Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

15.

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) - Deall Goblygiadau ACE i Ddinasyddion. pdf eicon PDF 874 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Simon Jones, Swyddog Gwella Perfformiad a Strategaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol, gyflwyniad PowerPoint er mwyn deall goblygiadau am brofiad niweidiol yn ystod plentyndod i ddinasyddion. 

 

Roedd y cyflwyniad yn amlygu cefndir o’r hyn a ystyrir yn brofiad niweidiol yn ystod plentyndod a rhoi diffiniad ohono. Manylodd ar nifer yr oedolion yng Nghymru sydd wedi dioddef o bob math o brofiad niweidiol yn ystod plentyndod, nifer y dinasyddion yr effeithir arnynt, y risg i ddinasyddion, ei effaith ar les dinasyddion a sut gallem ystyried ymdrin â hwn ar gyfer ein dinasyddion mewn modd gwahanol drwy:

 

Ø  Ffyrdd eraill o edrych ar fynediad at wasanaethau/anghenion/llwybrau/rolau cefnogi;

Ø  Cefnogi meddylfryd system gyfan o ran gwasanaethau cyhoeddus - yn bresennol, comisiynir gwasanaethau i ymdrin â phroblem unigol e.e. cefnogi tenantiaid, atgyfeirio disgyblion, cefnogi teuluoedd;

Ø  Y cyfle i rwydweithio gyda sefydliadau yn Abertawe sy'n ymwybodol o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Ø  Y cyfle i nodi mannau diogel;

Ø  Hyrwyddo 'caredigrwydd'/ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar bob drws blaen/pwynt mynediad sy'n wynebu’r cyhoedd;

Ø  Gall trafod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, wneud gwahaniaeth i ddinasyddion ynddo’i hun.

 

Sefydlwyd hwb cefnogi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn 2017 gan Cymru Well Wales er mwyn mynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'u heffaith yng Nghymru drwy ymagwedd system gyfan a gyrru cyflawni’r weledigaeth ar y cyd ar gyfer Cymru, sef i fod yn arweinydd byd mewn atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

 

Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: -

 

·                 Cydnabod bod y Llywodraeth bellach yn amlygu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod;

·                 Hyfforddiant iechyd a diogelwch i athrawon ar sut i ymdrin â phlant sydd â materion iechyd meddwl;

·                 Yr angen i nodi a mesur y ffactorau er mwyn ceisio 'torri'r gylchred';

·                 Gellid hefyd ystyried bwlio mewn ysgolion yn brofiad niweidiol yn ystod plentyndod - mae angen cysondeb mewn ysgolion ar sut i nodi achosion ac ymdrin â nhw;

·                 Camau amrywiol i'w hystyried:

o       Cyn genedigaeth;

o       Y 1000 o ddiwrnodau cyntaf;

o       Pontio i ysgol uwchradd

o       Trosglwyddo i oedolaeth

·                 Mae hyn wedi bod yn mynd rhagddo am nifer o flynyddoedd, nid yw'n cysyniad newydd.

·                 Mae angen gweithio mewn partneriaeth gyda'r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd etc;

·                 Ystyried canolbwyntio ar rieni a ddaw'n rhieni am y tro cyntaf - er mwyn ceisio torri'r gylchred;

·                 Mae gwaith eisoes ar waith drwy wasanaethau Dechrau'n Deg, Amddiffyn Plant, Tîm am y Teulu;

·                 Ystyried cael 'Datganiad o Ddiben', megis datganiad caredigrwydd er mwyn ei wreiddio yn ein diwylliant; 

·                 Efallai gellid cynnwys 'ychwanegiad' at y strategaeth diogelu/yr hyfforddiant sy'n orfodol i'r holl staff - cyfrifoldeb pawb yw cynnwys gwybodaeth am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod;

·                 Ailadroddwyd mai gwasanaethau mamolaeth ac ymwelwyr iechyd oedd y bobl allweddol a allai nodi achosion ar gam cynnar;

·                 Angen cynyddu ymwybyddiaeth pawb o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod;

·                 Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes yn cynnal llawer o waith ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod - mae fframwaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn bodoli;

·                 Yn ddiweddar, cofrestrodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe i Raglen Gydweithredol y 1000 Diwrnod Cyntaf;

·                 Mae cost uchel iawn i wasanaethau cyhoeddus trwy gydol bywyd rhywun sydd wedi cael profiad niweidiol yn ystod plentyndod, sydd eto'n amlygu’r angen am ymyrraeth gynnar.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Swyddog Gwella Perfformiad a Strategaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol am ei gyflwyniad.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r cyflwyniad;

2)              Yn y cyfarfod nesaf ar 19 Medi 2018 bydd y pwyllgor yn ystyried:

a.               Y fframwaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod;

b.               Cysyniad y 'Datganiad o Ddiben'.

16.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y dylid nodi'r cynllun gwaith;

2)              Yn y cyfarfod a drefnir ar gyfer 19 Medi 2018 dylid ystyried:

 

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod - i ba raddau, o ran profiad niweidiol yn ystod plentyndod, y mae'r cyngor yn barod i:

·                  Dderbyn gwybodaeth ynglŷn â’r fframwaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod;

·                  Ystyried 'Datganiad o Ddiben'.