Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 63714 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datgeliadau o gysylltiadau - Joe Hale ac Oliver James

 

2.

Adroddiad am Ddigartrefedd pdf eicon PDF 149 KB

Y Cynghorydd Andrea Lewis – Aelod y Cabinet dros Dai ac Ynni

Jane Harries – Rheolwr Gwasanaethau Landlordiaid          

Steve Porter – Rheolwr Gweithrediadau Tai Cymunedol      

Alex Williams – Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion

Cofnodion:

Roedd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni'n bresennol i ateb cwestiynau gan y Gweithgor, ynghyd ag Alex Williams, Jane Harries, Steve Porter, Peter Field ac Anita Evans o'r cyngor a Gareth Bartley a Malcolm Jones o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

 

Rhoddodd Andrea Lewis gyflwyniad byr ar waith y cyngor o ran digartrefedd, gan ddatgan y bydd y cyngor yn gan weithio’n agos gydag amrywiaeth o bartneriaidi ddatblygu Strategaeth Digartrefedd.  Rhoddwyd gwybod i'r aelodau nad yw'r holl faterion yn rhan o'i phortffolio, ond byddai'n sicrhau bod unrhyw gasgliadau ac argymhellion yn cael eu trosglwyddo i aelod perthnasol y Cabinet. 

 

Trafodwyd y prif faterion canlynol, gan gynnwys tystiolaeth, yng nghyfarfod cyntaf y Gweithgor:

 

Llety

 

·       Teimlir bod diffyg llety arbenigol ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth (pobl â mwy nag un cyflwr megis camddefnyddio sylweddau ac anawsterau dysgu, neu gamddefnyddio sylweddau ac afiechyd meddwl, anaf i'r ymennydd o ganlyniad i yfed alcohol, etc.).

 

·       Mae The Wallich yn dadlau bod angen prosiect preswyl arbenigol fel blaenoriaeth ar gyfer y cleientiaid hynny sy'n ddigartref oherwydd y materion ynghylch eu hiechyd meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau. Yn aml, mae'r unigolion hyn yn anhrefnus iawn, ac ystyrir bod eu hanghenion yn rhy uchel i'w rhoi mewn hostel safonol.

 

·       Mae cynnydd yn nifer y bobl ddigartref ag anghenion cymhleth/lluosog, gan gynnwys iechyd meddwl. Nid oes gan nifer o'r unigolion hyn sgiliau bywyd sylfaenol ac mae angen cefnogaeth barhaus arnynt dros gyfnod hir o amser. Yn aml, nid yw'r gefnogaeth hon ar gael. Nid oes unrhyw un yn derbyn cyfrifoldeb dros asesu a diwallu eu hanghenion yn y cyngor nac yn y Bwrdd Iechyd.

 

·       Roedd pryder yngylch y ffaith nad yw tai gwlyb yn diwallu anghenion pobl alcoholig, gyda llawer yn dod yn anymataliol ac yn llenwi gwelyau mewn ysbytai. Ydy'r model hwn yn addas at y diben? A ddylen ni fod yn edrych ar 'gartrefi gofal tai gwlyb' arbenigol, yn cyflogi staff gofal ar gyfer ein prosiectau gwlyb presennol, neu'n sefydlu Rhaglen Rheoli Alcohol? 

 

·       Mae bylchau eraill yn cynnwys hostelau sy'n derbyn menywod, pobl dan 18 a 21 oed, a darpariaeth ar gyfer dinasyddion yr UE neu bobl heb hawl i arian cyhoeddus. Bu Shelter yn ymdrin â 100 o'r categori olaf y llynedd. 

 

·       Ychydig iawn o lety brys sydd ar gael ar gyfer cyplau digartref. Rhentu preifat yw'r unig opsiwn heblaw am fyw ar y stryd. Mae darparwyr hostelau a llety a gefnogir yn anfodlon iawn gadael i gyplau o'r un prosiect aros yn eu llety. 

 

·       Mae'n bwysig bod Abertawe'n dysgu o unrhyw arfer da a ddefnyddir gan gynghorau mewn mannau eraill mewn perthynas â'r ymagwedd Tai yn Gyntaf.  Ydy'r tystion yn ymwybodol o unrhyw un? 

 

·       Mae pryder nad yw pobl ddigartref yn elwa'n llawn o lety cymdeithas tai.

