Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Datblygu Polisi – Pobl a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2019 fel cofnod
cywir. |
|
Byw â Chymorth - Trefniadau presennol i gynnwys y gymuned gan gynnwys aelodau'r ward. (Cyflwyniad) Cofnodion: Rhoddodd Prif
Swyddog Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, gyda chefnogaeth Prif Swyddog
Ataliaeth, Lles a Chomisiynu, gyflwyniad ar "Byw â Chymorth - Trefniadau
presennol i gynnwys y gymuned gan gynnwys Aelodau Ward". Amlinellodd y
cyflwyniad y canlynol: ·
Byw â
Chymorth a threfniadau presennol i gynnwys y gymuned gan gynnwys aelodau ward; ·
Y
broses i ddatblygu Byw â Chymorth; ·
Cyllid; ·
Safonau
gofynnol darparwyr gofal wrth ymdrin â chymdogion ac aelodau eraill o'r
gymuned; ·
Sut i
ymdrin â chwynion; ·
Cynnwys
arfaethedig ar gyfer y dyfodol. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau amrywiol, ac atebodd y swyddogion yn briodol. Roedd y pynciau'n ymwneud â'r canlynol: ·
Y
trefniadau presennol ar gyfer cynnwys y gymuned (nid oedd trefniadau ar gyfer
eiddo preifat); ·
Cleientiaid
ag anableddau dysgu yw'r gyfran uchaf o gleientiaid sy'n byw â chefnogaeth; ·
A
gynhaliwyd asesiadau risg neu beidio; ·
Roedd
angen gwybodaeth ddigonol ar aelodau ward i dawelu ofnau preswylwyr ar gam
cynnar er mwyn rheoli'r sefyllfa; ·
Cyfyngiadau
cynllunio/gofynion caniatâd gan gynnwys cyfyngiadau cynllunio ar gyfer tai
amlfeddiannaeth; ·
Lefel
yr wybodaeth y mae ei hangen ar aelodau ward, e.e. cyfeiriad neu leoliad
eiddo/mangre, nifer y cleientiaid/preswylwyr, enw'r darparwr a manylion cyswllt
y rheolwr, amlinelliad bras o anghenion personol cleientiaid; ·
Ni
fydd yr aelodau'n cyfrannu at y broses gychwynnol ac ni ddatgelir unrhyw
fanylion personol penodol cleientiaid/preswylwyr. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion am y cyflwyniad. Penderfynwyd: 1)
Dylid
nodi'r cyflwyniad: 2) Dylid cyflwyno manylion terfynol y trefniadau cynnwys ar gyfer y dyfodol yn y cyfarfod nesaf. |
|
Cynllun Gwaith 2018-2019. PDF 94 KB Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019. Penderfynwyd y dylid nodi'r Cynllun Gwaith. |