Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 4 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu - 01792 637256 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datgeliadau O Fuddiannau Personol A Rhagfarnol

Cofnodion:

Heb ei ddatgan

3.

Adroddiad Effaith Ymchwiliad Llywodraethu Ysgolion a'r diweddaraf ar y cynnydd a wnaed pdf eicon PDF 70 KB

Rhoddwyd gwahoddiad i'r canlynol drafod cynnydd: Y Cyng. Jennifer Raynor (Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Kathryn Thomas (Pennaeth y Gwasanaeth Cefnogi Dysgwyr)

 

Atodiadau:

1. Adroddiad Effaith gan Aelod y Cabinet

2. Ymateb Gwreiddiol y Cabinet

3. Adroddiad Ymchwilio Gwreiddiol y Pwyllgor Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes a Kathryn Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cefnogi Dysgwyr yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno adroddiad effaith/dilynol ar Lywodraethu Ysgolion. 

 

Codwyd a thrafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

·         Argymhelliad 1 - Datblygu dull cyngor eang ar gyfer llenwi'r bylchau mewn sgiliau a nodwyd gan gyrff llywodraethu, naill ai drwy drosglwyddiadau, cyfnewidiadau neu drwy baru llywodraethwyr newydd â sgiliau a phrofiad penodol.

Roedd y panel yn cydnabod na chytunwyd ar yr argymhelliad hwn ond fe'u hysbyswyd y cafwyd gweithredu y maes hwn. Mae'r Uned Llywodraethwyr wedi creu pecyn cymorth hunanwerthuso sydd ar gael i ysgolion er mwyn nodi bylchau mewn sgiliau. Gwnaed cyrff llywodraethu'n ymwybodol o declyn hunanwerthuso Llywodraethwyr Cymru ac fe'u cynghorwyd i gynnal hunanwerthusiad.

Roedd y panel yn meddwl ei bod yn bwysig sicrhau ein bod yn rhoi gwybod am yr hyn y gallent ei gynnig er mwyn cynorthwyo cyrff llywodraethu.

Ar hyn o bryd mae'r awdurdod lleol yn adolygu'r broses benodi ar gyfer llywodraethwyr awdurdodau lleol ac mae adroddiad yn cael ei baratoi i Aelod y Cabinet ei gyflwyno i'r cyngor. Wrth ystyried cynigion, bydd angen i gyrff llywodraethu ddarparu asesiad hunanwerthuso i nodi'r bwlch mewn sgiliau er mwyn aildrefnu penodi llywodraethwyr yr awdurdod lleol gyda'r sgiliau a nodwyd gan bob corff llywodraethu unigol.

·         Argymhelliad 2 - Llunio llyfryn bach ar gyfer llywodraethwyr sy'n darparu arweiniad syml ar gyfer eu rôl.

Credwyd bod ERW wedi darparu un ond nid yw'r llyfryn wedi'i gwblhau eto felly mae'r Uned Llywodraethwyr wedi creu llyfryn bach. Dosbarthwyd enghraifft o'r llyfryn ar gyfer llywodraethwyr ysgolion i aelodau'r panel yn y cyfarfod. Roedd y panel yn hapus i weld bod hyn wedi'i ddatblygu a bydd yn cael ei anfon at lywodraethwyr newydd ac yn cael ei gynnwys ar wefan y cyngor.

·         Argymhelliad 3 - Adolygu'r wybodaeth a ddarperir i lywodraethwyr ysgolion gydag ERW, Estyn a Llywodraethwyr Cymru gyda'r bwriad o sicrhau ymagwedd a rennir sy'n osgoi dyblygu.

Hysbyswyd y panel fod ERW wedi cynnal adolygiad a bod Abertawe wedi cymryd rhan ynddo.  Hefyd, mae Llywodraethwyr Cymru wedi cynnal adolygiad yn dilyn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar Ddiwygio Llywodraethu Ysgolion: Fframwaith Rheoleiddio. Mae canlyniad yr ymgynghoriad hwn wedi'i ohirio ar hyn o bryd o ganlyniad i lefelau uchel yr ymatebion.

Mae Abertawe yn aros am ganlyniad ac argymhellion yr arolygiad hwn cyn gall yr agwedd hon ddatblygu. 

Dywedodd y panel fod ganddynt adolygiad o wybodaeth gan Abertawe gyda 'a' fach. Roeddent yn falch bod dolenni ar ein gwefan i ERW, Llywodraethwyr Cymru a Fy Ysgol Leol ond yn meddwl bod angen mwy o esboniad yn y dolenni i helpu llywodraethwyr i ddeall eu pwrpas a sut gallent fod o gymorth iddynt.

·         Argymhelliad 4 - Darparu templed data safonol i benaethiaid a'u hannog i'w ddefnyddio.

