Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny 636292
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Ymddiheuriadau am absenoldeb
Cofnodion:
|
2. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
|
3. |
Nodiadau PDF 123 KB
Cymeradwyo a llofnodi,
fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.
Cofnodion:
|
4. |
Cwestiynau gan y Cyhoedd
Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan
agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod
o 10 munud.
Cofnodion:
|
5. |
Sesiwn Holi ac Ateb - Gwasanaethau Eiddo Corfforaethol a'r Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol PDF 120 KB
·
Geoff Bacon – Ystadau a Chyfleusterau Strategol Gwasanaethau Adeiladau ac Eiddo
Corfforaethol
·
Nigel Williams - Pennaeth Dros Dro y
Gwasanaethau Adeiladu
Cofnodion:
- Amlinellwyd nod ac
amcanion yr ymchwiliad
- Trosolwg byr o'r
cyfarfod gyda'r adran cynllunio
Pennaeth y Gwasanaethau
Eiddo Corfforaethol – Sesiwn Holi ac Ateb
- Bydd achlysuron pan
na fydd tir yn cael ei waredu oherwydd rhesymau ecolegol
- Yn unol â
diwydrwydd dyladwy, cynhelir arolygon ecolegol ar y tir yn y lle cyntaf a
bydd hyn yn sefydlu pa mor werthfawr yw'r tir ac a ddylid ei gadw
- Caiff y tir ei
ychwanegu at y rhestr gwaredu ar ôl ymgymryd â'r broses hon yn unig
- Rhoddir gwerth i
dir mewn modd gwahanol gan ddibynnu ar a yw'r tir hwnnw ar werth neu i'w
brydlesu
- Ni roddir
Gorchmynion Amddiffyn Coed ar dir y cyngor fel arfer
- Ystyrir ffactorau
amgylcheddol ac yna datblygir amcangyfrif ariannol gan y tîm
- Mae gwrthdaro
uniongyrchol rhwng mwyafu incwm a materion
amgylcheddol ac mae hwn yn fater sylfaenol
- Bydd polisi yn
penderfynu ar y gwrthdaro hwn a daw canlyniadau drwy gyd-drafod
- Bydd unrhyw
gyfyngiad statudol yn diystyru unrhyw bolisi gan y cyngor
- Gall dadleuon godi
oherwydd lliniaru amgylcheddol
- Nid oes llawer o
gyswllt ag asiantaethau allanol megis CNC oni bai fod hyn yn
angenrheidiol. Yn gyffredinol, cyfeirir unrhyw faterion i'r Tîm Cadwraeth
Natur
- Weithiau, ymgymerir
ag arolygon ecolegol allanol ar safleoedd posib ond mae'n rhaid gwrthbwyso
cost ymgymryd â'r ymchwiliadau hyn yn erbyn unrhyw incwm – mae'n rhaid i
hyn fod yn ddichonadwy'n ariannol
- Mae gwaith sy'n
ymddangos â mwy o bwyslais ar ecosystemau a manteision tir megis lliniaru
llifogydd a charbon – mae hwn yn golygu y gallai tir fod yn fwy gwerthfawr
nac y meddyliom yn y lle cyntaf
- A allai incwm tymor
hir fod yn ddichonadwy yn hytrach na gwerthu asedau a chadw un swm o arian
o'r tir yn unig
- Rhennir y data a'r
arolygon allanol a wneir â'r adran ecoleg
- Mae argaeledd y tir
y gellir ei ddatblygu'n fach iawn – ni fydd y rhan fwyaf o'r tir yn
Abertawe byth yn cael ei ddatblygu
- Byddai creu incwm o
ddarn o dir yn dda ond mae angen staff i'w reoli ac nid oes gan adrannau'r
adnoddau
- Mae angen rhywun i
reoli tir sydd â phrosiectau creu incwm ac mae'n rhaid cael ymagwedd
gydlynol ar gyfer yr holl dir
- Nid yw'r
Gwasanaethau Eiddo Corfforaethol yn rheoli unrhyw orfodaeth ar y tir. Mae
gorfodaeth yn cael ei monitro'n unig drwy adrannau eraill megis cynllunio
(os yw'n amodol ar gynllunio) a gorfodaeth ecolegol arall
- Mae pobl yn barod i
fentro derbyn cosb ariannol am ddifrodi tir a rhywogaethau os bydd yn
gwneud elw/sicrhau datblygiad tir
- Nid oes adnoddau
