Lleoliad: Ystafell Gyfarfod y Cynghorwyr 235, Neuadd y Ddinas
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Cyfarfod Bord Gron gyda phartneriaid sy'n gysylltiedig â'r Gyfarwyddiaeth Pobl PDF 118 KB Gwahoddwyd: Sara Harvey, Cyfarwyddwr Rhaglen, Bae’r Gorllewin Betsan O’Connor, Rheolwr-gyfarwyddwr, ERW Cofnodion: Gwahoddodd y
panel gynrychiolwyr o rai o sefydliadau partner allanol y cyngor sy'n rhan o
faes y Gyfarwyddiaeth Pobl i rannu eu barn am faterion mewn perthynas â
gweithio rhanbarthol. Siaradodd y panel â Sara Harvey (Cyfarwyddwr Rhaglen
Bae'r Gorllewin) ac Alan Edwards (Pennaeth Dysgu ac Addysgu ERW). Nodwyd y
pwyntiau canlynol: Manteision
gweithio rhanbarthol ar gyfer Abertawe Bae'r Gorllewin ·
Dyma'r
rheswm go iawn pam rydym yn gwneud hyn ... er mwyn gwella gwasanaethau drwy
weithio gyda'n gilydd. ·
Bu
rhai manteision ariannol o ran arbedion maint, dileu dyblygu prosesau a gwaith.
·
Mae
gwelliannau go iawn wedi bod o ran ansawdd. Defnyddio fframwaith ansawdd
rhanbarthol, sef cyfres o safonau ansawdd a ddefnyddir ar draws holl ddarparwyr
gofal Bae'r Gorllewin. ·
Datblygwyd
Panel y Dinasyddion ·
Annog
rhannu arfer gorau ar draws y rhanbarth ·
Bu
adolygu prosesau ac asesu gwasanaethau ar draws y rhanbarth yn her i bawb ·
Ar ôl
cyfnod prawf, mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol wedi'u cyflwyno mewn rhai mannau
eraill o'r rhanbarth ·
Yn y
broses frocera, mae sefydliad mwy'n cael bargeinion gwell, gan allu siarad â
darparwyr gydag un llais. ERW ·
Dylanwad
gwell o ganlyniad i faint yn genedlaethol. Gall y pedwar rhanbarth gael dylanwad
cryfach pan fydd polisi cenedlaethol yn cael ei ddatblygu. ·
Gellir
clustnodi adnoddau'n seiliedig ar angen a gallu galw ar wybodaeth ac arbenigedd
o'r holl ranbarth. ·
Bu
rhai arbedion ond nid i'r un graddau â'r rhanbarthau eraill eto. ·
Ansawdd
a chysondeb wedi gwella, er enghraifft: ymgynghorwyr herio. ·
Gallu
gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu adnoddau a deunyddiau i ysgolion y gellir eu
defnyddio ar draws y rhanbarth. Cwestiynau gan y panel ·
Sut asesir
cartrefi gofal a gwelliannau? Mae'r fframwaith ansawdd yn cyflwyno efydd, arian
neu aur i ddarparwyr yn seiliedig ar eu hansawdd yn ogystal â'r gwasanaethau y
maent yn eu darparu. ·
Sut
ydych yn cyflawni blaenoriaethau lleol pan fo sefyllfaoedd yn wahanol iawn mewn
awdurdodau, fel dylanwadau gwledig a threfol, er enghraifft? Mae tîm Gwella
Addysg pob awdurdod lleol yn teilwra'r gwasanaethau i'r anghenion lleol. Hefyd,
mae gan Gynllun Busnes ERW atodiad lle gall pob awdurdod lleol amlinellu ei
flaenoriaethau. Bu peth gwelliant, yn enwedig o ran ysgolion yn cefnogi ei
gilydd ar draws y rhanbarthau pan nodir problemau cyffredin. ·
A
yw'r un problemau'n cael eu nodi ar draws pob un o'r chwe awdurdod lleol? Mae
llawer o bryderon tebyg ar draws y rhanbarthau, yn ogystal â gwahaniaethau. Rhwystrau i
