Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Cllr Will Thomas |
|
Ceisiadau Cyhoeddus (30 munud) Cofnodion: Roedd pedwar
aelod o'r cyhoedd yn bresennol i gyflwyno argymhellion i'r Gweithgor, roeddent
o'r gymuned fusnes leol yn y Mwmbwls/Langland/Caswell. Nodwyd y materion canlynol
mewn perthynas â'r maes parcio ger y draethlin ym Mae Bracelet, Caswell a
Langland: ·
Diffyg
goleuadau - dywyll yn y gaeaf am 4pm felly mae'n gallu bod yn ddiffaith ac yn
ddigroeso. ·
Marciau/llinellau
yn enwedig yn/o gwmpas yr ardal ym Mae Bracelet ·
Toiledau
Bae Bracelet mewn cyflwr gwael ac nid ydynt wedi'u cloi yn y nos (mae
perchnogion busnesau wedi cynnig eu cloi ar ddiwedd y dydd) ·
Symiau
mawr o sbwriel ·
Problem
gyda beiciau a cheir wedi'u haddasu sy'n cwrdd yn y maes parcio ac yn sgidio a
gwneud 'wheelies' o gwmpas yr ardal (Bae Bracelet). Awgrymwyd gosod gât. ·
Cafwyd
gwared ar y CCTV felly nid oes modd recordio unrhyw broblemau. ·
Mae
cynnydd mewn ffioedd yn ystod y gaeaf wedi effeithio ar fasnach. ·
Yn
aml, nid yw'r peiriannau yn y meysydd parcio'n gweithio, gan gynnwys problemau
gyda chysylltiad Wi-Fi felly mae'n anodd defnyddio cardiau credyd a phan fydd
hi'n bwrw glaw mae'r peirannau'n jamio pan fydd y tocynnau'n wlyb. ·
Cyflwr
y maes parcio, y ffensys a'r gordyfiant ym maes parcio Bae Bracelet. |
|
Adroddiad Trosolwg - Costau Parcio Ceir a Sesiwn Holi ac Ateb PDF 109 KB Bydd Mark Thomas (Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd) a Stuart
Davies (Pennaeth Priffyrdd a Chludiant) yn bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd Mark Thomas (Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd), Stuart Davies (Pennaeth
Cludiant), a Mark Thomas/Richard Mears (Rheolwyr Parcio) yn bresennol i drafod yr
adroddiad ac unrhyw gwestiynau cysylltiedig. Ymatebodd y
Cynghorydd Mark Thomas i'r pwyntiau a godwyd gan aelodau'r cyhoedd fel a
ganlyn: ·
Marciau/llinellau/ffensys/sbwriel a chyflwr y maes parcio ym Mae Bracelet Dylai'r maes parcio gael ei gynnal a'i gadw'n rheolaidd, mae cyllideb yn
broblem ond mae angen i ni sicrhau bod gennym safon sylfaenol dda o ran
diogelwch yn enwedig, bydd y Cynghorydd Thomas yn rhoi'r diweddaraf am hyn. ·
Goleuadau ym meysydd parcio'r blaendraeth Nid oes goleuadau wedi bod yn y meysydd parcio hynny erioed a gall fod yn
ddrud eu gosod yn enwedig o ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol ond bydd
hyn yn cael ei ystyried. ·
Ceir wedi'u haddasu yn cwrdd ym maes parcio Bae Bracelet ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
sy'n gysylltiedig â
hyn Roedd y Cynghorydd Thomas yn cydnabod bod hyn hefyd yn fater i'r Heddlu ond
cytunodd i ymchwilio i'r posibilrwydd o osod gât wrth y fynedfa. ·
CCTV Cafwyd gwared ar y CCTV o bob man heblaw am ardal canol y ddinas ychydig
flynyddoedd yn ôl - mae'n annhebygol y bydd hyn yn cael ei ailosod. ·
Cynnydd yn ffioedd meysydd parcio yn y gaeaf, peilota gwahanol ffyrdd... Mae'r cynnydd hwn wedi cynyddu incwm er mwyn helpu gyda'r gwaith cynnal a
chadw. Mae wedi cynyddu'r gyllideb a dderbynir. Mae incwm wedi cynyddu ac mae
ein defnydd wedi lleihau. Rydym yn cydnabod bod busnesau lleol ar y blaendraeth
yn teimlo yr effeithiwyd ar fasnach oherwydd cynnydd yn y ffioedd dros y gaeaf
sydd, fel rheol, yn effeithio ar y bobl leol sy'n defnyddio'r meysydd parcio
hynny. Mae angen i ni ddod o hyd i ateb sy'n gweithio i'r ddau barti. Cafwyd nifer o awgrymiadau gan y cyhoedd a'r
gweithgor ynghylch ffioedd dros y gaeaf, gan gynnwys: gostwng y tâl i £1 yr awr,
neu ganiatáu fwy o amser am y tâl ar hyn o bryd, neu ddim tâl am yr awr gyntaf,
er enghraifft. Dywedodd Aelod y Cabinet mai peilota syniadau da yw'r ffordd
orau o ddod o hyd i ateb a bydd yn ymchwilio i'r awgrymiadau a wnaed. ·
Problemau gyda'r peiriannau tocynnau Mae'r problemau gyda'r peiriannau tocynnau wedi'u cydnabod ac mae'r cyngor
yn gweithio gyda'r cynhyrchwyr er mwyn dod o hyd i ateb. Roedd gan y cyngor
bryderon ynghylch yr amser y mae hyn yn ei gymryd a chytunodd Aelod y Cabinet
roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hyn. ·
Ardal chwarae ym Mae Bracelet Mae'r cyngor wedi ceisio cyllideb gan fusnesau lleol er mwyn gosod llong
môr-ladron newydd oherwydd nad oes cyllideb ar ôl i'r cyngor wneud hynny. Os
nad oes modd dod o hyd i gyllideb ar ei chyfer, bydd rhaid cael gwared arni.
