Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

6.

Cofnodion: pdf eicon PDF 110 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol

a nodi cofnodion y Pwyllgor Datblygu polisi diogelu blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Nodwyd bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Diogelu a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2018 a phenderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 24 Mai 2018 fel cofnod cywir.

7.

Cylch Gorchwyl. (Er gwybodaeth.) pdf eicon PDF 51 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd Gylch Gorchwyl ar gyfer y pwyllgor, 'er gwybodaeth’.

 

Nodwyd y dylai'r rhestr o bum pwyllgor ar frig tudalen 5 y pecyn agenda ddweud Pobl ac nid Gwasanaethau Pobl.

8.

Cynllun Gwaith 2018-2019 (Drafodaeth).

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyniad Powerpoint gan adrodd am drafodaethau cychwynnol gyda'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, Uwch-swyddogion ac Aelodau'r Cabinet mewn perthynas ag eitemau ar gyfer Cynllun Gwaith 2018-2019.  Roedd tri maes diddordeb y gallai'r pwyllgor ganolbwyntio gweithgareddau'r flwyddyn gyntaf arnynt, sef y canlynol:

 

·                 A yw'r cyngor yn gallu datblygu polisi er mwyn bod yn gyngor sy'n wybodus ynghylch profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a sut y gallai ddatblygu hyn;

·                 Polisi sy'n amlinellu arfer gorau am gael cefnogaeth aelodau ward wrth ddatblygu trefniadau byw â chymorth newydd;

·                 Sut y gallai'r cyngor wella trosglwyddo o'r Gwasanaethau Plant i'r Gwasanaethau i Oedolion drwy wella polisïau sydd eisoes yn bodoli.

 

Trafododd y pwyllgor bob un eitem yn fanwl a chytunodd y dylai'r eitemau hyn ffurfio'r cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2018-2019. Byddai'n rhaid ystyried pob un o'r eitemau mewn sawl cyfarfod olynol oherwydd cwmpas eang y pynciau a ddewiswyd. 

 

Yn ychwanegol, cytunwyd y bydd aelod arweiniol o'r pwyllgor yn gweithio gyda swyddog a enwebwyd ar gyfer pob un o'r tri phwnc a nodwyd er mwyn cynnal gwaith cefndir/ymchwil, etc.

 

Cytunwyd ar yr aelodau arweiniol fel a ganlyn:

 

·                 Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod – Y Cynghorydd Ceri Evans;

·                 Byw â Chymorth – Y Cynghorydd Erika Kirchner;

·                 Trosglwyddo – Y Cynghorydd Sam Pritchard, wedi'i gysgodi gan y Cynghorydd Cyril Anderson.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Ar yr eitemau canlynol ar gyfer Cynllun Gwaith 2018-2019:

 

a)    A yw'r cyngor yn gallu datblygu polisi er mwyn bod yn gyngor sy'n wybodus ynghylch profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a sut y gallai ddatblygu hyn;

b)    Polisi sy'n amlinellu arfer gorau am gael cefnogaeth aelodau ward wrth ddatblygu trefniadau byw â chymorth newydd;

c)     Sut y gallai'r cyngor wella trosglwyddo o'r Gwasanaethau Plant i'r Gwasanaethau i Oedolion drwy wella polisïau sydd eisoes yn bodoli.

 

2)              Ystyried profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn y cyfarfod nesaf.

9.

Dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd fod dyddiad cyfarfod nesaf y pwyllgor ym mis Gorffennaf yn cael ei symud gan nad yw ef a sawl aelod arall o'r pwyllgor yn gallu bod yn bresennol oherwydd ymrwymiadau cynharach.

 

Penderfynwyd aildrefnu dyddiad cyfarfod nesaf y pwyllgor i ddydd Mercher 25 Gorffennaf am 4.00pm.