Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan, Scrutiny 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

2.

Canlyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2017 pdf eicon PDF 19 KB

a) Llythyr y Cynullydd o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2017

b) Ymateb Aelod y Cabinet 29 Mawrth 2017

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd, a Mike Sweeney, y Prif Beiriannydd, yn bresennol ac atebwyd cwestiynau ganddynt.

 

Gofynnodd y gweithgor am y cynnydd a wnaed ar yr argymhellion yn llythyr y Cynullydd yn dilyn y cyfarfod yn 2017:

 

·       Argaeledd rhaglen waith â blaenoriaeth - mae gan y cyngor sawl maes y mae angen gwaith arnynt. Gellir ei chyflwyno i bob cynghorydd ond mae pryder am ei chyhoeddi i'r cyhoedd ei gweld gan y gellir gwneud y gwaith pan fydd cyllid ar gael yn unig. Awgrymwyd ganiatáu i'r cyhoedd ei gweld ar gais.

 

·       Mae'r gweithgor yn meddwl y dylid defnyddio un system godio'n unig ar gyfer y rhestr rhaglen waith hon, naill ai codio uchel/isel neu system goleuadau traffig, ond nid y ddau beth.

 

·       Adolygu a diweddaru'r daflen perygl llifogydd a chynnwys cyngor ar ffyrdd o ddiogelu eiddo rhag llifogydd – hysbyswyd y gweithgor bod yr hen daflen ar-lein ond nid yw'n gyfredol. Bydd un newydd ar gael ar ôl i'r wefan Cynllunio rhag Argyfyngau gael ei diweddaru, gan y bydd angen i'r un newydd gysylltu â hon. Gofynnodd y gweithgor am amserlen yn nodi pryd bydd y wefan yn cael ei diweddaru a phryd bydd y cynnwys newydd ar-lein.

 

·       Hoffai'r gweithgor i'r daflen fod ar gael ar-lein ac i gopïau caled o'r daflen newydd fod ar gael mewn llyfrgelloedd, cymunedau, etc.

 

 

 

3.

Adroddiad Rheoli Perygl Llifogydd - y diweddariad blynyddol pdf eicon PDF 132 KB

Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau’r Amgylchedd

Stuart Davies, Pennaeth Gwasanaeth, Priffyrdd a Chludiant

Mike Sweeney – Prif Beiriannydd

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Mark Thomas a Mike Sweeney gyflwyniad a oedd yn tynnu sylw at y prif faterion ac atebwyd cwestiynau ganddynt.

 

Trafodwyd y prif faterion canlynol:

 

  • Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd – penodwyd ymgynghorydd i ymchwilio i ardaloedd o berygl uchel, cynhaliwyd astudiaethau a bydd angen gwerthuso'r rhain ac yna ystyried yr opsiynau. Mae gan yr awdurdod gyllid bach, felly bydd angen cyflwyno ceisiadau am grantiau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwariant dros y swm hwn.

 

  • Isadeiledd ar gyfer datblygiadau/ystadau newydd – mae'r gweithgor yn credu nad yw'r isadeiledd yn ei le'n gywir o ran perygl llifogydd. Hysbyswyd yr aelodau bod Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru'n ymgyngoreion statudol ar gyfer ceisiadau cynllunio. Os ydynt yn caniatáu datblygiad newydd, ni all yr awdurdod lleol wneud unrhyw beth amdano.

 

  • Roedd y gweithgor am wybod a yw'r awdurdod yn gwario'r arian sydd ganddo ar gyfer perygl llifogydd yn y ffordd fwyaf effeithiol. Dywedwyd bod yr adran yn chwilio am welliant yn barhaus ond y gred yw bod yr arian yn cael ei wario yn y ffordd fwyaf effeithiol. Dyrennir £400,000 y flwyddyn i ddraenio priffyrdd, ac mae perygl llifogydd yn rhoi mwy o straen ar hyn.

