Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2019 fel cofnod cywir
yn amodol ar y diwygiad canlynol: Cofnodi ymddiheuriadau'r Cynghorydd M Sykes. |
|
Trosglwyddo ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd. (Llafar) Cofnodion: Darparodd Chris
Francis, Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes y diweddaraf ar lafar i'r
pwyllgor. Cynhaliwyd
digwyddiad ymgynghori rhiant/disgybl ar 3 Gorffennaf 2019, lle'r oedd oddeutu
45 o bobl yn bresennol gyda chymysgedd o rieni/gofalwyr y mae eu plant eisoes wedi
bod drwy'r broses drosglwyddo a phobl eraill y mae ganddynt blant llawer iau a
oedd am wybod mwy am y broses. Dechreuodd y
digwyddiad gyda chyflwyniad gan Swyddfa'r Comisiynydd Plant o'r enw 'Don't Hold Back.' Yna bu'r grwpiau trafod yn trafod 3 phrif gwestiwn: 1.
Beth
yw'r hyn y gallwn ni ei ddysgu o'ch profiadau, beth yw'r hyn sy'n gweithio'n
dda a'r hyn nad yw'n gweithio'n dda? 2.
Beth
yw eich dyheadau ar gyfer y dyfodol? 3.
Sut
gallwn ni gyflawni'r dyheadau hynny? Wrth adolygu'r adborth cychwynnol, roedd yn amlwg bod y rheini a ymatebodd
yn teimlo eu bod wedi gwrando ar eu barn ac wedi rhoi cyfle iddynt ddarparu
adborth. Yn ogystal, clywsant gan bobl nad oeddent wedi clywed ganddynt o'r
blaen. Byddai'r adborth yn cael ei
adolygu'n llawn a bydd adroddiad yn cael ei ddrafftio i'w gylchredeg i
gynghorwyr erbyn diwedd y mis. Yn ogystal, cynhaliwyd dwy sesiwn
ymgynghori ychwanegol arall; un yn ysgol Pen y Bryn ac un yn y 'Grŵp
Cymysg'. Fel rhan o'r broses derbyniwyd cais gan y
Grŵp Arweinyddiaeth Rhiant/Plentyn i arafu cynnydd y darn hwn o waith fel
y gallent fod yn rhan annatod o'r broses gynllunio. O ganlyniad, trefnwyd
digwyddiad cynllunio ar gyfer hwyrach y mis hwn lle gallai'r rheini/gofalwyr
sydd â diddordeb ddod i gymryd rhan mewn sesiynau/gweithgareddau ychwanegol. Yn ogystal, esboniodd y Prif Arweinydd
Datblygu a Chomisiynu Busnes fod y Fforwm Rheini/Gofalwyr yn dal i fod yn ei
gyfnod cychwynnol ac ni fyddai'n swyddogol tan ddiwedd mis Medi eleni. Ar hyn o
bryd nid oes cohort llawn o aelodau i ymgysylltu â
hwy, felly roedd hyn yn ffactor ychwanegol i'r awdurdod ei ystyried. Awgrymwyd
amserlen fwy realistig ar gyfer y protocol drafft o fis Ionawr. Cadarnhaodd
hefyd y byddent yn ymgynghori â chynifer o bobl ifanc/blant â phosib, gyda 5/6
ysgol wedi'u nodi yn barod. Mae llawer
o'r gwaith sydd ar waith yn yr Adran Addysg ar hyn o bryd o ganlyniad i
ddeddfwriaeth newydd sy'n cael ei chyflwyno yn 2020, a fyddai'n achosi goblygiadau
sylweddol i'r cyngor a'r grŵp penodol hwn sydd o oedran trosglwyddo.
