Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

17.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

18.

Cofnodion: pdf eicon PDF 112 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf ac 15 Awst 2018 fel cofnod cywir.

19.

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) - I ba raddau y mae'r cyngor eisoes yn wybodus ynghylch profiadau niweidiol yn ystod plentyndod? pdf eicon PDF 672 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol Fframwaith yr Amgylcheddau sy'n Wybodus ynghylch Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ar gyfer Cyflwyno Gwasanaethau a Dylunio, a oedd yn cynnwys y canlynol,

 

1.               Fframwaith seicolegol – mae gan sefydliadau sy'n wybodus ynghylch Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ddiben a gallant addasu;

2.               Arfer sy'n Creu Tystiolaeth – mae sefydliadau sy'n wybodus ynghylch Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn gynhwysol,

3.               Yr amgylchedd – mae sefydliadau sy'n wybodus ynghylch Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn lleoedd diogel i weithio ynddynt neu i gael mynediad atynt,

4.               Hyfforddiant staff – cefnogaeth i staff

5.               Perthnasoedd – mae sefydliadau sy'n wybodus ynghylch Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn cydnabod perthnasoedd fel offeryn allweddol ar gyfer lles, cefnogaeth a newid.

 

Trafododd y pwyllgor gynnwys y fframwaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r agweddau y gellid eu defnyddio er mwyn cyflenwi'n prosesau presennol.  Cydnabuwyd ganddynt fod prosesau penodol eisoes ar waith gan yr awdurdod er mwyn iddo fod yn gynhwysol drwy ganolbwyntio ar les a diogelu.  Fodd bynnag, gofynnodd a oedd gan ein holl staff y lefel gywir o ymwybyddiaeth ac a ddarparwyd lefel ddigonol o gefnogaeth i'n staff er mwyn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Roedd angen dealltwriaeth hollol glir o ymagwedd at waith sy'n wybodus ynghylch Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod y gellir ei disgrifio gan yr holl staff (h.y. mae staff yn deall sut mae eu gwaith yn atal neu'n lliniaru Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod neu'n ymdrin â hwy).

 

Gellid defnyddio'r fframwaith fel man cychwyn a'i addasu yn ôl yr angen.  Yn benodol, paragraffau 4.1 – 4.8 o'r fframwaith oedd meysydd i ganolbwyntio arnynt.  Dylid darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth sylfaenol i'r holl staff – yn unol â'n hyfforddiant diogelu cyfredol, ac yna ar raddfa symudol i'r rhai sy'n fwy tebyg o weithio yn y maes Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Dylai gwmpasu dysgu a datblygu hefyd a darparu cefnogaeth i staff a fydd, yn eu tro, yn darparu cefnogaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth.

 

Awgrymodd Pennaeth y Gwasanaethau Dysgwyr Diamddiffyn y byddai ymagwedd ar sail gwydnwch yn fwy cynhyrchiol na chanolbwyntio'n unig ar ymagwedd Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.  Mae angen i ni greu'r gwasanaethau a'r amgylchedd fel y gallwn gydnabod yn gynnar pan fydd defnyddwyr gwasanaeth yn profi Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a darparu cefnogaeth briodol i liniaru'r peryglon i les, ynghyd â defnyddio ymyriadau ar sail tystiolaeth i wella gwydnwch.

 

Roedd y pwyllgor eisoes wedi trafod yr angen am "Ddatganiad o Ddiben" fodd bynnag, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Dysgwyr Diamddiffyn fod y Strategaeth Lles Integredig Ddrafft eisoes yn cydnabod effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ac yn hyrwyddo datblygu gwydnwch. Mae'r strategaeth yn amlinellu ymagwedd integredig at hyrwyddo, meithrin a chefnogi lles plant a phobl ifanc.  Cynigodd ddiffiniad o les ynghyd ag amlinellu fframwaith ar gyfer asesu lles person, gan gynnwys risgiau posib i les.  Darparodd hefyd fodel i arwain yr ymyriadau amlasiantaeth fel eu bod yn ataliol, yn brydlon ac yn ddiysgog. Mae'r strategaeth newydd hon yn rhan o'r blaenoriaethau lles ehangach a amlinellir yng Nghynllun Corfforaethol yr awdurdod a Chynllun Lles Lleol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Cytunodd y pwyllgor fod Cyngor Abertawe, ar hyn o bryd, yn wybodus ynghylch Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ond gall fod rhai anghysondebau ynghylch ymwybyddiaeth staff, a fydd yn gofyn am ymagwedd fwy diysgog at ddysgu, hyfforddi a datblygu yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y pwyllgor ei fod wedi cwrdd â Phennaeth y Gwasanaethau Dysgwyr Diamddiffyn a Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn dechrau llunio adroddiad ar waith y pwyllgorau ynghylch Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.  Byddai'r adroddiad yn cael ei ddosbarthu rhwng aelodau'r pwyllgor er mwyn iddynt roi eu sylwadau a byddai'r fersiwn ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno yn y cyfarfod nesaf, cyn iddi gael ei chyflwyno i'r Cabinet.

 

Penderfynwyd dosbarthu'r adroddiad drafft am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod i'r Cabinet i aelodau'r pwyllgor er mwyn iddynt roi eu sylwadau a chyflwyno'r fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.

20.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd diwygio'r cynllun gwaith fel a ganlyn,

 

1)              Gan y trefnir y cyfarfod nesaf ar gyfer 17 Hydref 2018, dylai'r pwyllgor ystyried y canlynol:

a.               Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod – Llunio adroddiad ar gyfer y Cabinet

b.               Cyflwyniad ar "Drosglwyddo – Sut mae Trosglwyddo'n gweithio ar hyn o bryd yn y systemau Iechyd, Gofal Cymdeithasol ac Addysg, gan ganolbwyntio'n benodol ar brofiad dinasyddion".