 

  • Tudalen 9 yr adroddiad – strwythur staff – yn ôl y gweithgor, roedd yn ymddangos bod gan y strwythur ormod o reolwyr. Dywedwyd bod rheolwyr yn oruchwylwyr sy'n mynd allan i safleoedd yn hytrach na rheoli staff yn unig. Dyma strwythur priffyrdd yn ogystal â pherygl llifogydd, ac ychydig o amser yn unig sy'n cael ei dreulio ar berygl llifogydd. 

 

  • Glanhau gylïau – mae gylïau'n cael eu glanhau unwaith bob 3 blynedd ar gyfartaledd a thynnir sylw staff i ymdrin â llifogydd mewn gylïau. Hoffai'r gweithgor i'r rhaglen waith ar gyfer gylïau fod ar gael i ymgynghorwyr.

 

  • Ysgubir ffyrdd hefyd ac mae gan hwn raglen waith ar wahân.

 

  • Cynllun perygl llifogydd tymor hir – yn ôl rhagamcaniadau tymor hir, bydd achosion amlach o law trwm â goblygiadau i Abertawe ac mae angen strategaeth tymor hir arnom. Dywedwyd wrth y gweithgor bod hyn yn cynyddu pwysau ar y gwasanaeth a bod adnoddau'n annigonol; fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y rhagamcaniadau tymor hir a'r gobaith yw y bydd mwy o arian ar gael ar gyfer cynlluniau perygl llifogydd.

 

  • Mae casglu data asedau wedi dechrau – mae'r gweithgor yn hapus bod hyn ar waith. Mae gwybodaeth leol yn ddefnyddiol iawn a gall y cyhoedd helpu drwy ddarparu gwybodaeth. Nid yw'r awdurdod lleol yn gwybod am ei holl asedau – gridiau, draeniau, gylïau, etc. Dylai'r cyhoedd gysylltu â'r Adran Priffyrdd i nodi lle mae unrhyw gridiau a draeniau; yna bydd yr Adran Priffyrdd yn dod allan a'u glanhau gan ei bod yn gyfrifol am eu cynnal a'u cadw.

 

  • Dyletswydd statudol newydd ym mis Mai 2018 – bydd corff cymeradwyo newydd ar gyfer systemau draenio trefol cynaliadwy. Bydd angen dod o hyd i adnoddau newydd ar gyfer hwn ac ni phenderfynwyd eto a fydd yn rhanbarthol ai peidio. Bydd rhaid i ddatblygwyr ystyried draenio ar eu safleoedd. Bydd yn rhyddhau'r baich ar yr isadeiledd presennol. Bydd yn ofynnol i'r awdurdod lleol fabwysiadu nodweddion dŵr ar ddatblygiadau dros 2 eiddo. Mae pryder ynghylch ffynhonnell yr arian yn y lle cyntaf.  Y gobaith yw y bydd y ddyletswydd newydd i ddarparu nodweddion dŵr yn arwain at gyflwyno mwy o briffyrdd i'w mabwysiadu.

 

  • Mae'n braf gweld bod yr isadeiledd gwyrdd yn cael ei gyflwyno'n raddol, gan fod angen deall gweithio gyda natur a rhoi rôl fwy blaenllaw iddo wrth leihau perygl llifogydd.

 

  • Ymgynghoriad ar is-ddeddfau newydd – cynhelir ymgynghoriad cyn bo hir am gyfnod o 6 wythnos. Mae Is-ddeddf 5 yn bwysig iawn: adeiladu adeileddau, pibellau, etc, ar dir lle mae llifogydd yn debygol – ni fydd neb yn cael adeiladu dros asedau llywodraeth leol fel cwlferi.

 

  

 

 

4.

Trafodaeth a Chwestiynau

Gofynnir i Gynghorwyr drafod y casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet:

 

a) Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)?

 

b) Oes gennych unrhyw argymhellion sy'n codi o'r sesiwn hon i Aelod y Cabinet?

 

c) Oes unrhyw faterion eraill sy'n codi o'r sesiwn hon yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt?

