Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau.

 

2.

Atebion ym Myd Natur i Reoli Perygl Llifogydd

Sion Brackenbury, Tai a Diogelu’r Cyhoedd

Cofnodion:

Roedd Sion Brackenbury o Goed Cymru yn bresennol i gyflwyno enghreifftiau o atebion rheoli perygl llifogydd sy'n seiliedig ar natur ac ateb cwestiynau'r Gweithgor.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar reoli tir ar ôl Brexit. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 30 Hydref 2018. Teimlai'r Gweithgor y dylai'r awdurdod ymateb i'r ymgynghoriad.
  • Cyfle enfawr i'r awdurdod annog plannu strategol mewn datblygiadau newydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu. Tasg yr awdurdod yw gorfodi'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag atebion rheoli perygl llifogydd sy'n seiliedig ar natur.
  • O fis Ionawr 2019 bydd yn rhaid i ddatblygwyr gyrraedd safonau Cymru ar gyfer cynlluniau draenio sy'n ymwneud â gofynion SDTC
  • Mae'n bosib monitro buddion atebion naturiol. Mae Cheltenham wedi gwneud gwaith arbennig ac mae gan Bort Talbot hefyd enghreifftiau a fyddai'n ddefnyddiol eu gweld. Mae gan Aelod y Cabinet ddiddordeb mewn cael mwy o wybodaeth.
  • Teimlai'r Gweithgor ei bod hi'n werth ymchwilio a ellir defnyddio rheoliadau adeiladu i osgoi defnyddio deunyddiau anathraidd mewn gerddi, megis palmentydd, ar eiddo domestig sydd eisoes yn bodoli. 
  • Mae cyfleoedd i ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur mewn amgylchoedd trefol megis ar gyrion Abertawe.

 

Camau Gweithredu:

  • Bydd manylion cyswllt ar gyfer Cheltenham a Phort Talbot yn cael eu rhoi i Aelod y Cabinet
  • Bydd Aelod y Cabinet yn gwirio a all yr awdurdod ddeddfu ar y defnydd o ddeunyddiau anathraidd mewn gerddi domestig.
  • Dosbarthu cyflwyniad i aelodau'r Gweithgor.

 

3.

Adroddiadau Er Gwybodaeth pdf eicon PDF 149 KB

a) Llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet (Cyfarfod 20 Chwefror 2018)

b) Ymateb Aelod y Cabinet (cyfarfod 20 Chwefror 2018)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnodd aelodau'r panel sylw Aelod y Cabinet a'r swyddog a oedd yn bresennol at faterion o'r cyfarfod blaenorol ym mis Chwefror 2018. 

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Ym mis Chwefror clywodd y panel fod dyletswydd statudol newydd yn dechrau ym mis Mai 2018 ac y byddai Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy (SDTC) newydd. Gohiriwyd hyn gan Lywodraeth Cymru tan fis Ionawr 2019. 
  • Bydd goblygiadau ar adnoddau ar gyfer cyflwyno SDTC gan mai cyfrifoldeb yr Awdurdod yw hyn. Drafftiwyd adroddiad yn cynnig cyflogi 4 aelod newydd o staff. Mae Aelod y Cabinet yn cefnogi hyn mewn egwyddor ond mae'n gost ychwanegol a bydd rhaid i'r awdurdod ganfod ffordd flaengar i wneud hyn. Bydd yr awdurdod yn codi tâl am y gwasanaeth er mwyn cael incwm i'w gefnogi am 2 i 3 blynedd. Nid yw'r datblygwyr yn ymateb yn dda i'r newid a disgwylir ymchwydd mewn ceisiadau cyn mis Ionawr 2019. 
  • Mae'r daflen Perygl Llifogydd wedi'i hadolygu a'i diweddaru. Mae'r daflen ar gael ar-lein ac fel copi caled mewn rhai adeiladau cymunedol. Awgrymodd y panel y dylid cynnwys cyngor ar ddeunyddiau anathraidd a ffos gerrig yn y pamffled. Cynigodd Aelod y Cabinet awgrym arall, fod is-adran dan y teitl 'Helpwch ni i atal llifogydd' yn cael ei hychwanegu at y wefan, sy'n gallu cynnwys cyngor ar blannu coed, defnydd deunyddiau etc.

