Lleoliad: Ystafell 235 (Ystafell Gyfarfod y Cynghorwyr) - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o gysylltiadau.
|
2. |
Llythyrau o gyfarfodydd blaenorol PDF 147 KB
a) Llythyr y
Cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 8 Hydref 2018)
b) Ymateb
gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 8 Hydref 2018)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Derbyniodd
ac ystyriodd y gweithgor lythyrau o'r cyfarfod
diwethaf ar 8 Hydref 2018.
|
3. |
Cwestiynau'r Cyhoedd
Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i
faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod
o 10 munud.
Cofnodion:
Nid oedd
unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn
bresennol yn y cyfarfod.
|
4. |
Adroddiad Cynnydd Rheoli Perygl Llifogydd PDF 169 KB
Y Cyng. Mark Thomas,
Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd
Mike Sweeney, Prif
Beiriannydd
Cofnodion:
Roedd Mark
Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, yn bresennol,
ac aeth drwy'r casgliadau yn llythyr y cynullydd o'r cyfarfod diwethaf, gan
roi'r diweddaraf ar gynnydd. Roedd Mike Sweeney, Prif Beiriannydd, hefyd yn
bresennol ac aeth drwy'r adroddiad briffio.
Pwyntiau trafod:
- Bydd angen i'r holl ddatblygiadau newydd
gynnwys plannu strategol a gwella bioamrywiaeth yn y dyfodol wrth
gyflwyno'r ddyletswydd statudol newydd sydd yn gofyn am Systemau Draenio
Trefol Cynaliadwy (SuDS). Mae'r tîm cadwraeth
natur yn ymwybodol bod angen iddynt fod yn rhan o SuDS
er mwyn rhoi cyngor pan fydd ceisiadau'n cael eu derbyn.
- Bydd prosiectau Isadeiledd Gwyrdd yn cael eu
cynnal gan yr awdurdod a Cyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth.
Ymgynghorir ar un prosiect ar gyfer canol y ddinas yn unig ar hyn o bryd.
- Bydd Aelod y Cabinet yn derbyn manylion
cyswllt ar gyfer Sion Brackenbury er mwyn trefnu
ymweliad â chynllun perygl llifogydd yn seiliedig ar natur yn CNPT. Pan
fydd ymweliad yn cael ei drefnu mae gan aelodau'r gweithgor ddiddordeb
mewn bod yno.
- Aeth Aelod y Cabinet yn ddiweddar i agoriad
cynllun amddiffyn rhag llifogydd ym Mawr ac roedd wedi creu argraff dda
iawn arno.
- Cadarnhawyd na all yr awdurdod ddeddfu ar
ddefnydd deunyddiau anathraidd yng ngerddi domestig ond gallai'r awdurdod
roi cyngor. Bydd cyflwyno SuDS yn golygu bydd angen i unrhyw gontractwyr neu
ddatblygwyr reoli dŵr ffo yn y dyfodol. Byddai deunyddiau athraidd yn
cyflawni hyn, felly mae'n debygol iawn y byddant yn cael eu defnyddio yn
ddiofyn beth bynnag.
- Rhoddwyd cymeradwyaeth i'r strwythur staffio
gwreiddiol er mwyn rhoi'r SuDS ar waith. Mae hyn ar gyfer 4 aelod o staff. Mae ein huwch-beiriannydd
yn ei le, a bydd peiriannydd cynorthwyol a swyddog cefnogaeth weinyddol yn
cael eu penodi'n fuan a bydd arolygydd safle yn cael ei gyflogi nes
ymlaen, pan fydd y safleoedd yn dechrau cael eu datblygu.
- Nid yw'r tudalennau Cyngor Ar Lifogydd ar
wefan y cyngor yn cynnwys adran ar 'Helpu i atal llifogydd' ar hyn o bryd.
Dylem fod yn rhagweithiol wrth helpu i atal llifogydd mewn eiddo domestig.
Byddai'n ddefnyddiol cael dolen o dudalennau Cyngor ar Lifogydd y wefan i
adran 'atal', gyda geiriad megis ....... Beth allaf ei wneud i leihau
effaith llifogydd yn fy eiddo/ardal leol?... er enghraifft, plannu coed,
defnyddio deunyddiau athraidd ar gyfer rhodfeydd/patios, gan gadw
ardaloedd glaswelltog yn yr ardd.
Dylid ysgrifennu hyn mewn iaith syml
y gall pawb ei deall.
- Hefyd dylai cyngor ac arweiniad Cyngor
Abertawe ymddangos yn gyntaf ar y tudalennau Cyngor ar Lifogydd, ac yna
fanylion cyswllt ar gyfer CNC.
- Nid yw'r awdurdod yn dangos gwybodaeth fyw am
lifogydd lleol ar ei wefan fel 'baner fyw' nac yn ei hysbysebu ar Twitter.
Cytunodd Aelod y Cabinet i ymchwilio a ellir gwneud hyn ac, os na ellir, a
allwn osod dolen i wybodaeth fyw trydydd partïon.