Weithio Rhanbarthol Mae'r rhwystrau i
integreiddio Bae Gorllewin yn fwy'n cynnwys y canlynol: ·
Mae
undebau llafur yn bwysig ac mae llawer o amodau a thelerau gwahanol ar draws y
sefydliadau i'w hintegreiddio. Nid yw hyn wedi'i wneud eto ac mae'r rhan fwyaf
o staff yn y bartneriaeth yn gweithio dan eu contractau gwreiddiol, a all
achosi drwgdeimlad, yn enwedig os oes gan un person dâl ac amodau mwy ffafriol
na pherson arall. ·
Systemau
TGCH gwahanol na allant rannu gwybodaeth neu sy'n cael anawsterau wrth wneud
hynny. Mae system newydd yn cael ei chyflwyno a fydd yn gwella ac yn rhoi'r
gallu i edrych ar y cyd ar ddata. Nid yw maes iechyd wedi'i gynnwys eto. Bydd
yn gwneud gwahaniaeth go iawn pan fydd angen rhannu gwybodaeth. ·
Efallai
fod rhai partneriaid yn pryderu nad yw'r system yn eu gwasanaethu hwy cystal ag
eraill. Mae pob ALl yn gwasanaethu ei
ddinasyddion ei hun ac yn atebol iddynt. Oherwydd hyn, mae'n bwysig bod pob ALl
yn llofnodi cynllun ar y cyd sy'n nodi blaenoriaethau'r rhanbarth. ·
Gall
yr amgylchedd ariannu presennol wneud i bobl edrych yn fewnol yn hytrach nag yn
allanol ond gall newid ac ailystyried sut rydym yn cynnal gwasanaethau fod yn
gadarnhaol a darparu manteision o ran gweithio'n rhanbarthol. ·
Sicrhau
bod pob un o'r chwe awdurdod lleol yn defnyddio arferion gweithio cyffredin. ·
Gall
nodi risgiau cyffredin fod yn her. ·
Bu
rhai problemau o ran atebolrwydd oherwydd ansicrwydd staff ynghylch a ydynt yn
gweithio i'r ALl, y rhanbarth neu'r ddau (ERW). ·
Y
strwythur llywodraethu, yn enwedig wrth sicrhau eglurder. ·
Iaith
gyffredin ar draws y partneriaid gan y gall fod gan bethau ystyron gwahanol
mewn sefydliadau gwahanol. Trefniadau
Craffu a Llywodraethu ERW ·
Mae
Grŵp Cynghorwyr Craffu ERW ar waith (dyma banel anffurfiol yn hytrach na
phwyllgor ffurfiol) sy'n craffu ar waith Cyd-bwyllgor ERW. Mae'n cynnwys
cadeiryddion ac is-gadeiryddion cyrff craffu sy'n ymwneud ag addysg ar draws y
rhanbarth. Mae manylion gwaith y panel craffu a'r argymhellion sy'n deillio
ohono'n cael eu hanfon drwy lythyr oddi wrth Gadeirydd y Grŵp i'r
cyd-bwyllgor. Mae'r cyd-bwyllgor yn eu hystyried yn ei gyfarfod ac yna'n ymateb
i'r grŵp yn ysgrifenedig. Mae'n profi'n llwyddiannus ac mae'r model hwn yn
cael ei fabwysiadu gan rai o'r rhanbarthau eraill. ·
Mae
ERW hefyd yn herio drwy nifer o ffynonellau eraill fel, er enghraifft, Estyn ac
archwilio (4 gwaith y flwyddyn). ·
Mae
Grŵp Cynghorwyr Craffu ERW yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn, cyn y
cyd-bwyllgor. Gofynnodd y panel a oedd dwywaith y flwyddyn yn ddigon a dywedwyd
bod y drefn hon yn gweithio ar hyn o bryd ond bydd angen ei monitro'n barhaus. Bae'r Gorllewin ·
Nid
oes cytundeb craffu ar y cyd ar hyn o bryd. Nid oedd Cyngor Castell-nedd Port
Talbot am ei roi ar waith ar hyn o bryd er bod Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe'n
awyddus. Rhaid i'r pedwar partner gytuno.