digonol ar gyfer gorfodi cyfreithlon
- Mae gan gynghorwyr
lleol rôl fawr i'w chwarae wrth adrodd am faterion sy'n gofyn am orfodaeth
oherwydd, os bydd digon o gyhoeddusrwydd, dylai hyn atal pobl rhag gwneud
hyn
- Mae’n bosib y bydd
swm o arian ychwanegol (adfachu arian) os bydd datblygwr yn ehangu'r safle
a roddwyd iddo ac yn adeiladu mwy o eiddo gan wneud y tir yn fwy
gwerthfawr yn dilyn hynny
- Ydy'r broses cyn ymgeisio'n
yn addas at y diben? Gan ystyried cysylltedd a materion amgylcheddol
eraill – efallai y bydd yn bosib gwella'r broses hon
- Mae'n rhaid cynnwys
y bobl gywir yn gynnar yn y broses i sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys
yn y broses yn gywir
- Gallai fod yn bosib
ailfuddsoddi yn y tir sydd â gwerth (y tir a
nodwyd i'w werthu) a chreu incwm tymor hir ohono
- Mae problemau
adnoddau gyda phob tîm o ran rheoli problemau a chreu cyfleoedd
- Mae hyrwyddo a
rheoli tir yn costio llawer o arian ac mae hyn yn berthnasol i ben arall
nodau'r gwasanaeth – cynyddu incwm uniongyrchol
Gwasanaethau Adeiladau
Corfforaethol
- Mae'r tîm yn
cysylltu â Chadwraeth Natur lle bo angen
- Nid oes rheolwr
adeilad/safle sy'n gallu mynd o'r tu arall i gyfreithiau a chysylltu ag
ecolegwyr mewn perthynas ag ystlumod pan fydd angen
- Mae'r tîm yn
awyddus i ailgylchu a chynnal yr amgylchedd naturiol
- Mae'r prentisiaid
(yn benodol) yn achub y blaen wrth ailgylchu ac ailddefnyddio ac maent yn
chwilio am gyfleoedd i gynyddu'r buddion ar gyfer natur
- Hoffwn weld
ymagwedd 'o'r pen i'r gwaelod' at fioamrywiaeth a sicrhau bod y neges yn
rhaeadru drwy'r sefydliad yn yr un modd ag y mae negeseuon pwysig eraill
wedi gwneud
- Hoffai'r gwasanaeth
gynnal sgyrsiau â'r gweithlu ynghylch y materion a byddai'n croesawu hyfforddiant
a gwybodaeth sy'n ei alluogi i gyfrannu at y mater
- Ymgymerir ag
arolygon ecolegol ar sbardunau e.e. ni wneir gwaith ar y to'n flynyddol er
enghraifft
- Hoffai pob rheolwr
safle groesawu cyfleoedd i wella'r bywyd gwyllt ar eu safleoedd a gallai
pob un dderbyn hyfforddiant/awgrymiadau da
- Nid oes diffyg
awydd i gyfrannu at y mater pwysig hwn na sicrhau bod yr amgylchedd yn
cael ei gynnal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
- Mae diffyg gorfodi
ac atal unwaith eto'n fater mawr gan fod pobl yn
gwybod nad oes effaith negyddol arnynt
- Byddai o fudd i ni
be bai hwn yn amcan corfforaethol fel y gellir codi statws y mater a
chryfhau'r neges drwy'r sefydliad
Trafodaeth
- Gall fod dryswch
ynghylch pwy sy'n rheoli darnau o dir ar gyfer y cyhoedd ac yn fewnol
- Mae darn o waith yn
cael ei lunio ar hyn o bryd i geisio gwneud hyn yn haws gan egluro
cyfrifoldeb a rheolaeth y tir
- Nid oes diffyg
ewyllys i barchu a chyfrannu at wella bioamrywiaeth
- Deillir llawer o'r
cyfyngiadau o ddiffyg adnoddau
- Hefyd, mae
enghreifftiau o lwyddiant a llawer o waith cadarnhaol
- Nid yw'r cyngor yn
gallu rheoli'r holl safleoedd ac mae'n dibynnu ar aelodau wardiau a
phreswylwyr i gysylltu â'r cyngor ynghylch unrhyw faterion maent wedi'u
gweld
- Ystyried ychwanegu
bioamrywiaeth fel amcan corfforaethol
- Mae angen
ymgorffori materion bioamrywiaeth ac amgylcheddol ym mhob gwasanaeth a
gweithiwr
- Gwneir hyn ar sail
'o'r pen i'r gwaelod' ac mae'n dechrau digwydd
- Mae'r mater yn
derbyn cefnogaeth sylweddol gan y cyhoedd
|