- Mae gwaith yn parhau er mwyn sefydlu arferion
cynnal a chadw sydd eisoes yn bodoli ar gyfer cyrsiau dŵr a gylïau ar
draws yr awdurdod. Mae gan yr adrannau priffyrdd, Parciau a Thai arferion
cynnal a chadw ar waith. Fodd bynnag, mae rhai adrannau'n aneglur am
lefelau perygl llifogydd i'w hasedau ac felly'r amserlenni cynnal a chadw
y mae angen eu pennu. Nid yw'r ymagweddau'n gyson ar draws yr awdurdod.
Bydd yr adran yn parhau i ymchwilio i ddatblygiad ymagwedd gyson. Fodd bynnag, mae ataliaeth yn llawer
gwell na gwellhad.
- Dan 2.2 (tudalen 7) - hepgorwyd cyfeiriad at
yr amcan lles corfforaethol newydd ar gyfer cynnal a chadw a gwella
adnoddau naturiol a bioamrywiaeth.
- Dan 6.12 (tudalen 12) - dylai'r adroddiad
nodi'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd - bod y gwaith yn symud ymlaen, bod
aelodau ward wedi derbyn cysylltiad.
|
5. |
Trafodaeth a Chwestiynau
Gofynnir i
Gynghorwyr drafod y casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr
y Cynullydd at Aelod y Cabinet:
a) Beth hoffech
ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)?
b) Oes gennych
unrhyw argymhellion sy'n codi o'r sesiwn hon i Aelod y Cabinet?
c) Oes unrhyw
faterion eraill sy'n codi o'r sesiwn hon yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y
Rhaglen Graffu atynt?
Cofnodion:
Trafododd y
gweithgor gynnydd a chytunwyd ar y casgliadau a'r argymhellion canlynol:
- Rydym yn falch o glywed bod yr awdurdod yn
awyddus i ymweld ag awdurdodau eraill sydd wedi defnyddio atebion naturiol
i berygl llifogydd, er mwyn ymchwilio ymhellach i gyfleoedd ar gyfer
Abertawe. Byddwn yn darparu'r manylion cyswllt priodol er mwyn gallu
trefnu ymweliad â chynllun yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae gan y
gweithgor ddiddordeb mewn bod yn bresennol yn yr ymweliad a hoffem fod yn
ymwybodol o'r dyddiad unwaith y bydd wedi'i drefnu.
- Rydym yn falch gyda'r diweddariad bod 4 aelod
o staff yn cael eu cyflogi ar gyfer darparu SuDS.
Byddwn eisiau monitro cynnydd darpariaeth SuDS
yn ystod cyfarfodydd yn y dyfodol
- Mae gennym ddiddordeb mewn clywed mwy am
brosiectau Isadeiledd Gwyrdd a hoffem dderbyn y diweddaraf am y prosiect,
sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, yn ystod ein cyfarfod nesaf.
- Mae'r gweithgor yn teimlo bod angen i'r
awdurdod newid o sail ddeddfwriaethol tuag at rôl fwy ymgynghorol ar gyfer
rheoli perygl llifogydd, er enghraifft, ynghylch defnydd o ddeunyddiau
anathraidd. Rydym yn meddwl bod hon yn ffordd well i gynnwys y cyhoedd a
defnyddio'r arfer gorau wrth symud ymlaen.
- Hoffem weld yr awdurdod yn hyrwyddo ataliaeth
perygl llifogydd yn well ac rydym yn teimlo dylai'r awdurdod ymchwilio i
gael dolen i adran 'ataliaeth' o dudalennau Cyngor ar Lifogydd y wefan.
- Rydym yn teimlo dylai'r awdurdod ymchwilio i
gael gwybodaeth 'fyw' am lifogydd lleol ar ei wefan, neu ei darparu trwy
drydydd parti.
- Mae'r gweithgor yn teimlo dylai'r wybodaeth
ar dudalennau Cyngor ar Lifogydd cael ei had-drefnu fel bod cyngor ac
arweiniad Cyngor Abertawe yn ymddangos yn gyntaf ac yna fanylion cyswllt
CNC.
- Hoffem weld yr awdurdod yn ymchwilio i ffyrdd
i hysbysebu'r gwaith a gyflawnwyd ganddo er mwyn lleihau perygl llifogydd
yn lleol, er mwyn lledaenu negeseuon cadarnhaol. Gall aelodau ward gael eu
defnyddio i ledaenu negeseuon i'r cyhoedd gan ddosbarthu'r wybodaeth hon
yn eu wardiau.
- Hoffem dderbyn y diweddaraf yn ystod ein
cyfarfod nesaf ar y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r cynnydd a
wnaed.
- Byddem yn argymell i Bwyllgor y Rhaglen
Graffu fod y Gweithgor Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn cwrdd ddwywaith y
flwyddyn yn y dyfodol er mwyn monitro cynnydd, yn enwedig wrth ddarparu SuDS, ac yn gyffredinol ar ddarpariaeth atebion
naturiol i berygl llifogydd.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 4 Ebrill 2019) PDF 189 KB
|
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 4 Ebrill 2019) PDF 297 KB
|