Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny - 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 113 KB

·         Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

·         Gohiriwyd tan y cyfarfod nesaf

4.

Cylch gorchwyl. pdf eicon PDF 93 KB

5.

Yr Amgylchedd Naturiol - Trafodaeth bord gron

  • Gwahoddir asiantaethau amrywiol i roi eu barn am yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn Abertawe o bersbectif eu sefydliadau

 

Cofnodion:

  • Cyflwynodd y Cynullydd, Peter Jones, gylch gorchwyl a nodau'r ymchwiliad
  • Mae dau ddarn o ddeddfwriaeth newydd yn ysgogi'r angen am yr ymchwiliad
  • Y dymuniad i weld bioamrywiaeth fel rhywbeth annatod ym mhob penderfyniad gan Gyngor Abertawe sy'n berthnasol
  • Diben y sesiwn yw tynnu sylw at broblemau a datrysiadau
  • Colin Cheesman - Plantlife
  • Mae gwirfoddolwyr yn rhan bwysig iawn o'r maes gwaith hwn
  • Mae Abertawe'n amrywiol iawn ac yn bwysig iawn ar gyfer bywyd planhigion
  • Drwy weithio mewn partneriaeth gallwn lwyddo a goresgyn rhai rhwystrau
  • Mae angen i bobl ddeall bioamrywiaeth a sut mae'n bwysig iddynt
  • Mae monitro'n bwysig iawn fel y gallwn ddeall y sefyllfa a'r tueddiadau
  • Kerry Rogers - Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gylch gwaith enfawr
  • Mae'n cynnwys yr holl safleoedd a warchodir. Mae 35 o safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn Abertawe, 6 Ardal Cadwraeth Arbennig, 2 Ardal Gwarchodaeth Arbennig, 2 wlyptir o bwys rhyngwladol (Ramsar) ac un ardal cadwraeth arbennig bosib.
  • Mae llai o bori yn Fairwood a phob tir comin yn Abertawe
  • Mae ansawdd aer yn gysylltiedig â rhwydweithiau cludiant
  • Mae partneriaethau'n bwysig iawn (e.e. y Gwasanaeth Tân, Asiantaethau Dŵr, cyrff trydydd sector etc)
  • Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n rhyngweithio â sawl adran yng Nghyngor Abertawe - mae awydd i gyfuno hyn yn llawer mwy aml
  • Mae mantais o ran cost yn deillio o weithio ar y cyd e.e. prosiect dal twyni tywod, sy'n golygu nad oedd angen i'r priffyrdd eu clirio o hyd
  • Mae rheoli llwybr yr arfordir yn annog bioamrywiaeth a thwristiaeth
  • Mae blodau gwyllt yn bwysig (e.e. ar gyfer peillwyr a chynnwys y cyhoedd) ond mae angen eu clustnodi'n ofalus
  • Dylai'r camau gweithredu ystyried yr effaith ar fioamrywiaeth
  • Mae Abertawe'n ddinas werdd iawn â llawer o werth fel adnodd naturiol
  • Adam Rowe - Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWBREC)
  • Rôl SEWBREC yw arsylwi ar rywogaethau, eu nodi a chadw cofnodion
  • Mae'r ganolfan hefyd yn trefnu digwyddiadau hyfforddi
  • Mae llawer o'r dystiolaeth yn cael ei chasglu gan wirfoddolwyr a hyfforddwyd yn arbennig
  • Oherwydd bod cynifer o rywogaethau pwysig yn Abertawe, nid oes modd cynnal prosiect heb effeithio ar rywogaeth bwysig
  • Nid yw gweithio ar wahân yn opsiwn
  • Mae safle Aderyn yn caniatáu i bobl gael mynediad at yr wybodaeth hon
  • Roedd Cyngor Abertawe heb gael mynediad at wybodaeth SEWBREC rhwng 2004-2017
  • Gellir defnyddio SEWBREC i greu parthau clustogi o amgylch safleoedd ac i gynnal archwiliad llawn - ar gyfer rhywogaethau hefyd
  • Anfonir gwybodaeth drwy restrau cynllunio i swyddogion sy'n cynnwys rhywogaethau pwysig
  • Mae cael mynediad yn hanfodol a bydd yn costio £8,000 i £10,000 y flwyddyn
  • Heather Galliford a Chris O'Brien - Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB)
  • Mae telor Dartford yn arbennig iawn
  • Mae'r amrywiaeth biolegol yn fyd-eang ac yn bwysig iawn
  • Mae'r Cynllun Adfer Natur (Dogfen Bolisi) yn cael ei adleisio drwy sefydliadau heddiw
  • Mae'n bwysig bod Cyngor Abertawe'n rheoli'n effeithiol
  • Hoffai'r RSPB weld Abertawe'n arwain y ffordd wrth wreiddio'r ddogfen bolisi hon
  • Nid yw Cynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Datganiad Lles Lleol yn cyfateb i'w gilydd
  • Mae Adran 6 Deddf yr Amgylchedd 2016 yn gofyn am adrodd am gynnydd a'r camau gweithredu cyn diwedd 2019 - a fydd Cyngor Abertawe'n barod am hyn?
  • Mae angen i ystadau, parciau, cynllunio ac adfywio fod yn gyson o ran bioamrywiaeth a chadwraeth natur
  • Nigel Ajax-Lewis - Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
  • Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn rheoli tir, yn rhoi gwybod i bobl am eu gwaith a'u cynnydd ac yn cynyddu ymwybyddiaeth
  • Mae rhai pryderon mewn perthynas ag afonydd yn Abertawe
  • Mae rhai o weithgareddau'r cyngor yn anghyson ac mae angen ymagwedd fwy cydlynol at yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth
  • Steve Volchover - Partneriaeth Bioamrywiaeth Abertawe a Chadeirydd Canolfan yr Amgylchedd Abertawe
  • Mae'r amgylchedd naturiol yn bwysig i bobl
  • Mae lleoedd megis Moryd Llwchwr ac Oxwich yn ddwy enghraifft o safleoedd pwysig
  • Mae rhan fawr o Abertawe'n cwmpasu safleoedd pwysig ar gyfer pryfed
  • Nid yw Abertawe'n dda iawn o ran cynnal bioamrywiaeth
  • Mae'n bwysig gwarchod safleoedd er mwyn annog cysylltedd
  • Mae'r cyngor yn defnyddio cymysgeddau o hadau estron ar gyfer blodau gwyllt pan ddylid defnyddio rhai brodorol er lles y gwenyn a'r pryfed
  • Byddwch yn wyliadwrus o ddefnyddio chwynladdwyr cyn plannu blodau newydd
  • Mae rhai planhigion sy'n tyfu'n wyllt ac yn tarfu ar fflora a ffawna brodorol - mae angen rheoli hyn
  • Mae tipio anghyfreithlon a sbwriel yn achosi problemau drwy ymddygiad, arfer a pholisïau
  • Efallai fod biniau olwynion yn ddatrysiad gwell am eu bod yn lleihau sbwriel ar ochr y ffordd a'r defnydd o fagiau plastig
  • Mae angen i bobl ddefnyddio deunyddiau addas wrth eu llosgi mewn stofiau llosgi pren domestig ac osgoi casglu pren marw fel tanwydd, am fod hyn yn gynefin pwysig i bryfed
  • Mae angen bod yn wydn mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd a thywydd cynhesach a gwlypach. Mae angen rhoi darpariaethau ar waith ar gyfer problemau llifogydd posib
  • Chris Dow - Ysgol Goedwig Abertawe Castell-nedd Port Talbot
  • Nid oes gan yr ysgolion unrhyw arian i ganolbwyntio ar addysg amgylcheddol a gwneud pobl ifanc yn hyrwyddwyr amgylcheddol hyd yn oed os ydynt am wneud hynny
  • Mae llawer o sefydliadau gwirfoddol yn methu oherwydd colli arian grant
  • Nid yw'n hawdd i sefydliadau wneud arian o'r maes gwaith hwn
  • Mae angen bod yn gynaliadwy
  • Trafodaeth
  • Mae rhai gweithgareddau heb eu rheoleiddio ar yr arfordir megis casglu abwyd a broc môr at ddefnydd masnachol
  • Mae llawer o rywogaethau morol ymledol a sbwriel sy'n cael effaith negyddol
  • Mae'n anodd newid diwylliant ac ymddygiad pobl
  • Mae proses y mae angen ei dilyn mewn perthynas â cheisiadau cynllunio ac adroddiadau ecoleg
  • Mae cynghorau eraill megis Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Mynwy'n cynnal gweithgareddau i wella eu hisadeiledd gwyrdd neu i flaenoriaethu/godi proffil gwaith bioamrywiaeth a'r amgylchedd naturiol yn unol â'r gofynion deddfwriaethol
  • Dylai pob adran y cyngor wreiddio bioamrywiaeth a rhannu baich y gwaith
  • Yr enghreifftiau gorau o ariannu yw pan fo'r gyllideb yn dod o bob adran y cyngor sy'n effeithio ar yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth neu'n elwa ohonynt
  • Mae twristiaeth yn elwa'n sylweddol o gyflwr yr amgylchedd naturiol ac mae hyn yn lle amlwg i wneud arian
  • Mae cost-effeithiolrwydd hyfforddi plant am bwysigrwydd yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth a sut i ofalu amdanynt yn amhrisiadwy ond mae'n anodd ei fesur
  • Gall cynghorau wneud pethau'n waeth drwy beidio â sicrhau bod adrannau'n gweithio ar y cyd ar yr un pryd
  • Ar gyfer rhai pobl/adrannau, mae gan fioamrywiaeth werth negyddol am ei fod yn gallu atal gwaith rhag cael ei wneud/neu arafu gwaith
  • Gellir rheoli perygl llifogydd yn fwy effeithiol ac yn rhatach drwy ddefnyddio dulliau naturiol
  • Bydd y cymysgedd o wasanaethau sy'n bwydo'r gwaith hwn yn rhyddhau mwy o gyllid wrth fynd ymlaen a bydd hyn yn arwain at ddyheadau uwch megis cyllid ychwanegol ar gyfer addysg a'r gwasanaethau cymdeithasol
  • Mae hefyd fanteision iechyd enfawr yn deillio o gael amgylchfyd naturiol ac mae'r GIG yn dechrau ei ddefnyddio fel rhan o'i driniaethau
  • Mae rhai o'n rhywogaethau'n ddigon pwysig fel eu bod yn haeddu cyllid ar gyfer gwaith cynnal a chadw a chadwraeth
  • Awgrymiadau gan sefydliadau ar gyfer Cyngor Abertawe

