Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

30.

Cofnodion: pdf eicon PDF 118 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi-Pobl a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir.

31.

Cynigion i Wella sy'n Canolbwyntio'n Arbennig ar Lais a Dewis Dinasyddion. (Cyflwyniad)

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes gyflwyniad ar y cynlluniau cyfredol i wella trosglwyddo, gan ganolbwyntio'n arbennig ar lais a dewis dinasyddion.

 

Roedd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar y cwestiynau canlynol:

 

1.               Beth yw'r pwnc rydym yn ceisio barn amdano?

2.               Pam rydym yn gwneud hyn?

3.               Pwy y bydd yn rhaid i ni ei gynnwys?

4.               Sut byddwn yn sicrhau bod pobl yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus?

5.               Beth fyddwn yn ei wneud gyda'r canlyniadau a sut byddwn yn eu rhannu â phobl?

6.               Pa adnoddau y byddwn yn eu defnyddio a beth yw'r amserlen arfaethedig?

7.               Canlyniadau?

 

Byddai'r canlyniadau'n arwain at y canlynol:

 

                  Protocol gwell;

                  Byddai gan blant a phobl ifanc wybodaeth well am eu hawl i ddweud eu dweud a chyfleoedd i rannu eu barn;

                  Gallai'r cyngor fod yn falch o'r gwaith a wnaed a byddai am amlygu a dathlu'r rôl oedd gan bobl ifanc wrth ddatblygu'r protocol;

                  Byddai'n darparu tystiolaeth o bwysigrwydd ac effaith cydgynhyrchu gwasanaethau â phlant a phobl ifanc.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynau Busnes am y cyflwyniad cynhwysfawr.

 

Roedd y sylwadau gan y pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·                 Mae llais pobl ifanc yn bwysig iawn, yn enwedig yng nghwmpas gwasanaethau a ddarperir;

·                 Dylid defnyddio Llais y Plentyn a'r Sgwrs Fawr os oes modd a gweithio gydag ysgolion;

·                 Dylai'r holl blant fod yn gallu defnyddio'r cyfleusterau;

·                 Mae plant yn dod yn gyntaf ac ni ddylent gael eu diffinio gan unrhyw anabledd;

·                 A fyddai cynghorwyr yn gallu cael eu cynnwys mewn rhan o'r broses drwy fynd i ddigwyddiadau perthnasol?

·                 Amlygwyd y diffyg darpariaeth Cyfleuster Addysgu Arbenigol mewn rhai ysgolion Cymraeg, yn enwedig ar ôl CA2.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r cyflwyniad;

2)              Darparu'r diweddaraf am gynnydd yn y cyfarfod nesaf.

32.

Adroddiad Drafft y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl i'r Cabinet - Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACE). pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad Cabinet drafft y Pwyllgor Datblygu Polisi-Pobl mewn perthynas â'r gwaith a wnaed ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. 

 

Atodwyd y Strategaeth Lles Integredig Ddrafft ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn Atodiad 1 i gefnogi'r adroddiad.

 

Esboniodd Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol y cynhelir Asesiad Effaith Cydraddoldeb llawn drwy waith â mwy o ffocws ar y camau gweithredu ynghyd â'r strategaeth.

 

Er y mynegwyd pryder y gallai ymagwedd Abertawe at les ymddangos fel ei bod yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc yn unig, a bod profiadau niweidiol yn gallu effeithio ar blant drwy oedolaeth, cydnabu hefyd fod yn rhaid cael pwynt cychwyn ar gyfer datblygu'r fframwaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

 

Penderfynwyd cyflwyno'r adroddiad gerbron y Cabinet ar 17 Ionawr 2019.

33.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd nodi'r Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019, yn amodol ar ychwanegu'r canlynol:

 

·                 Trosglwyddo – ychwanegu'r Diweddariad ar Gynnydd at yr agenda ar gyfer y cyfarfod a gynhelir ar 16 Ionawr 2019.