Roedd y panel yn cydnabod bod pecynnau data cyffredinol ar gael ac yn falch o glywed bod gan ERW enghraifft o adroddiad y Pennaeth. Roedd y panel yn teimlo y byddai mynediad i'r fath hon o wybodaeth yn helpu i rymuso llywodraethwyr drwy ddatblygu gwell ddealltwriaeth o wybodaeth gymhleth. Hoffai'r panel weld hyn yn cael ei nodi ar wefan y cyngor gyda dolen sy'n dangos lle i gael hyd i'r wybodaeth hon.

·         Argymhelliad 5 - Gweithio gydag ERW i ddarparu gwybodaeth am yr holl gyfleoedd hyfforddi sydd ar gael i lywodraethwyr mewn un lle. 

Hoffai'r panel weld hyn yn cael ei nodi a dolen i dudalennau perthnasol ERW o wefan y cyngor. Sylweddolodd y panel hefyd nad oes gan ERW ardal benodol ar y wefan ar gyfer llywodraethwyr.

·         Argymhelliad 6 - Symud o hyfforddiant yn y Ganolfan Ddinesig i fodel hyblyg sy'n cyfuno corff llywodraethu cyfan, ysgolion clwstwr ac e-ddysgu.

Croesawodd y panel y pecyn hyblyg o hyfforddiant a oedd ar gael a'r hyfforddiant pwrpasol y gellir ei drefnu ar gyfer ysgolion ac ar draws clystyrau. Roedd y panel yn falch o glywed bod cyfarfodydd tymhorol wedi'u cynnal gydag ymgynghorydd herio dros Lywodraethu Ysgolion a'r Pennaeth Cefnogi Ysgolion er mwyn nodi cyrff llywodraethu yr oedd angen cymorth arnynt.

Roedd y panel yn teimlo nad oedd llawer o lywodraethwyr yn ymwybodol o hyn, yn enwedig yr ymagweddau hyfforddi pwrpasol wedi'u targedu sydd ar gael at ddibenion penodol a hefyd fod hyn yn gallu cael ei nodi ar wefan y cyngor.

·         Argymhelliad 7 - Datblygu log dysgu ar-lein i lywodraethwyr fel eu bod yn gallu rheoli eu hyfforddiant a'u datblygiad eu hunain.

ac

·         Argymhelliad 8 - Ystyried sut gallai hyfforddiant gorfodol newydd i lywodraethwyr helpu llywodraethwyr i feddwl am sut i reoli eu hyfforddiant a'u datblygiad eu hunain.

·         Clywodd y panel fod cronfa ddata'r llywodraethwyr wedi'i hadolygu a'i bod yn cael ei rheoli drwy system wahanol, a bod llawer o'r gwaith wedi'i gyflawni i drosglwyddo data o'r cronfeydd data blaenorol a bod angen gwneud mwy o waith er mwyn datblygu log dysgu ar-lein i lywodraethwyr er mwyn iddynt allu rheoli hyfforddiant a datblygiad eu hunain. Roedd y panel yn falch o glywed bod y system newydd bellach yn cael ei gweithredu a'i bod yn llawer mwy hwylus i'w defnyddio. Rydym bellach yn awyddus i weld cam nesaf y datblygiad: y log dysgu ar-lein ar gyfer llywodraethwyr.

·         Argymhelliad 9 - Annog yr holl lywodraethwyr i ymwneud ag ymweliadau craidd yr hydref.

Clywodd y panel na chytunwyd ar hyn oherwydd nad oedd yn bosib cynnwys yr holl lywodraethwyr yn ymweliadau craidd yr hydref. Fodd bynnag, mae'r uned llywodraethwyr yn bwriadu cyflwyno hyfforddiant i lywodraethwyr yn yr hydref fel bod llywodraethwyr yn deall proses yr ymweliad craidd yn well. Roedd y panel yn falch o glywed bod Ymgynghorwyr Herio yn mynd i gyfarfod corff llywodraethu'r holl ysgolion coch ac ambr.

·         Argymhelliad 10 - Cynnal ymgyrch i hyrwyddo rôl y llywodraethwyr ar gyfer gweithwyr y sector preifat a phartneriaid y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Clywodd aelodau'r panel fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ymgyrch i dargedu gweithwyr o'r sector preifat a'r sector cyhoeddus. Bydd Abertawe'n defnyddio'r ymgyrch hon ac yn cynnal ymgyrch leol ar y cyd.

·         Argymhelliad 11 - Ysgrifennu at Gadeirydd y Llywodraethwyr a Phenaethiaid bob ysgol i hyrwyddo'r pwyntiau arfer da sy'n cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn.

Hoffai'r panel weld dull lle gellir rhannu arfer rhwng y llywodraethwyr a'r cyrff llywodraethu.