Byddai angen rhoi cynlluniau datblygu ar waith ar gyfer pobl ifanc hyd at 25
oed. Os yw'r pwyllgor yn cytuno â'r estyniad
awgrymedig, byddai'r cynllun ymgynghori'n dod i ben erbyn diwedd mis Hydref. Y bwriad
fyddai creu grŵp ffocws er mwyn cydgynhyrchu'r
protocol newydd. Byddai digwyddiadau
eraill hefyd yn cael eu cynnal rhwng nawr a diwedd mis Ionawr 2020, mewn pryd
ar gyfer y ddogfen bolisi newydd. Byddai
hefyd angen cynnal arolwg ar-lein i gyrraedd y teuluoedd hynny sydd heb ddweud
eu barn eto. Unwaith y bydd y ddogfen bolisi wedi'i
drafftio, yr ail gam fydd ei rhoi ar waith, dan arweiniad cynllun rhoi ar
waith. Roedd y Cadeirydd yn cydnabod y sail
resymegol dros y cais am arafu'r broses gan fod y protocol diwethaf wedi'i
lunio gan swyddogion o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth berthnasol, heb fewnbwn y
defnyddwyr gwasanaeth. Fodd bynnag,
roedd angen i'r darn hwn o waith gael ei gwblhau gan yr awdurdod a gwerthfawrogwyd
ei fewnbwn. Penderfynwyd: 1)
Gwahodd
swyddog o'r Grŵp Arweinyddiaeth Rhiant/Plentyn i fod yn bresennol yn y
cyfarfod ar 18 Medi 2019 i amlinellu rôl y grŵp ac i ddarparu mwy o
wybodaeth i'r pwyllgor; 2) Gwahodd y pwyllgor i'r digwyddiad lansio ym mis Medi. |
|
Ymagwedd Strategol at fodelau comisiynu. (Cyflwyniad) Cofnodion: Rhoddodd Simon
Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol,
gyflwyniad a oedd yn amlinellu’r canlynol: Roedd yn rhaid i Gyngor Abertawe fodloni
gofynion statudol newydd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) 2014; Gweithredu gwelliannau cynaliadwy i
gyflawni amcanion lles pobl Abertawe o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru) 2015; •
i
greu darpariaeth ôl-16 drwy wasanaethau dan arweiniad defnyddwyr a mwy o
ddefnydd o fodelau busnes cymdeithasol newydd (Pt2, a16) •
Roedd
hefyd yn gofyn bod awdurdodau lleol yn cynnwys pobl wrth ddylunio a chynllunio
gwasanaethau. Yn ogystal, roedd
yn gysylltiedig ag Ymrwymiad Polisi Rhif 104 Cyngor Abertawe - Ymyrryd yn y
farchnad darparwyr gofal cymdeithasol ac archwilio sut y gallai ehangu darpariaeth
gwasanaethau a gynhelir gan y cyngor. Yn benodol byddwn yn gweithio gyda’r
sectorau gofal cymdeithasol a phreswyl i sicrhau, lle mai darpariaeth yw'r
dewis olaf, fod yna amrywiaeth o gyflenwyr, gan gynnwys darparwyr nid er elw,
ar y cyd a menter gymdeithasol. Meini Prawf Llwyddiant (Olrhain i fis Ebrill 2019) Ø
Mabwysiadu
Strategaethau Comisiynu mewn perthynas â grwpiau o gleientiaid sydd wedi nodi
anghenion y boblogaeth a'r ddarpariaeth gwasanaethau sydd ei hangen. Ø
Adolygiadau
gwasanaeth a datblygu'r farchnad yn gysylltiedig â'r Strategaethau Comisiynu
hynny Byddai'r gwaith a
wneir gan PDP Pobl yn cynnwys edrych ar: •
Gyfleoedd
ar gyfer modelau cyflawni gofal a chefnogaeth newydd •
Adnoddau
arbenigedd/cefnogi sydd ar gael •
Comisiynu
strategol - model cyfredol •
Newidiadau
y mae eu hangen i ymagwedd Abertawe Amlinellodd y
gwahanol ddiffiniadau a darparodd gysylltiadau ag adroddiadau/arweiniad lle y
bo'n briodol: 1. Micro-fentrau Adroddiad - Micro- fentrau: Small enough to care? Gan Brifysgol Brimingham https://www.birmingham.ac.uk/research/activity/micro-enterprises/ 2. Community Catalysts https://www.communitycatalysts.co.uk/ 3. Cydweithfeydd https://socialcare.wales/cms_assets/hub-downloads/Co- operatives_delivering_social_care_and_support.pdf 4. Canolfan Cydweithredol Cymru https://wales.coop/co-operatives-for-care/ 5. Eraill: Fforwm Gwerth Cymdeithasol Taliadau Uniongyrchol a rennir Menter Gymdeithasol Roedd rhai o’r
heriau allweddol o ran gofal cymdeithasol yn cynnwys: •
Cyflawni canlyniadau lles ar gyfer dinasyddion •
Diogelu ein pobl fwyaf diamddiffyn •
Cynyddu galw ar gyfer gofal cartref •
Cyfleoedd cyfyngedig o ofal/adnoddau ar gael •
Oedi wrth drosglwyddo gofal •
Defnydd o daliadau uniongyrchol •
Technolegau newydd - cynnig ffyrdd newydd o wneud
pethau Rhai buddion posib o ran cyflwyno gofal iechyd a gofal cymdeithasol drwy
fodelau newydd: Ø
Arloesedd wrth gyflwyno
gwasanaethau: Beth? Pam? Pwy? Ø
Mwy o ddewis Ø
Cost-effeithlonrwydd gwell; Ø
Perchnogaeth staff well; Ø
Llai o drosiant staff; Ø
Llai o fiwrocratiaeth; Ø
Mwy o ailfuddsoddi o ran
elw; Ø
Arallgyfeirio ffrydiau incwm y tu hwnt i'r sector
cyhoeddus; a Ø Mwy o weithio
mewn partneriaeth. Enghreifftiau ymarferol: 1.
