Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

39.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

40.

Cofnodion: pdf eicon PDF 113 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi – Pobl a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2019 fel cofnod cywir.

41.

Byw â Chymorth - Trefniadau presennol i gynnwys y gymuned gan gynnwys aelodau'r ward. (Cyflwyniad)

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, gyda chefnogaeth Prif Swyddog Ataliaeth, Lles a Chomisiynu, gyflwyniad ar "Byw â Chymorth - Trefniadau presennol i gynnwys y gymuned gan gynnwys Aelodau Ward".

 

Amlinellodd y cyflwyniad y canlynol:

 

·                 Byw â Chymorth a threfniadau presennol i gynnwys y gymuned gan gynnwys aelodau ward;

·                 Y broses i ddatblygu Byw â Chymorth;

·                 Cyllid;

·                 Safonau gofynnol darparwyr gofal wrth ymdrin â chymdogion ac aelodau eraill o'r gymuned;

·                 Sut i ymdrin â chwynion;

·                 Cynnwys arfaethedig ar gyfer y dyfodol.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau amrywiol, ac atebodd y swyddogion yn briodol.  Roedd y pynciau'n ymwneud â'r canlynol:

 

·                 Y trefniadau presennol ar gyfer cynnwys y gymuned (nid oedd trefniadau ar gyfer eiddo preifat);

·                 Cleientiaid ag anableddau dysgu yw'r gyfran uchaf o gleientiaid sy'n byw â chefnogaeth;

·                 A gynhaliwyd asesiadau risg neu beidio;

·                 Roedd angen gwybodaeth ddigonol ar aelodau ward i dawelu ofnau preswylwyr ar gam cynnar er mwyn rheoli'r sefyllfa;

·                 Cyfyngiadau cynllunio/gofynion caniatâd gan gynnwys cyfyngiadau cynllunio ar gyfer tai amlfeddiannaeth;

·                 Lefel yr wybodaeth y mae ei hangen ar aelodau ward, e.e. cyfeiriad neu leoliad eiddo/mangre, nifer y cleientiaid/preswylwyr, enw'r darparwr a manylion cyswllt y rheolwr, amlinelliad bras o anghenion personol cleientiaid;

·                 Ni fydd yr aelodau'n cyfrannu at y broses gychwynnol ac ni ddatgelir unrhyw fanylion personol penodol cleientiaid/preswylwyr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y cyflwyniad.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Dylid nodi'r cyflwyniad:

2)              Dylid cyflwyno manylion terfynol y trefniadau cynnwys ar gyfer y dyfodol yn y cyfarfod nesaf.

42.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r Cynllun Gwaith.