 

·       Mae Caer Las yn dadlau bod rhestrau aros hir er mwyn cael mynediad at y panel symud ymlaen. Mae angen cael opsiynau gan ddarparwyr sy'n cynnwys pecynnau wedi'u teilwra ar gyfer unigolion.

 

·       Mae pryder o ran newidiadau posib i ddeddfwriaeth wrth ddileu angen blaenoriaethol a bwriadoldeb.  Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar lety brys a darpariaeth llety a gefnogir.   Sut bydd y cyngor yn ymdopi â hyn?

 

·       Teimla'r Gweithgor fod angen i Abertawe gael ffyrdd symlach i bobl gael mynediad at ddarpariaeth yn dilyn pryderon a fynegwyd gan rai grwpiau nad oeddent yn gallu cyfeirio cleientiaid at ddarpariaeth addas ar rai adegau yn ystod yr wythnos.

 

·       Mae pryder o ran cefnogaeth i bobl ag anawsterau dysgu y maent wedi symud i lety.

 

·       Pryder bod gan rai pobl sydd wedi symud i lety broblemau o ran cyllidebu.

 

·       Pryder ynghylch sut rydym yn nodi anghenion pobl nad oes ganddynt broblemau iechyd meddwl ond nid ydynt wedi bod yn berchen ar dŷ neu wedi rhentu tŷ o'r blaen ac felly nid ydynt yn gwybod yr hyn i'w wneud.

 

Y Gwasanaethau Cymdeithasol a materion diogelu

 

·       Mae'r trothwy ar gyfer pobl ddigartref a diamddiffyn sy'n cael eu derbyn i gael cefnogaeth y gwasanaethau cymdeithasol yn rhy uchel. Mae asiantaethau'n gweithio gyda rhai o'r unigolion mwyaf cymhleth a heriol, ond eto, mae bron yn amhosib cael cefnogaeth arbenigol ychwanegol iddynt, yn enwedig os nad ydynt wedi bod yn rhan o'r system o'r blaen.

 

·       Mae diagnosis deuol yn broblem o hyd. Nid yw'r bobl ag anghenion iechyd meddwl yn gallu cael mynediad at gefnogaeth y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol oherwydd problemau dibyniaeth ar gyffuriau.

 

·       Mae'r nyrs digartrefedd wedi nodi bod problem gyda rhannu data rhwng gofal iechyd a chymdeithasol.

 

Materion y Gwasanaeth Iechyd

 

·       Mae gwaith cymdeithasol mewn ysbytai ar gyfer pobl ddigartref neu ddiamddiffyn yn gyfyngedig iawn. Dylai pobl ddigartref mewn ysbyty gael eu hasesu cyn gynted â phosib er mwyn osgoi rhyddhau gohiriedig.

 

·       Mae'n rhaid i unrhyw gleient yn Abertawe sydd am gael ei dderbyn gyfeirio ei hun at AADAS yn gyntaf, naill ai ar fore Llun neu ddydd Mawrth. Ar gyfer defnyddiwr cyffuriau anhrefnus, dyma'r amser lle gallent fod yn cardota etc o bosib er mwyn talu am gyffur cyntaf y dydd. Mae angen i'r amserau atgyfeirio hyn fod yn fwy hyblyg ac wedi'u hymestyn yn sylweddol am fod angen i gleientiaid nad ydynt yn gallu mynd ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth aros am wythnos gyfan cyn i'r cyfle godi eto. Unwaith y cyfeirir at AADAS, mae rhestr aros o tua chwe mis cyn iddynt gael eu derbyn. Nid yw llawer o'r cleientiaid felly'n cael dechrau'r broses hyd yn oed. Mae rhestr aros 12 mis er mwyn cael mynd i'r gwasanaeth ailsefydlu.

 

·       Mae Caer Las yn dadlau y gellid gwella gwasanaethau i bobl nad ydynt yn gallu cael mynediad at wasanaethau oherwydd diagnosis deuol drwy gael rhwydwaith sy'n dod â rhanddeiliaid o wasanaethau iechyd (gan gynnwys iechyd meddwl), gwasanaethau D&A a thai at ei gilydd yn Abertawe.

 

·       Pryder y bydd toriadau PABM yn arwain at gael gwared ar y nyrs digartrefedd.

