Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan, Scrutiny 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Adroddiad Cynnal a Chadw Ffyrdd a Throedffyrdd PDF 127 KB Mark Thomas,
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau’r Amgylchedd Stuart Davies,
Pennaeth Gwasanaeth, Priffyrdd a Chludiant Bob Fenwick,
Arweinydd Grŵp, Cynnal a Chadw Priffyrdd Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Aeth Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd, drwy'r adroddiad, gan amlygu'r prif faterion. Roedd Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant, a Bob Fenwick, Arweinydd Grŵp Cynnal a Chadw Priffyrdd, hefyd yn bresennol ac atebwyd cwestiynau. Trafodwyd y prif faterion canlynol:
|
|
Trafodaeth a Chwestiynau Gofynnir i Gynghorwyr drafod y casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet: a) Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)? b) Oes gennych unrhyw argymhellion sy'n codi o'r sesiwn hon i Aelod y Cabinet? c) Oes unrhyw faterion eraill sy'n codi o'r sesiwn hon yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt? Cofnodion: Trafododd y Gweithgor gynnydd a daethpwyd i'r casgliadau canlynol: · Teimla'r Gweithgor y gallai'r Adran Gynllunio wneud mwy ar gyfer datblygiadau newydd o ran sicrhau bod datblygwyr yn ystyried mabwysiadu ffyrdd, cynlluniau ffydd, meysydd parcio etc, naill ai drwy ddeddfwriaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru neu drwy roi pwysau ar ddatblygwyr. Mae'r Gweithgor yn argymell bod yr awdurdod yn archwilio i weld a oes yna ddulliau ychwanegol y gall eu cyflwyno neu a oes modd i ni bwyso ar Lywodraeth Cymru os nad oes dulliau ar hyn o bryd. · Mae'r Gweithgor yn teimlo ei fod yn bwysig bod unrhyw weithdrefnau cynllunio sy'n cael eu cyflwyno i'r Priffyrdd er mwyn rhoi sylw iddynt yn esbonio'r effaith y ceir ar ddraeniad etc. · O ran draeniad, hoffai'r Gweithgor wybod a oes unrhyw ddarpariaethau ar gael rhag ofn bydd glawiad yn cynyddu yn y dyfodol h.y. tywydd gwlypach. · Mae'r Gweithgor yn teimlo bod gorfodi cynllunio'n bwysig iawn. Maent yn teimlo y dylai swyddogion gorfodi cynllunio fod yn rhan o gamau cychwynnol unrhyw ddatblygiad newydd a dylent weithio gyda datblygwyr safleoedd er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau. Hoffai'r Gweithgor weld Clerc/Arolygydd y gwaith ar safleoedd datblygu newydd er mwyn monitro'r gwaith. · Roedd y Gweithgor yn teimlo fel bod menter tyllau yn y ffordd yn gweithio'n dda. Roeddent yn falch o glywed y bydd aelodau'r cyhoedd, cynghorwyr etc yn derbyn ymateb os darperir cyfeiriadau e-byst, os yw'r mater yn cael ei ddatrys neu beidio. Fodd bynnag, roeddent yn cwestiynu pa mor dda y mae'r fenter hon wedi'i hysbysebu ac nid ydym yn sicr bod aelodau'r cyhoedd yn ymwybodol o ba mor hawdd yw hi i roi gwybod am hyn. Felly, mae'r Gweithgor yn argymell bod y fenter yn cael ei hysbysu'n well. · Hoffai'r Gweithgor weld Côd Ymarfer yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â ffordd gerbydau'n cael ei rhwystro gan ddatblygwyr/adeiladwyr etc. · O ran rhwystro troedffyrdd a draeniau a gyliau wedi'u difrodi a'u blocio, hoffai'r Gweithgor weld rhestr gofrestredig o gwmnïau ar gael i'r datblygwyr/contractwyr yn ardal Abertawe. · Mae gan y Gweithgor bryderon ynghylch chwistrellu chwyn yn ddiystyriol a hoffent gael sicrwydd gan Aelod o'r Cabinet fod y gwaith chwistrellu'n cael ei wneud yn rheolaidd a sicrhau nad yw'r cynhyrchion a ddefnyddir yn cynnwys calchyniad. · Mae'r Gweithgor yn teimlo bod angen darn o waith mwy manwl er mwyn cynnwys yr ardal hon yn llawn ac mae'n argymell y dylai Pwyllgor y Rhaglen Graffu ystyried gwaith cynnal a chadw ffyrdd a throedffyrdd fel testun ymchwiliad craffu yn y dyfodol. Yn dilyn y cyfarfod hwn: · Bydd cynullydd y gweithgor yn anfon llythyr at Aelod y Cabinet gan grynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu barn ac argymhellion y gweithgor. |
|