Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

25.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

26.

Cofnodion: pdf eicon PDF 119 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2018 fel cofnod cywir.

27.

Cyflwyniad - Cynlluniau Presennol I Wella Trosglwyddo I Plant Gyda Anableddau.

Cofnodion:

Rhoddodd Chris Francis, Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes, gyda chefnogaeth Gemma Whyley, Rheolwr Prosiect, a Michelle Apthorpe, Rheolwr Hwb y Tîm Anableddau Plant, gyflwyniad ar y cynlluniau presennol i wella trosglwyddo ar gyfer plant ag anableddau. Dyma'r manylion yn y cyflwyniad: -

 

·         Cyflwyniad;

·         Crynodeb o'r ysgogwyr newid cenedlaethol;

·         Crynodeb o'r broses sylfaenol a ddisgrifir yn y protocol;

·         Beth rydym yn ei wybod am farn pobl ifanc a'u teuluoedd yn y sefyllfaoedd hyn?

·         Rhai o'r cwestiynau y bydd angen i ni eu gofyn am ein protocol trosglwyddo;

·         Trafodaeth: Ble nesaf?

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r swyddogion a atebodd yn briodol.  Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: -

 

·         Ymgynghoriad â Rhieni;

·         Adolygiad comisiynu a gynhaliwyd yn 2016, y broses a ddefnyddiwyd a'r rheswm pam na chynhwyswyd trosglwyddo'n wreiddiol;

·         Sicrhau bod llais y plentyn yn ganolog, mewn modd tebyg i achosion amlasiantaeth;

·         Mae trosglwyddo bob tro'n broblem i bobl ifanc;

·         Cefnogaeth gan bartneriaid amlasiantaeth, a chytuno ar y dulliau ymgynghori a ffefrir;

·         Sicrhau bod lleisiau'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau (h.y. rhieni a phlant) yn cael eu clywed;

·         Cyfathrebu'n effeithiol â phlant sy'n defnyddio'r gwasanaethau;

·         Mae angen ailsefydlu'r Grŵp Strategaeth Anabledd;

·         Mae angen cynnwys y gwaith y mae angen ei wneud yng nghynllun gwaith y pwyllgor.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad;

2)      Y bydd swyddogion yn rhoi gwybod i'r Cadeirydd/Is-gadeirydd am yr amserlenni ar gyfer cwblhau'r gwaith trosglwyddo a drafodwyd.

 

28.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd nodi’r Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019.