Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

6.

Cofnodion: pdf eicon PDF 114 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2019 fel cofnod cywir.

7.

Cylch Gorchwyl. (Er gwybodaeth) pdf eicon PDF 51 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd y Cylch Gorchwyl i'r pwyllgor 'er gwybodaeth'.

8.

Cynllun Gwaith 2019-2020. (Drafodaeth)

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd fanylion cyfarfod diweddar a gynhaliwyd gyda Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Aelodau Cabinet perthnasol a Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol i drafod eitemau Cynllun Gwaith posibl ar gyfer y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl 2019-2020.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol y dylai eitemau posib ymwneud â Blaenoriaethau Corfforaethol ac Ymrwymiadau Polisi'r cyngor a chanolbwyntio ar “bolisi newydd” gyda chanlyniadau penodol.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai gwaith blaenorol y llynedd ar Drosglwyddo yn parhau eleni, er mwyn cwblhau'r gwaith a wnaed hyd yma.

 

Trafododd y pwyllgor eitem a awgrymwyd gan y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda, ynghylch modelau comisiynu strategol amgen.  Byddai'r modelau hyn yn cefnogi canlyniadau llesiant personol a nodwyd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Byddai'r model yn symud o’r ymagwedd gwasanaethau uniongyrchol neu gomisiynu traddodiadol drwy gydweithredu, mentrau cymdeithasol, cwmnïau nid er elw neu sefydliadau trydydd sector.

 

Er mwyn cydymffurfio â'r Ddeddf, byddai'r model newydd yn newid y modd y byddai'r awdurdodau lleol yn cynllunio, yn hyrwyddo ac yn darparu gwasanaethau a'r modd y maent yn gweithio gyda phobl i gynllunio a gweithredu gwasanaethau.

 

Mae'r Ddeddf yn canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar er mwyn atal anghenion rhag troi'n argyfwng, ac mae'n hybu buddsoddiad adnoddau yn y tymor byr er mwyn sicrhau'r gwerth gorau posib i gyllid cyhoeddus yn gyffredinol. Mae'r Ddeddf hefyd yn hyrwyddo integreiddio'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i’r graddau helaethaf posib er mwyn cyflawni canlyniadau lles gwell.

 

https://gweddill.gov.wales/docs/phhs/publications/151125pt2socialen.pdf

 

Amlygodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol waith a wnaed gan Gyngor Gwlad yr Haf a oedd yn cynnwys sefyllfa "cyllideb personol" ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau.  Mae Community Catalysts yn cydweithio ag entrepreneuriaid i sefydlu mentrau cymdeithasol neu ficrofusnesau.  Mewn cyfnod byr iawn roedd tua 200 o fusnesau neu unigolion â diddordeb wedi'u sefydlu ac yn gweithio mewn cymunedau lleol yn cefnogi grwpiau bach o unigolion yn eu cymuned eu hunain.  Yn ogystal â hyn, roedd Solfach yn Sir Benfro wedi sefydlu cynllun menter cymdeithasol a allai hefyd ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol i'r pwyllgor.

 

Pwysleisiodd y byddai'n rhaid iddynt fod yn ystyriol o faterion amrywiol fel diogelu a chofrestru gofal cartref, ond roedd yn amlwg bod unigolion eisiau derbyn cefnogaeth yn eu cymuned eu hunain a ddarperir gan bobl yn eu cymuned eu hunain.

 

Awgrymodd bod angen ceisio arweiniad gan Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (CGGA) a Chanolfan Cydweithredol Cymru. Mae'n bosib y bydd y pwyllgor yn cyfethol unigolion o'r sefydliadau hyn i'r pwyllgor neu eu gwahodd i ddarparu cyflwyniad/gwybodaeth.

 

Gan fod hon yn ffordd gwbl newydd o weithio, byddai angen cryn dipyn o ymchwil gan nad oes gan y cyngor lawer o brofiad. 

 

Ystyriodd y pwyllgor eitem arall mewn perthynas â Gwasanaethau/Darpariaeth Ieuenctid, fodd bynnag, teimlwyd y byddai'r eitemau a awgrymwyd eisoes yn cymryd cryn dipyn o'r amser.  Felly cytunodd y pwyllgor i ganolbwyntio ar Fodelau Trosglwyddo a Chomisiynu ac ailasesu'r Cynllun Gwaith yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Penderfynwyd y bydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2019-2020 yn cynnwys:

 

1)              Trosglwyddo (gorffen y gwaith o 2018-2019);

2)              Ymagwedd Strategol at fodelau comisiynu.