 

1.    Ymrwymo i'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth â SEWBREC er mwyn cael mynediad at ddata mapio/rhywogaethau pwysig ar gyfer prosiectau

2.    Glynu wrth y polisïau presennol

3.    Gweithio mewn partneriaeth er mwyn cyflawni prosiectau, bydd hyn yn lleihau costau ac yn annog arbenigedd

4.    Gwella cyfathrebu o fewn adrannau a herio'r sawl (gan gynnwys sefydliadau allanol) nad ydynt yn gwneud yr hyn y dylent fod yn ei wneud

5.    Datblygu cysylltiadau â'r staff cywir ac ymgynghori ar yr adeg iawn

6.    Peidio ag anwybyddu Dyffryn Lliw Isaf. Rhaid cynnal a gwella bioamrywiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn unol â'r Ddeddf

7.    Bod yn gyfrifol am ddatblygu cynlluniau a chael adrannau i weithio gyda'i gilydd yn hytrach nag yn erbyn ei gilydd

8.    Angen i'r uwch-reolwyr fod yn rhan o hyn ac mae angen cymryd hyn o ddifri ar y lefel uchaf

9.    Gwerthfawrogi gwirfoddolwyr a chydlynwyr gwirfoddol - angen rhoi arian ac ymdrech wrth wneud hyn