 

Anableddau dysgu

 

·       Mae cynnydd yn nifer y bobl ddigartref ag Anableddau Dysgu Ffiniol nad oes ganddynt fynediad at wasanaethau Anableddau Dysgu ac nid ydynt yn gallu darllen (neu mae ganddynt sgiliau darllen ac iaith cyfyngedig), ysgrifennu, rheoli arian neu gynnal tenantiaeth ac maent naill ai'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

 

Tai yn Gyntaf

 

·       Mae The Wallich yn dadlau, heb benodi staff profiadol ychwanegol i ddarparu cefnogaeth ddwys, bydd y peilot hwn yn methu. Maent yn dweud bod bylchau'n dal i fod yn y gwasanaeth sy'n gofyn am gynnwys y bwrdd iechyd yn llawn, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd meddwl. Dadleuodd Crisis nad oes modd rhoi Tai yn Gyntaf ar waith ar ei ben ei hun, ond nid oedd hynny ar agenda'r bwrdd iechyd.

 

Cyn-droseddwyr

 

·       Mae pobl yn cael eu rhyddhau o'r carchar heb unrhyw le i fynd iddo. Pa gyngor a chymorth a roddir iddynt cyn iddynt gael eu rhyddhau? Ydy'r gwasanaeth prawf yn cysylltu â thai yn ystod y cyfnodau priodol? Pa waith a wneir i gynnal parhad y ddarpariaeth tai ar gyfer preswylwyr Abertawe o ddechrau eu cyfnod yn y carchar tan iddynt gael eu rhyddhau?

 

Canolfan Ddydd

 

·       Mae colli canolfan ddydd St Matthew wedi cael effaith fawr ar asiantaethau. Mae sawl un yn dadlau dros gael siop dan yr unto, sydd ar agor 7 niwrnod yr wythnos am oriau hir sy'n cynnwys yr holl staff, gan gynnwys allgymorth, Big Issue, gweithwyr iechyd meddwl a chorfforol proffesiynol, gweithwyr achos Opsiynau Tai, y gwasanaeth prawf etc, a fyddai'n elw o sesiynau galw heibio rheolaidd gan Gyngor ar Bopeth, yr Adran Gwaith a Phensiynau a hyfforddwyr canolfannau swyddi. Maent yn credu y byddai'r adeilad hwn yn cynnwys bwyd, cyfrifiaduron, lolfa, cyfleusterau golchi dillad, cawodydd, loceri etc â chymorthdal y gellid eu defnyddio i ddatblygu mentrau cymdeithasol addas er mwyn helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith.

 

Y Porth

 

·       Dadleuodd pob asiantaeth fod angen diwygio system y Porth, sef system atgyfeirio ganolog sy'n gweithredu pob llety (hostelau) a gefnogir yn Abertawe. Roeddent yn dadlau nad yw'r system yn cael ei rheoli na'i defnyddio i'w photensial llawn. Hoffent weld 'Swyddog Porth' dynodedig yn cael ei benodi i oruchwylio pob lle gwag mewn hostelau yn Abertawe.

 

Gan fod rhai hostelau'n dewis cleientiaid, yn ôl y sôn, gan adael y cleientiaid mwyaf anoodd ar y rhestr fer neu'r rhestr o bobl a wrthodir am gyfnod amhendant, ac oherwydd bod llawer o hostelau hefyd yn gofyn bod eu ffurflenni atgyfeirio eu hunain yn cael eu llenwi, yn ogystal â ffurflen atgyfeirio'r Porth, mae hyn yn golygu bod y gwaith yn cael ei ddyblygu ac mae'n faich ychwanegol ar y gwasanaethau allgymorth cyfyngedig.

 

Roedd hefyd hunanhoniad bod gan y staff rheng flaen ddiffyg hyder/gwybodaeth wrth ddefnyddio/rheoli'r Porth yn effeithiol. Gallai hyn fod oherwydd trosiant staff mewn prosiectau preswyl ac mae angen mynd i'r afael â hyn drwy hyfforddi recriwtiaid newydd yn gywir.