Bydd Aelod y Cabinet yn rhoi'r diweddaraf am hyn. ·
Posibilrwydd o brydlesu/gwerthu rhai meysydd parcio Nid oes gan y cyngor unrhyw gynlluniau ar gyfer prydlesu neu werthu ei
feysydd parcio, ond bydd Aelod y Cabinet yn ymchwilio i ddichonoldeb hynny. Yna, aeth Aelod y
Cabinet a'r Gweithgor ati i drafod gweddill yr adroddiad ar yr agenda, lle
nodwyd y canlynol: ·
Mae
newid tirwedd parcio yng nghanol y ddinas wedi'i chynllunio. Gofynnodd y
Gweithgor am nifer y lleoedd sy'n cael eu lleihau yng nghanol y ddinas wrth i'r
prosiectau adfywio ddechrau. Mae adolygiad comisiynu gan gynnwys datblygu
ymagwedd strategol at ofynion parcio sy'n cynnwys newidiadau yng nghanol y
ddinas ar waith ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cael ei graffu fel eitem cyn
penderfynu gan y Panel Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid. Y Gweithgor i holi
am raddfa amser. ·
Pa
wyddoniaeth sy'n cael ei defnyddio er mwyn pennu'r ffioedd? Clywodd y
cynghorwyr fod yr awdurdod yn edrych ar yr hyn y mae awdurdodau eraill yn ei
wneud gan gynnwys meincnodi ein ffioedd. Roedd y Gweithgor yn meddwl ei fod yn
bwysig pwysleisio a chydnabod yr effeithiau ehangach ar fusnesau a chymunedau
yn Abertawe wrth gynyddu'r ffioedd - teimlwyd nad yw'n ymwneud â chostau bob
amser, ond gall ymwneud â chanfyddiad hefyd. Mae'r mwyafrif yn gwneud y gorau i
sicrhau ein bod yn deall effeithiau ehangach newid ffioedd meysydd parcio. ·
Yr
angen i ddefnyddio ffyrdd arloesol o ddenu pobl er mwyn helpu i gynyddu nifer
yr ymwelwyr a busnesau ar draws meysydd parcio yn Abertawe. Mae'n bwysig dod o
hyd i'r ffioedd gorau posib gyda'r defnydd gorau posib. Mae peilota syniadau
mewn rhai meysydd parcio yn ffordd dda o wneud hyn ac yn ffordd o arbrofi ar
syniadau. ·
Meysydd
parcio aml-lawr a defnydd, gwell defnydd yn enwedig yn y maes parcio aml-lawr
ar Y Stryd Fawr. Bydd y meysydd parcio newydd sy'n cael eu hadeiladu yn y
datblygiadau newydd yn cael eu dylunio fel eu bod yn fwy deniadol i barcio
ynddynt, bydd ganddynt fannau parcio mwy llydan a'u bod wedi'u goleuo'n well. ·
Capasiti
maes parcio'r Mwmbwls a'r syniad o adeiladu maes parcio aml-lawr. Cydnabuodd y Gweithgor fod yna broblem
ynghylch capasiti parcio tymhorol yn y Mwmbwls a byddai Aelod y Cabinet yn
hapus i edrych ar unrhyw syniadau y gall y Cynghorwyr eu cynnig ynghylch hyn ac
anogodd hwy i gysylltu ag ef. Clywodd y Cynghorwyr hefyd y gallai fod cyfle i
gael maes parcio Parcio a Theithio yng ngorllewin Abertawe yn y tymor hir. ·
Clywodd
y Gweithgor nad oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno ffioedd parcio i breswylwyr yn
Abertawe ar hyn o bryd. ·
Rydym
yn ystyried cyflwyno ffioedd mewn rhai meysydd parcio mewn lleoliadau
maestrefol. ·
Paratoi
ar gyfer ceir sy'n gyrru eu hunain a gosod pwyntiau gwefru trydanol yn y
dyfodol. Clywodd y Gweithgor fod y
diwydiant yn wynebu her ar hyn o bryd wrth geisio gwneud y pethau hyn, gan
gydnabod y bydd y dirwedd o ran trafnidiaeth ar y cyfan yn newid yn sylweddol
yn y tymor canolig i hir. Yr hyn rydym yn gallu ei wneud ar hyn o bryd yw
derbyn y newyddion diweddaraf gydag arfer gorau a dal ati wrth i bethau
ddatblygu. |
|
Crynhoi Barnau Y gweithgor i ystyried tystiolaeth a geir, dod i gasgliadau a chytuno ar
unrhyw argymhellion i'w cyflwyno i Aelod y Cabinet trwy lythyr y cynullydd Cofnodion: Bydd y Gweithgor
yn ysgrifennu llythyr drwy'r Cynullydd at Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r
Amgylchedd yn amlinellu ei farn a'i awgrymiadau. |
|