·         Argymhelliad 12 - Ysgrifennu at bob llywodraethwr ysgol gan ddiolch iddynt am ei waith ar ran y cyngor ac amlygu'r rhestr o'r hyn y dylai llywodraethwyr ysgol ei ddisgwyl'. Gofynnodd yr aelodau a oedd hyn wedi'i gylchredeg i'r holl lywodraethwyr gan nad oeddent wedi'i weld. Awgrymodd y panel fod hwn yn cael ei gylchredeg i lywodraethwyr yn flynyddol a'i fod yn ffurfio rhan o'r llyfryn (yn Argymhelliad 2) ar gyfer llywodraethwyr newydd. Hoffai'r panel hefyd weld copi o'r llyfryn ar-lein.

·         Argymhelliad 13 - Cymryd camau ychwanegol i hysbysebu'r gwaith da a wneir gan lywodraethwyr a chyrff llywodraethu.

Roedd aelodau'r panel yn teimlo bod hyn yn bwysig oherwydd ei fod yn ymwneud â rhannu arfer cadarnhaol. Dywedodd Pennaeth yr Uned Llywodraethwyr y bydd hi'n ymchwilio i ffordd o sicrhau bod deilliannau cadarnhaol arolygiadau Estyn sy'n berthnasol i gyrff llywodraethu ar gael ar wefan y cyngor.

·         Argymhelliad 14 - Symleiddio'r wybodaeth am lywodraethwyr ysgol ar wefan y cyngor a ddylai ddarparu'r dolenni ar gyfer yr holl wybodaeth gyffredinol i wefan Llywodraethwyr Cymru.

Roedd y panel yn teimlo y dylai gwefan y cyngor gael ei defnyddio i nodi ffynonellau gwybodaeth defnyddiol ar gyfer llywodraethwyr er mwyn arbed amser iddynt orfod chwilio am yr wybodaeth hon eu hunain.

·         Argymhelliad 15 - Atgoffa pob ysgol y gallai'r hyfforddiant ar gyfer corff llywodraethu llawn ac ysgolion clwstwr gael ei drefnu ar gais.

Gweler ateb yn argymhelliad 6

·         Argymhelliad 16 - Cynnal seminar ar gyfer llywodraethwyr awdurdodau lleol i archwilio'u rolau wrth rannu arfer.

Hysbyswyd y panel nad yw'n addas i dargedu grŵp penodol o lywodraethwyr i dderbyn hyfforddiant llywodraethwyr yn annibynnol. Gellir trefnu hyfforddiant pwrpasol ar gyfer aelodau etholedig sy'n llywodraethwyr ysgol os bydd angen.

 

 

4.

Y Panel i drafod cynnydd ac i gytuno ar adborth

Y Panel i drafod ei farn ar y cynnydd a wnaed ac i gytuno ar yr adborth yr hoffent ei gyflwyno i Aelod y Cabinet a Phwyllgor y Rhaglen Graffu drwy ei lythyr gan y Cynullydd.

 

Cofnodion:

Trafododd y panel a daethpwyd i'r casgliadau canlynol:

 

·         Roedd y panel yn teimlo bod cynnydd da wedi'i wneud gyda llawer o'r argymhellion ond mae angen i'r wybodaeth hon gael ei nodi'n well. 

·         Roedd y panel yn cydnabod bod llawer o wybodaeth ar gael ar gyfer llywodraethwyr felly roedd hyn yn pwysleisio'r angen i'w helpu a'u cyfeirio at yr wybodaeth bwysicaf. Mae hyn yn cynnwys dolenni gwell ar gyfer y wefan a bod gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer y llywodraethwyr yn cael ei nodi'n well, ar y wefan ac ar gyfer cyrff allanol.

·         Gofynnodd y panel i Aelod y Cabinet sicrhau bod yr eitemau canlynol wedi cael ac yn cael eu cylchredeg i lywodraethwyr a'u bod ar gael ar wefan y cyngor.

   Llyfryn ar gyfer llywodraethwyr

   Yr hyn y dylai llywodraethwyr ei ddisgwyl (Atodiad B yr adroddiad gwreiddiol)

   Sicrhau her effeithiol: Cyngor arfer da i gadeiryddion llywodraethwyr a phenaethiaid

·         Roedd y panel yn falch o glywed bod yr Ymgynghorwyr Herio'n mynd i gyrff llywodraethu ysgolion sydd wedi'u nodi'n goch neu'n ambr yn nhymor yr hydref.

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

a)    Bydd Cynullydd y panel yn anfon llythyr at aelod y cabinet gan grynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu barn ac argymhellion y panel.

b)    Bydd unrhyw faterion sy'n weddill mewn perthynas â'r darn hwn o waith  yn cael eu hategu drwy Banel Craffu Perfformiad Ysgolion.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 54 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 58 KB