Solva Care yn Sir
Benfro 2. Prosiect 'Somerset
Micro-enterprise' https://www.somerset.gov.uk/social-care-and-health/somerset-micro-enterprise-project/ Cydgynhyrchu: "Mae angen i fodelau comisiynu newydd ym maes iechyd a gofal
cymdeithasol gydnabod cyfraniad ac adnoddau sylweddol unigolion a chymunedau
nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, gan eu cefnogi i gymryd rhan
weithgar yn y gwasanaethau a thu hwnt i wella canlyniadau iechyd a llesiant, a
chefnogi newid cynaliadwy.” (New Economics Foundation,
Deall y Ddeddf, Gofal Cymdeithasol Cymru) Mae cydgynhyrchu'n elfen allweddol o ymagwedd
Abertawe at Gomisiynu Strategol. Ardal Ffocws: Achos 'pen' - yr wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer gwneud penderfyniadau
yn y dyfodol/buddsoddiad/buddion Achos 'y galon' - straeon bywyd go iawn am lwyddiant, enghreifftiau ac
atebion Achos 'dwylo' - adeiladu ar allu/partneriaethau y mae eu hangen er mwyn
gwneud newidiadau https://www.health.org.uk/sites/default/files/HeadHandsAndHeartAssetBasedApproachesInHealthCare.pdf Efallai bydd y pwyllgor am ganolbwyntio ar un neu fwy o'r agweddau hyn ac
am gynnwys rhanddeiliaid eraill: Ø
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe Ø
Ein tîm masnachol Byddai'r pwyllgor yn ystyried y canlynol fel cwmpas y gwaith dros y chwe
mis nesaf: Ø Ymagwedd y
cyngor at gomisiynu strategol (mis Medi 2019); Ø Modelau newydd o
ofal a chefnogaeth - cyfleoedd i wneud pethau'n wahanol (mis Hydref/Tachwedd
2019); Ø Newidiadau
angenrheidiol i ymagwedd gomisiynu Abertawe er mwyn gweithredu modelau newydd
(mis Rhagfyr 2019); Ø Polisi -
datganiad o egwyddorion (erbyn mis Ionawr/Chwefror 2020). Swyddogion y cyngor a fyddai'n arwain y darn hwn o waith yw Jane
Whitmore, Rheolwr Partneriaeth a Chomisiynu a Peter Field, Prif Swyddog Atal,
Lles a Chomisiynu. Diolchodd y
Cadeirydd i Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau
Cymdeithasol am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth.
Trafododd y
pwyllgor sut byddai’n parhau â'r eitem, o ystyried cymhlethdod y pwnc gan gofio
nad oes llawer o ymchwil wedi'i gwneud hyd yn hyn a byddent yn 'dechrau o'r
newydd'. Roedd y
trafodaethau'n cynnwys: Ø Llais y
dinasyddion; Ø Ystyried dechrau
cynllun peilot; Ø Ystyried edrych
ar unigrwydd/arwahanrwydd yn y boblogaeth hŷn drwy ganolbwyntio ar les; Ø Beth yw'r
gwasanaeth a gyflwynir ar hyn o bryd? A oedd unrhyw fylchau? Yr hyn y gellid ei wella?; Ø Mwy o alw ar
amser swyddogion; Ø Ymgysylltu â'r
trydydd sector; Ø Problem o ran
cael gofalwyr yn ward y Castell; Ø Efallai bydd
angen mwy o weithdai yn ychwanegol at y pwyllgorau misol. Penderfynwyd: 1)
Y pwyllgor i ystyried canolbwyntio ar
arwahanrwydd/unigrwydd yn yr henoed; 2)
Y pwyllgor i dderbyn cyflwyniad ar ymagwedd y cyngor
at gomisiynu strategol yn ei gyfarfod nesaf ar 18 Medi 2019. |
|
Cynllun Gwaith 2019-2020. PDF 94 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019. Penderfynwyd diwygio'r Cynllun Gwaith canlynol o ganlyniad i'r
trafodaethau a gafwyd yng Nghofnod Rhif 11 a 12: 1)
Gwahodd
swyddog o'r Grŵp Arweinyddiaeth Rhiant/Plentyn i fod yn bresennol yn y
cyfarfod ar 18 Medi 2019 i amlinellu rôl y grŵp ac i ddarparu mwy o
wybodaeth i'r pwyllgor (Trawsnewidiad); 2)
Y pwyllgor i dderbyn cyflwyniad ar ymagwedd y cyngor
at gomisiynu strategol yn ei gyfarfod nesaf ar 18 Medi 2019. |