 

Cofnodion:

Trafododd y Gweithgor gynnydd a daethpwyd i'r casgliadau canlynol:

 

·       Hoffem i'r rhaglen waith â blaenoriaeth fod ar gael i'r cyhoedd ar gais. Hoffem hefyd weld un system godio'n cael ei defnyddio ar gyfer y rhestr gwaith hon.

·       Roeddem yn falch o glywed bod cyfathrebu'n flaenoriaeth i'r adran gan ei fod yn hanfodol. Felly, hoffem dderbyn amserlen yn nodi pryd bydd y wefan yn cael ei diweddaru a phryd bydd y daflen perygl llifogydd â chynnwys newydd ar gael ar-lein. Hefyd, hoffem i gopïau caled o'r daflen hon fod ar gael mewn mannau cyhoeddus.

·       Rydym yn credu bod y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn seiliedig ar ddata hanesyddol ac nid yw'n gyfredol, felly mae angen ei adolygu. Hefyd, rydym yn meddwl ei fod yn bwysig cynyddu ymwybyddiaeth o'r astudiaethau, gan roi gwybod i'r cyhoedd yn yr ardal am y sefyllfa a chyflwyno amserlen iddynt.

·       Er gwaethaf effeithiau ariannol toriadau, rydym yn credu bod perygl llifogydd yn broblem fawr y mae angen rhoi adnoddau priodol iddo. Sylwer y gwneir peth gwaith i atal perygl llifogydd er gwaethaf y cyfyngiadau cyllidebol. Hoffem wybod a yw'n bosib cyfuno nifer o gynlluniau a chyflwyno un cais mawr am grant.

·       Rydym yn croesawu cyflwyno systemau draenio cynaliadwy a hoffem gael gwybod a ydynt yn berthnasol i eiddo masnachol. Rydym yn creu bod rhaid defnyddio pob dull o ddraenio a rheoli llifogydd a bydd systemau draenio cynaliadwy'n iach i'r amgylchedd yn ogystal â gwneud y gwaith.

·       Hoffem gynyddu ymwybyddiaeth o systemau draenio cynaliadwy, yn enwedig ar gyfer swyddogion cynllunio a chyda hyfforddiant i bob cynghorydd o bosib.

·       O ran cynllunio, rydym yn credu bod angen edrych ar gofnodion hanesyddol wrth ystyried ceisiadau a bod yn barod i gwestiynu'r cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru.

·       Rydym yn credu mai'r ateb i broblemau'n aml yw rhaglen cynnal a chadw dda a bod gwybodaeth leol yn bwysig iawn at ddibenion cynnal a chadw. Rydym yn awgrymu y dylid holi cynghorwyr am faterion yn eu hardaloedd lleol nad ydynt ar y rhestr cynnal a chadw bresennol. Rydym yn credu y dylai'r adran allu addasu'r rhaglen waith bresennol os bydd perygl pwysig.

·       Hoffai'r gweithgor i'r rhaglen waith ar gyfer gylïau fod ar gael i ymgynghorwyr.

·       Rydym yn credu bod cyfle'n cael ei golli o ran hunangymorth. Mae angen i ni fod yn falch o'r lle rydym yn byw. Hoffai'r gweithgor roi cynllun ar waith i annog hyn. Efallai y gellid nodi rhywbeth yn y daflen newydd i annog pobl i gymryd cyfrifoldeb am yr ardal y tu allan i'w drws blaen eu hunain.

·       Mae'r gweithgor yn credu y bydd angen diweddariad ymhen 6 mis i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud ar yr argymhellion, gan argymell y dylai Pwyllgor y Rhaglen Graffu ystyried ychwanegu hyn at eu rhaglen waith ar gyfer 2018/19.

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

·       Bydd cynullydd y gweithgor yn anfon llythyr at Aelod y Cabinet dros Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd, gan grynhoi'r drafodaeth ac amlinellu barn ac argymhellion y gweithgor.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 149 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 309 KB