Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny 01792 636292
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Ymddiheuriadau
|
2. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Cafwyd ymholiadau
gan y panel ynglŷn ag aelodaeth grwpiau,
sefydliadau etc â diddordeb yn yr
amgylchedd naturiol mewn unrhyw ffordd.
|
3. |
Cwestiynau gan y Cyhoedd
Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored
agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.
Cofnodion:
|
4. |
Cyngor Abertawe a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol PDF 181 KB
Trosolwg o sut
mae Cyngor Abertawe’n ymateb ar hyn o bryd,
ac yn bwriadu ymateb, i Ddeddf
Cenedlaethau’r Dyfodol gan gyfeirio at yr amcanion lles
corfforaethol a’u perthnasedd i’r amgylchedd naturiol.
Richard Rowlands – Rheolwr Perfformiad Corfforaethol
Cofnodion:
- Daeth Richard
Rowlands i gyflwyno'i adroddiad am yr hyn mae Cyngor Abertawe'n ei wneud
ar hyn o bryd er mwyn bodloni ei ofynion o dan DLlCD (Deddf Cenedlaethau'r
Dyfodol)
- Ceisiodd yr
adroddiad roi cefndir y DLlCD - dyma'r ddeddfwriaeth sy'n gofyn i
gynghorau wella lles
- Mae diwylliant ac
ymddygiad yn agweddau allweddol o'r ddeddf
- Trafododd Richard
yr hyn mae'r cyngor eisoes yn ei wneud
- Cafwyd trafodaeth
fer ynghylch ymgynghori â'r cyhoedd ynglŷn â datblygu polisïau.
Cafwyd sylwadau bod angen mwy o fewnbwn gan y cyhoedd ynglŷn â
datblygu polisïau
- Ni all mesurau DPA
ar gyfer gweithio gyda'r DLlCD fod yn rhai ynysig. Caiff ei asesu wrth
ystyried yr holl DPA
|
5. |
Trafodaeth
Cofnodion:
- Mae'r amcan
'Gweithio gyda Natur' yn rhan o'r Cynllun Lles ac mae'n ymddangos fod y
Cynllun Corfforaethol yn anghyson gan nad oes ganddo darged dynodedig ar
gyfer natur, felly nid yw'r proffil mor uchel ag y gallai fod
- Caiff unrhyw
ganfyddiadau perthnasol o weithgareddau Craffu eraill eu hadrodd yn ôl i'r
panel er mwyn osgoi dyblygu gwaith ac i helpu i greu darlun cyfredol o'r
hyn sy'n digwydd
- Trafodwyd sut y
penderfynir ar gynllunio a sut yr ystyrir problemau natur a bioamrywiaeth,
ac a yw'r materion hyn yn cael eu hystyried yn ystod y cam cywir o'r
broses
- Ceir asesiadau
effaith integredig er mwyn sicrhau bod polisïau'n cysylltu â'r DLlCD
- Trafododd y panel
effaith llygredd sŵn ac aer ar iechyd pobl a'r gofid y byddai'r
materion hyn yn cael effaith ar ysgolion
- Rydym yn dibynnu
llawer ar grantiau i ariannu llawer o'r gwaith ar natur a bioamrywiaeth ac
mae pryder ynghylch effaith colli grantiau
- Bydd y panel yn
cynnal trosolwg polisïau gwasanaeth yn y cyfarfod nesaf a bydd hyn yn
cwblhau agwedd cynllunio'r ymchwiliad a bydd yn dangos cyfeiriad a chwmpas
y gwaith
|