·
Mae
pob awdurdod lleol unigol yn craffu ar yr agweddau sy'n berthnasol iddynt hwy
ond ni chreffir ar y bartneriaeth yn ei chyfanrwydd. ·
Pan all
aelodau graffu ar y rhaglen, rydym yn teimlo bod hynny'n sicrhau llywodraethu
da ac yn ei gwneud yn fwy gweladwy. ·
Ar
hyn o bryd, os oes angen gwneud penderfyniad, rhaid iddo fynd gerbron Cabinet
pob cyngor a'r bwrdd iechyd cyn y gellir ei roi ar waith. Petai trefn gan y
cyd-bwyllgor, gellid gwneud penderfyniadau'n gyflymach o lawer. ·
Petai'r
bartneriaeth yn ailystyried y strwythur llywodraethu, yn ffurfio cyd-bwyllgor a
threfn graffu gysylltiedig ... argymhelliad posib Egwyddorion
allweddol ar gyfer cydweithio effeithiol ·
Arweinyddiaeth
gref gan swyddogion ac yn wleidyddol ·
Systemau
cyffredin ar draws y bartneriaeth (er enghraifft, fframwaith ansawdd) ·
Cyfathrebu
da ar bob lefel ac â rhanddeiliaid ·
Llywodraethu
da, clir a gweladwy a gwneud penderfyniadau ar y cyd ·
Datblygu
perthnasoedd da a meithrin ymddiriedolaeth mewn perthnasoedd ·
Cydnerthedd
cynwysedig (nid yw'n hawdd gan fod angen sgiliau penodol) ·
Hyrwyddwyr,
noddwyr ac arweinwyr ym mhob sefydliad partner a all weld y darlun mwy a
chynnal diddordeb yn y bartneriaeth Eglurder
gan Lywodraeth Cymru a mandadu ·
Yn
aml, mae angen mandadu er mwyn i chi ddeall yn glir beth yw'r disgwyliadau. Yna
rydym hefyd yn cael arweiniad statudol clir. Mae Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant 2012 yn enghraifft dda. Mae mandadu'n cyflwyno heriau
gwahanol ac ni fydd pawb yn ei hoffi. ·
Mae
mandadu'n sicrhau bod rolau'n gliriach, er enghraifft, os nad yw partneriaid am
gymryd rhan mewn rhai agweddau, bydd rhaid iddynt ailystyried. Gweithio
gyda'r trydydd sector a'r sector preifat ·
Nid
ydym yn gweithio'n llawn gyda'r trydydd sector eto, ond byddwn yn ceisio gwneud
hyn yn fwy pan fo'n briodol (ERW). ·
Gweithio
gyda'r sector preifat ym maes addysg a datblygu sgiliau y mae eu hangen ar
ddiwydiant yn lleol (drwy'r Bartneriaeth Ddysgu). A yw
diffyndollaeth yn rhwystro cydweithio rhanbarthol? ·
Ydy a
gall gael effeithiau sylweddol ar rai lefelau. ·
Mae
hyn yn ddiangen gan y dylid canolbwyntio ar y dysgwr/dinesydd. ·
Gofynnodd
y panel sut gellid mynd i'r afael â hyn a'i wella? Clywodd y panel yr atebion canlynol: o
Arweinyddiaeth
a chyfarwyddyd cryf gan wleidyddion ac uwch-reolwyr (mae uwch-reolwyr yn
chwarae rôl hanfodol wrth lunio ethos y bartneriaeth) o
Dathlu
pobl a'r gwaith y maent yn ei wneud o
Cyfathrebu
o'r brig i'r gwaelod, yn enwedig mewn adrannau bloc fel rheolwyr canol o
Diben
cyffredin a gweledigaeth a rennir ·
Mae
trawsnewid prosesau a gofyn i bobl wneud pethau'n wahanol yn gallu bod yn
anodd. Nid yw'n hawdd newid ac mae angen rheoli cadarnhaol a gofalus. |
|
Rhaglen Waith Cynllun y Prosiect PDF 81 KB Cofnodion: Cynhelir cyfarfod
nesaf y bwrdd ar 15 Mawrth lle bydd yr aelodau'n trafod eu canfyddiadau ac yn
dechrau dod â'r gwaith hwn i ben. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.30am |