosesau fod yn gymhleth;

·                 Crëwyd Grŵp Tasg a Gorffen amlasiantaeth sy'n cynnwys 2 aelod o'r Fforwm Rhieni a Gofalwyr i edrych ar drosglwyddo. Byddai'r aelodaeth yn cael ei hadolygu er mwyn sicrhau bod rhaniad cyfartal rhwng swyddogion a rhieni/gofalwyr; 

·                 Byddai barnau ysgolion a phenaethiaid Ysgolion Arbennig a'r Bwrdd Iechyd yn cael eu casglu er mwyn deall eu hopsiynau yn well; 

·                 Roedd Tom Jones, Gweithiwr Cyfranogiad a Hawliau Plant wedi bod yn arwain darn o waith i gael barn y bobl ifanc.

 

Esboniodd Heidi Lythgoe, Cadeirydd Fforwm Rhieni a Gofalwyr Abertawe ei bod hi wedi bod yn gweithio gyda'r Fforwm am 18 mis.  Eu prif rôl yw gwella cyfranogiad gyda rhieni/gofalwyr plant ag anableddau.  Arweiniwyd y Fforwm yn wreiddiol gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe, Gweithredu dros Blant a Chyswllt ar gyfer Teuluoedd â Phlant Anabl, sydd wedi bod yn cefnogi'r grŵp er mwyn ei ddatblygu. Maent hefyd wedi datblygu eu blaenoriaethau eu hunain a oedd yn debyg i rai Cyngor Abertawe ond yn canolbwyntio mwy ar yr hyn sy'n bwysig i'r rhieni/gofalwyr a'u teuluoedd. Mae aelodaeth y grŵp wedi bod yn llyfn am fod rhwymedigaethau gofal sylweddol ond gwnaed cynnydd cyson eisoes. Yn wreiddiol, canolbwyntiwyd yn bennaf ar sefydlu'r grŵp ac ar hyn o bryd maent yn gweithio gyda'r awdurdod lleol ar asesiadau trosglwyddo/ADY/gofalwyr.

 

Rhoddodd Chris Law wybod i'r Pwyllgor am lansiad Fforwm Rhieni a Gofalwyr Abertawe a gynhelir ddydd Gwener 18 Hydref yn Theatr y Grand Abertawe.  Sicrhawyd Carrie Grant fel siaradwr gwadd. Mae ganddi brofiad personol o blant ag anghenion arbennig. Meddai y byddai'n gyfle gwych i'r Pwyllgor fod yn bresennol yn y lansiad a chwrdd â rheini/gofalwyr eraill o Abertawe. Gwahoddwyd aelodau Cynulliad lleol hefyd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor, nododd cynrychiolwyr y Fforwm Rhieni a Gofalwyr y canlynol;

 

·                 Cynhaliwyd trafodaethau cychwynnol gyda'r Bwrdd Iechyd mewn perthynas â'i gyfraniad.  Mae rhai cynrychiolwyr o'r Fforwm Rhieni a Gofalwyr hefyd wedi cymryd rhan drwy gysylltiadau â Bwrdd Rhanbarthol Bae'r Gorllewin (Bae'r Gorllewin gynt).  Byddai'r Awdurdod Lleol yn parhau i weithredu fel cyfrwng cyfathrebu;

·                 Yn ogystal, ar y cyd â'r Awdurdod Lleol, mae'r Fforwm wedi bod yn ymgysylltu ag ysgolion mewn perthynas â'r Ddeddf ADY a'r cwricwlwm newydd, y bydd y ddau ohonynt yn newid bywydau rhai teuluoedd.  Fodd bynnag, mae'r gwaith wedi dechrau er mwyn paratoi ar gyfer y newidiadau hyn.  Cydnabuwyd bod ADY yn faes cymhleth ac yn anodd i'r rhieni a'r ysgolion ei reoli.  Byddai'n gofyn am newid mewn diwylliant a chydgynhyrchu ar y lefel hon - byddai hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr.  Dylid rhoi ystyriaeth i sut olwg fyddai ar fywyd i blant ag anableddau.  Dylid bod cynhwysiad cyffredinol yn digwydd ym mhob ysgol;

·                 Roedd rôl ar gyfer Cynghorwyr er mwyn helpu.  Roedd Panel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi ystyried gwahanol elfennau a byddant yn parhau i gyfrannu a darparu cefnogaeth; 

·                 Mae Grŵp Tasg a Gorffen wedi bod yn gweithio ar fapio proses yr Asesiadau o Ofalwyr.  Roedd arolwg yn y broses o gael ei lunio er mwyn cael barn ar y broses a’i gwella wrth fynd ymlaen;

·                 Cydnabuwyd nad oedd y cyfathrebu rhwng y defnyddwyr gwasanaeth a'r gwasanaethau cymdeithasol yn gyson.  Byddai'r arolwg yn nodi mannau problemus a fyddai'n cael eu hystyried gan y Grŵp Tasg a Gorffen;

·                 Byddai'r gyllid a ddarperir gan Gyngor Abertawe'n dod i ben ym mis Ebrill 2020.  Y bwriad ar gyfer y dyfodol yw i'r grŵp fod mewn sefyllfa i fod yn hunan-gynaliadwy, fodd bynnag, byddai'r awdurdod yn parhau i helpu'r grŵp wrth wneud cais am gyllid gan y ffynonellau perthnasol.  Nodwyd ei fod yn bwysig nad yw'r gofalwyr "ar eu colled" mewn perthynas â mynd i gyfarfodydd y Fforwm a chostau goblygiadau gofal.  Byddai hyn yn cael ei ystyried gan y Grŵp Rhanddeiliaid Strategol; 

·                 Dylai trafodaethau barhau â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â ffrydiau cyllido a hyrwyddo'r Fforwm oherwydd ffocws Llywodraeth Cymru ar gydgynhyrchu;

·                 Mae'r gwaith wedi dechrau mewn perthynas â chyfathrebu â'r rheini â rhieni/gofalwyr y mae'n anodd eu cyrraedd;

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr Fforwm Rhieni a Gofalwyr Abertawe am fod yn bresennol yn y Pwyllgor.

 

Penderfynwyd anfon y gwahoddiad ar gyfer lansiad Fforwm Rhieni a Gofalwyr Abertawe ymlaen i'r Cadeirydd i'w gylchredeg.

17.

Cynllun Gwaith 2019-2020. pdf eicon PDF 136 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2019-2020.

 

Adroddodd fod eitem ymagwedd y cyngor at gomisiynu strategol wedi'i gohirio tan y cyfarfod ar 16 Hydref 2019 am nad oes swyddog ar gael.

 

O ganlyniad, byddai'r holl eitemau misol mewn perthynas â'r pwnc hwn yn cael eu hail-drefnu yn unol â hynny.

 

Yn ogystal, roedd Pennaeth Gweithredol y Gwasanaethau i Oedolion wedi gofyn i'r pwyllgor dderbyn adroddiad diwygiad Bil Deddf Galluedd Meddyliol (2019) yng nghyfarfod mis Tachwedd.

 

Penderfynwyd y dylid diweddaru’r Cynllun Gwaith yn unol â hynny.