 

Camau Gweithredu:

  • Is-adran dan y teitl 'Helpwch ni i atal llifogydd' yn cael ei hychwanegu at y wefan.

 

 

4.

Adroddiad Cynnydd Rheoli Perygl Llifogydd pdf eicon PDF 127 KB

Y Cyng. Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd
Stuart Davies,
Pennaeth Priffyrdd a Chludiant

Mike Sweeney, Prif Beiriannydd

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aeth Mike Sweeney, y Prif Beiriannydd, trwy'r adroddiad diweddaraf ac atebodd gwestiynau'r Panel. Roedd y Cynghorydd Mark Thomas hefyd yn bresennol ac atebodd gwestiynau.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Mae'r Awdurdod wedi derbyn £25,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer system rhybudd uwch ar ffordd ger Scurlage.
  • Mae'r Awdurdod wedi dyrannu mwy o arian i wella cynllun gylïau. 
  • Mae amserlen cynnal a chadw cyrsiau dŵr wedi'i dosbarthu i'r cynghorwyr.  Ymatebodd 7 neu 8 o'r cynghorwr ynglŷn â phryderon o fewn eu wardiau. Ymchwilir i'r rhain ac, os yn gymwys, eu hychwanegu at restr yr asedau i'w cynnal.
  • Dylai bod gan yr Awdurdod ymagwedd gyson at gynnal a chadw'r cyrsiau dŵr a'r gylïau. Ar hyn o bryd mae adrannau gwahanol yn gyfrifol am ardaloedd gwahanol, er enghraifft, ar dir ysgol; mewn parciau.
  • Mae arian yn brin gan fod llai o ffrydiau cyllido ar gael.

 

5.

Trafodaeth a Chwestiynau

Gofynnir i Gynghorwyr drafod y casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet:

 

a) Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)?

 

b) Oes gennych unrhyw argymhellion sy'n codi o'r sesiwn hon i Aelod y Cabinet?

 

c) Oes unrhyw faterion eraill sy'n codi o'r sesiwn hon yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt?

 

 

 

Cofnodion:

Trafododd y Gweithgor gynnydd a daethpwyd i'r casgliadau canlynol:

 

  • Yn hapus bod cynnydd da wedi'i wneud ar ei argymhellion o'r cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2018 gan gynnwys cyhoeddi'r pamffled Perygl Llifogydd diweddaraf a darparu gwybodaeth am gyrsiau dŵr a gylïau i'r cynghorwyr.
  • Mae cyfle mawr i'r awdurdod annog plannu strategol mewn datblygiadau newydd a hoffai'r Gweithgor weld yr awdurdod yn manteisio ar hyn.
  • Hoffai'r Gweithgor weld yr awdurdod yn defnyddio mwy o atebion rheoli perygl llifogydd sy'n seiliedig ar natur ac awgrymir bod y cyfle yma yn cael ei ymchwilio ymhellach.
  • Dylai'r awdurdod ymchwilio a all ddeddfu ar y defnydd o ddeunyddiau anathraidd mewn gerddi domestig. 
  • Hoffai'r Gweithgor dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar yr awgrym i gyflogi 4 aelod newydd o staff ar gyfer cyflwyno SDTC yn ystod eu cyfarfod nesaf 
  • Hoffai'r Gweithgor dderbyn cadarnhad fod is-adran dan y teitl 'Helpwch ni i atal llifogydd' wedi'i hychwanegu at y wefan yn ystod y cyfarfod nesaf.
  • Hoffai'r Gweithgor weld ymagwedd gyson at gynnal a chadw'r cyrsiau dŵr a'r gylïau ar draws yr awdurdod. 
  • Bydd y Gweithgor yn cwrdd eto mewn 4 i 6 mis ar gyfer ei ddiweddariad blynyddol ar Reoli Perygl Llifogydd Lleol.

 

Llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 8 Hydref 2018) pdf eicon PDF 147 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 8 Hydref 2018) pdf eicon PDF 294 KB