Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Atal Rheol 2 Gweithdrefn y Cyngor "Cadeirydd Cyfarfodydd" er mwyn galluogi'r Aelod Llywyddol i lywyddu dros yr eitemau a nodir ar yr agenda.

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio Rheol 12 y Weithdrefn i ganiatáu i'r Aelod Llywyddol lywyddu dros y cyfarfod hwn.

 

(Bu'r Cynghorydd D W W Thomas yn llywyddu)

2.

Ethol Cadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018 - 2019.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd C R Evans yn Gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018-2019.

 

(Bu’r Cynghorydd C R Evans yn llywyddu)

3.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018 - 2019.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd S Pritchard yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018-2019.

 

4.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.