Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

43.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

44.

Cofnodion: pdf eicon PDF 107 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi – Pobl a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2019 fel cofnod cywir.

45.

Byw â Chymorth - Cynigion i Wella Ymrwymiad gan y Gymuned ac Aelodau Ward. (Y Llafar)

Cofnodion:

Darparodd y Prif Swyddog Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, gyda chymorth y  Prif Swyddog Atal, Lles a Chomisiynu ddiweddariad am y cynigion i wella ffydd o gynnwys y gymuned gan gynnwys gydag aelodau wardiau.

 

Lluniwyd siart llif i gyfleu’r broses wella.

 

1.              Bydd Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn cael ei gomisiynu i ddatblygu cynllun Cartrefi â Chymorth. Darperir manylion cyffredinol yr eiddo yn ogystal â nifer y tenantiaid yn yr eiddo;

 

2.              Bydd y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn darparu un neu fwy o opsiynau llety a bydd y Rheolwyr Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yn mynd ati i nodi a dewis yr opsiwn mwyaf addas a'r eiddo a gafwyd.

 

3.              Bydd Prif Swyddog y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu'n cysylltu â'r Cabinet a'r aelod ward i roi gwybod iddynt am gyfeiriad y datblygiad newydd a'r grŵp cleientiaid.

 

4.              Nodir y garfan o unigolion a gaiff eu lletya;

 

5.              Rhoddir proses dendro ar waith ar gyfer asiantaethau darparu gofal, dewisir un a dyfernir contract.

 

6.              Darperir manylion cyswllt rheolwr cofrestredig datblygiad newydd yr asiantaeth gofal i'r Cabinet ac aelodau wardiau yn ôl yr angen.

 

Bu trafodaeth helaeth ar ba gam y bydd aelodau wardiau’n cael eu hysbysu am yr opsiynau llety (pwynt 2). Cytunwyd y bydd y siart llif yn aros fel y mae a bydd aelodau wardiau’n cael gwybod am yr opsiwn llety a ddewiswyd unwaith y bydd wedi'i ddewis. Byddai hyn yn galluogi aelodau wardiau i amlygu unrhyw bryderon ar y cam hwn, fodd bynnag, nodwyd y byddai'r broses yn dal i fynd rhagddi oni bai fod unrhyw bryderon o bwys. 

 

Mewn perthynas â phwynt 6, cytunwyd os yw wardiau’n ymwybodol o broblem o ran llety Byw â Chymorth neu os ydynt am drafod unrhyw bryderon, dylent gysylltu â Phrif Swyddog y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yn y lle cyntaf (neu'r Tîm Dyletswydd Brys os yw y tu allan i'r oriau). Roedd hyn oherwydd gallai manylion y darparwyr gofal a'r rheolwyr cofrestredig yn gallu newid.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu holl waith wrth ddatblygu'r broses, a oedd wedi bod yn ymarfer defnyddiol, addysgiadol a chynhyrchiol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r diweddariad;

2)              Y byddai Prif Swyddog y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yn paratoi adroddiad drafft i’r Cabinet ar 'Byw â Chymorth' ar y cyd â Chadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi - Pobl.

46.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd nodi'r Cynllun Gwaith yn amodol ar yr ychwanegiad canlynol:

 

·                 Ychwanegu diweddariad am Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod at agenda'r cyfarfod nesaf a drefnir ar gyfer 17 Ebrill 2019.