 

Troi allan o lety â chymorth oherwydd ôl-ddyledion rhent

 

·       Mae The Wallich yn dadlau bod llawer o'i gleientiaid wedi dibynnu ar gyfrifon Taliadau Syml neu Swyddfa'r Post ar gyfer eu taliadau budd-dal yn flaenorol. Fodd bynnag, oherwydd bod y mathau hyn o gyfrifon wedi cau, annogir pob darparwr llety â chymorth i sicrhau bod gan breswylwyr gymorth wrth agor cyfrifon banc. Mae cleientiaid yn cael eu troi allan o lety â chymorth yn rheolaidd oherwydd ôl-ddyledion tâl gwasanaethau.

 

Ydy'r cyngor yn gallu gweithio gyda'r darparwyr hyn i'w helpu i osod taliadau debyd uniongyrchol ar gyfer y taliadau hyn? Byddai hyn yn atal y rhai mwyaf diamddiffyn, y rheiny heb sgiliau cyllidebu, ac aelodau ein cymdeithas sydd wedi'u hecsbloetio'n ariannol, rhag colli eu llety oherwydd yr ôl-ddyledion hyn.

 

Cefnogaeth y tu allan i oriau

 

·       Mae Matthew's House yn dadlau nad oes unrhyw gefnogaeth ar y penwythnos nac y tu allan i oriau. Maent yn dweud, oherwydd eu bod ar agor ar nos Sul, yn aml maent yn cael eu dal mewn sefyllfa anwadal gyda phobl yn brwydro i fyw heb ddim. Sawl gwaith, nid ydynt wedi gallu cael mynediad at unrhyw beth ar ôl 2pm yn ystod yr wythnos. Ydy'r cyngor yn gallu cyfeirio gwirfoddolwyr ac elusennau at sut i gael mynediad at gefnogaeth y tu allan i oriau yn well?

 

Cydlynu

 

·       Mae llawer o grwpiau bach sydd wedi sefydlu eu hunain ar Facebook etc. ac sydd am helpu pobl ddigartref. Fodd bynnag, nid yw'r rhain yn cael eu cydlynu na'u monitro. Oes gennym y gallu i geisio mynd i'r afael â hyn?

 

Canol y Ddinas

 

·       Dywedodd nifer o asiantaethau wrthym fod Ceidwaid y Ddinas a'r Heddlu wedi ymddwyn mewn ffordd ymosodol tuag at bobl ddigartref a hyd yn oed y gweithwyr allgymorth a oedd yn ceisio eu helpu. Yn ogystal â phobl ddigartref, mae gwerthwyr Big Issue hefyd wedi cael eu gorfodi i symud ymlaen gan Geidwaid y Ddinas. Ydy'r cyngor yn gallu darparu hyfforddiant fel bod Ceidwaid y Ddinas yn ymddwyn mewn ffordd fwy cydymdeimladol? Ydyn nhw'n gallu cysylltu â'r Heddlu o ran y mater hwn?

 

 

 

 

 

 

3.

Trafodaeth a Chwestiynau

Gofynnir i Gynghorwyr drafod y casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet:

 

a) Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)?

 

b) Oes gennych unrhyw argymhellion sy'n codi o'r sesiwn hon i Aelod y Cabinet?

 

c) Oes unrhyw faterion eraill sy'n codi o'r sesiwn hon yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt?

 

 

Cofnodion:

Trafododd y Gweithgor gynnydd a daethpwyd i'r casgliadau canlynol:

 

·       Mae'r Gweithgor yn gwerthfawrogi'r hyn sy'n cael ei wneud gan bawb sy'n rhan ohono, ond mae'n teimlo fel bod angen dod â phopeth at ei gilydd - mae angen llwybr clir.

·       Mae'r Gweithgor yn teimlo ei fod yn bwysig i'r cyngor gael safbwynt strategol a dyna pam bod Tai yn Gyntaf mor bwysig. 

·       Bydd angen i Graffu graffu cyn penderfynu ar y Strategaeth Digartrefedd cyn iddo fynd gerbron y Cabinet.  Bydd angen ystyried y materion a godwyd gan y Gweithgor hwn wrth ddatblygu'r strategaeth. 

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

·       Bydd Cynullydd y Gweithgor yn anfon llythyr at Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni, sy'n crynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu barn ac argymhellion y gweithgor.

 

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 12 Mehefin 2018) pdf eicon PDF 258 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 12 Mehefin 2018) pdf eicon PDF 783 KB