Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

47.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

48.

Cofnodion: pdf eicon PDF 110 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2019 fel cofnod cywir.

49.

Trosglwyddo ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd. pdf eicon PDF 231 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Francis, Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes, yr adroddiad Trosglwyddo ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd. Roedd yr adroddiad yn darparu crynodeb o'r gwaith ar drosglwyddo a wnaed gan y pwyllgor fel rhan o'r rhaglen waith gytunedig ar gyfer 2018/19.

 

Tynnodd yr adroddiad sylw at y ffaith bod plant ag anableddau a/neu anghenion dysgu ychwanegol wedi profi newid mewn nifer o feysydd wrth iddynt gyrraedd 18 oed a dod yn oedolyn: o Wasanaethau Plant a Theuluoedd i Wasanaethau i Oedolion, o wasanaethau pediatrig i wasanaethau iechyd oedolion, o ysgol uwchradd i addysg uwch ac o ddibyniaeth plentyndod i ymreolaeth oedolyn. Gallai'r newidiadau hyn fod yn anodd, yn frawychus ac yn peri straen i bobl ifanc. Pe na bai'r rhain yn cael eu rheoli'n iawn, roedd risg y byddai’r person ifanc yn profi canlyniadau gwael. Gallai hefyd beri straen sylweddol i deuluoedd ac effeithio ar berthnasoedd teuluol.

 

Archwiliodd yr adroddiad gynigion i wella ansawdd trefniadau trosglwyddo yn Abertawe, gyda ffocws penodol ar sut y byddai llais a dewis dinasyddion yn dylanwadu ar bolisi ac ymarfer. Diben y weledigaeth ar gyfer fframwaith polisi yn y dyfodol, yn fras, oedd hyrwyddo gwasanaethau cydlynol a phroses lai cymhleth. Roedd hyn yn cael ei gydlynu'n well ar gyfer yr unigolyn a oedd yn galluogi gweithio ar y cyd ac integreiddio proffesiynol agos, a byddai'n osgoi newidiadau sy'n creu ansicrwydd i'r person ifanc a'i deulu. Byddai'r polisi hefyd yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd sy'n helpu i sicrhau gwerth am arian.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn trafod y cyd-destun polisi; ymchwil bresennol; gwaith a wneir gan y pwyllgor; sut mae trosglwyddo'n gweithio ar hyn o bryd ar draws y system iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, gan ganolbwyntio'n arbennig ar brofiad y dinesydd; cynlluniau presennol i wella trosglwyddo; cynigion posibl i wella materion gan ganolbwyntio’n arbennig ar lais a dewis dinasyddion; diweddariad a'r ffordd ymlaen.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r swyddog, ac ymatebodd yn briodol.  Canolbwyntiodd y trafodaethau ar y canlynol: -

 

·         Ymgynghori'n effeithiol gyda â grwpiau rhieni/gofalwyr a chyrraedd pob rhwydwaith;

·         Sicrhau bod cynlluniau gofal unigol yn gadarn;

·         Is-adrannau’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydweithio'n effeithiol er lles unigolion.

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am ddarparu'r adroddiad.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    y bydd polisi newydd ar gyfer trosglwyddo pobl ifanc i fyd oedolion yn cael ei baratoi i ddisodli'r fersiwn bresennol (dyddiedig 2011) a chaiff datblygiad y polisi newydd ei oruchwylio gan y Pwyllgor Datblygu Polisi gyda'r disgwyliad y bydd yn cael ei gwblhau erbyn mis Medi 2018;

3)    y bydd rhanddeiliaid allweddol yn cymryd rhan yn natblygiad y polisi, bydd Swyddog Cyfranogiad a Hawliau Plant yn gyfrifol am waith i sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cymryd rhan lawn a bydd adroddiad sy'n rhoi manylion eu hadborth yn cyd-fynd â'r polisi pan fydd yn cael ei ddosbarthu i'w gymeradwyo.

50.

Byw â Chymorth - Adroddiad drafft i'r Cabinet. pdf eicon PDF 287 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Mark Campisi, Prif Swyddog Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, yr Adroddiad Byw â Chymorth drafft i'r Cabinet.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu'r trefniadau ar gyfer hysbysu Aelod y Cabinet ac aelodau ward lleol pan oedd cyfleuster byw â chymorth yn cael ei ddatblygu yn eu hardal. Roedd hyn er mwyn caniatáu i wybodaeth gael ei rhoi i bartïon perthnasol fel bod yr aelodau'n gallu ymateb mewn ffordd wybodus a sensitif i'r ymholiadau pe bai problemau’n codi yn eu hardaloedd ward.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r swyddog, ac ymatebodd yn briodol.   Canolbwyntiodd y trafodaethau ar y canlynol: -

 

·         Pobl ddiamddiffyn mewn llety byw â chymorth yn cael eu targedu gan grwpiau cyffuriau Country Lines, atal pobl rhag cael eu targedu, a hyfforddiant diogelu penodol i gontractwyr;

·         Y posibilrwydd o wneud hyfforddiant diogelu staff gorfodol penodol yn un o delerau contractau darparu gwasanaeth yn y dyfodol;

·         Aelodau etholedig yn cael gwybod am dai preifat sy'n cael eu defnyddio yn eu wardiau gan gontractwyr sy'n gofalu am bobl ddiamddiffyn fel a amlinellwyd ym mharagraff 4.3 yr adroddiad.

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad.

 

Penderfynwyd cytuno ar yr adroddiad a'i anfon i'r Cabinet i'w gymeradwyo.

51.

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. (Diweddariad ar lafar)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor, yn absenoldeb Simon Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol, y byddai'r pwnc yn cael ei drafod yn y flwyddyn ddinesig newydd, yn amodol ar y blaenoriaethau a bennwyd gan Aelod perthnasol y Cabinet/Cadeirydd y pwyllgor.

 

Amlygodd y pwyllgor yr angen i gontractwyr ymgymryd â hyfforddiant penodol er mwyn sicrhau contractau yn y dyfodol. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n trosglwyddo sylwadau'r pwyllgor.

 

Penderfynwyd y dylid nodi cynnwys y diweddariad.