Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

34.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

35.

Cofnodion: pdf eicon PDF 110 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir.

36.

Byw â Chymorth - Beth yw Byw â Chymorth a sut caiff trefniadau newydd eu datblygu. (Cyflwyniad)

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, gyda chefnogaeth Prif Swyddog Ataliaeth, Lles a Chomisiynu, gyflwyniad ar "Byw â Chymorth - Beth yw Byw â Chymorth a Sut Datblygir Trefniadau Newydd".

 

Amlinellwyd y canlynol ganddynt:

 

·                   Gofynion ymagwedd bartneriaeth Bae'r Gorllewin at Fyw â Chymorth;

·                 Y mathau gwahanol o Fyw â Chymorth sydd ar gael, gan gynnwys nifer y defnyddwyr gwasanaethau sy'n derbyn pob gwasanaeth ar hyn o bryd;

·                   Y sefyllfa bresennol yn Abertawe;

·                 Newidiadau deddfwriaethol amrywiol a newidiadau eraill i'r Gwasanaethau Cymdeithasol;

·                   Model y Gwasanaethau Cymdeithasol;

·                   Newidiadau arfaethedig;

·                   Yr hyn rydym wedi ei gyflawni;

·                   Datblygu trefniadau newydd

·                   Opsiynau lleoliadau llety;

·                   Ffrydiau cyllido;

·                   Ysgogwyr galw;

·                   Heriau yn y dyfodol;

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau amrywiol, ac atebodd y swyddogion yn briodol.  Roedd y pynciau'n ymwneud â'r canlynol:

 

·                 A ysgogir y darparwyr newid gan gyllid - gwnaed y newid o 2 i 8 er mwyn glynu wrth gyfreithiau cystadleuaeth ac er mwyn sicrhau bod y farchnad yn fwy cynaliadwy;

·                 Roedd pob un o'r 8 ohonynt yn sefydliadau nid er elw neu'n gydweithfeydd;

·                 Gweithio'n agos gyda'r darparwyr presennol er mwyn rheoli eu cynaladwyedd fel y byddant mewn sefyllfa well i ailfodelu eu busnesau petai angen gwneud toriadau;

·                 Gallai staff drosglwyddo i ddarparwr newydd os na fydd y darparwyr presennol yn llwyddiannus wrth dendro, na fyddai'n arwain at newid mewn darpariaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau;

·                 Byddai pob un o'r 16 o ardaloedd daearyddol newydd yn cydweithio mor agos ag sy'n bosib â Chydlynwyr Ardaloedd Lleol;

·                 A fydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn monitro'r newidiadau ac yn mynd i'r afael ag unrhyw bryderon yn syth;

·                 Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) fel arfer yn arolygu cwmnïau bob 18 mis, neu'n fwy aml os bydd unrhyw risgiau hysbys;

·                 Cadarnhawyd y gallai'r model "Bywydau a Rennir" roi llety i fwy nag 1 person, gan ddibynnu ar faint y cartref;

·                 Cyflwynwyd y model cynnydd trwy wasanaeth Anableddau Dysgu amlddisgyblaeth gyda gweithwyr proffesiynol amrywiol megis therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, seiciatryddion, therapyddion iaith a lleferydd, etc. Mae'n darparu cymorth er mwyn galluogi pobl i ddatblygu eu hannibyniaeth eu hunain;

·                 Trafodwyd y gwahaniaeth rhwng byw mewn grŵp a byw'n unigol mewn blociau o fflatiau lle mae ardal gymunedol a "warden" sydd ar gael am 24 awr y dydd i gynnig cefnogaeth lle bo angen;

·                 Gwneir dadansoddiad manwl i ddewis y defnyddwyr gwasanaethau mwyaf priodol ar gyfer byw'n unigol;

·                 Mae angen ymrwymiad cymunedol (gan gynnwys gan gynghorwyr);

·                 Bydd rhaglen y Grant Tai â Chymorth yn parhau tan 2021 ar gyfer Datblygu Tai â Chymorth, a'r ffrydiau ariannu fydd y Grant Tai Cymdeithasol, y Gronfa Gofal Integredig (ICF) neu arian preifat.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y cyflwyniad. Ystyrir y trefniadau presennol ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned, gan gynnwys Aelodau Ward, yn ystod y cyfarfod nesaf.

37.

Trosglwyddo - Cynnydd Hyd yn Hyn. (Diweddariad ar lafar)

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem tan y cyfarfod ar 29 Mawrth 2019.

38.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd nodi'r Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019 yn amodol ar ychwanegu "Trosglwyddo - Adborth am Gynnydd" at agenda'r cyfarfod a gynhelir ar 29 Mawrth 2019.