Lleoliad: Ystafell Gyfarfod y Cynghorwyr 235, Neuadd y Ddinas
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Y Cynghorydd Mike
White (Budd Personol yn Eitem 3 ar yr Agenda) |
|
Cyfarfod Bord Gron gyda phartneriaid sy'n gysylltiedig â'r Gyfarwyddiaeth Lleoedd PDF 117 KB Gwahoddwyd: ·
Helen
Morgan, Arweinydd y Fargen Ddinesig yn Sir Gâr ·
Ben
George, Partneriaeth Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru ·
Zack Shell,
Partneriaeth Gwastraff (Pen-y-bont ar Ogwr) ·
Judith
Oakley, Grŵp Awdurdodau Perthnasol Ardal Gadwraeth Arbennig Bae
Caerfyrddin Cofnodion: Gwahoddodd y
panel gynrychiolwyr o rai o sefydliadau partner allanol y cyngor sy'n rhan o
faes y Gyfarwyddiaeth Lleoedd i rannu eu barn am faterion mewn perthynas â
gweithio rhanbarthol a'i bartneriaethau. Nodwyd y pwyntiau canlynol: Cynrychiolwr o
Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr - Partneriaeth Wastraff De-orllewin Cymru ·
Mae
gweithio ar draws y rhanbarth, yn enwedig ar faterion caffael, yn dda ar gyfer
arbedion maint, ac mae Llywodraeth Cymru'n annog awdurdodau lleol i weithio ar
y cyd o ran gwastraff. ·
Mantais
bendant y llynedd: caffael gwastraff bwyd newydd gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr
ac Abertawe. Cafwyd cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chyllid gwerth
25%. Mae'n fuddiol yn ariannol i'r ddau
ALl. Adeiladwyd y cyfleuster ym
Mhen-y-bont ar Ogwr gan arwain at gyfleoedd cyflogaeth. ·
Cadarnhaol iawn ond cymerodd amser sylweddol i'w
gyflwyno. Dechreuodd y broses gychwynnol yn 2008 gyda nifer o awdurdodau lleol
eraill yn rhan ohoni, a thynnodd yr ymgeisydd a ffafriwyd yn ôl o'r broses. Ar
ôl y sefyllfa gaffael aflwyddiannus, collodd rai o'r awdurdodau lleol awydd
dros fod yn rhan ohoni, neu daethpwyd o hyd i ddatrysiadau eraill. Felly ar ôl
rhoi cynnig arall arni gyda'r dulliau caffael presennol, mae llai o awdurdodau
lleol yn cymryd rhan ond mae wedi bod yn llwyddiannus er hynny. Mae wedi bod yn
brosiect estynedig a hirwyntog ond yn un llwyddiannus beth bynnag. ·
Mae
rhai o'r rhwystrau/heriau'n cynnwys: yr amser a'r ymdrech sy'n angenrheidiol er
mwyn cyflawni'r gweithgaredd caffael hwn, a hefyd yr heriau o ran cael pawb i'w
gefnogi. ·
Mae
cyllid gan Lywodraeth Cymru'n gadarnhaol ond mae'r systemau y mae angen eu
cwblhau er mwyn cael y cyllid yn drwm ac yn cymryd cryn amser. Mae'r achos
busnes a chaffael yn heriol iawn ond mae'n ganlyniad da i Abertawe a
Phen-y-bont ar Ogwr. ·
Roedd yn broses araf a arweiniwyd gan Abertawe (a oedd
o'r farn y byddai awdurdodau llai yn ei chael hi'n anodd arwain proses o'r fath
gyda llai o adnoddau ac arbenigedd i'w cefnogi). ·
Mae'n
bwysig bod yr holl adrannau angenrheidiol yn eich cyngor yn gweithio ar y cyd
ac yn gefnogol pan rydych yn rhan o broses ranbarthol. ·
A
fyddai wedi bod hyd yn oed yn fwy llwyddiannus gyda mwy na 2 ALl? Clywodd y panel ei fod yn anodd dweud
oherwydd bod angen strwythur lleol ar rai agweddau. Ond o safbwynt caffael,
bydd prynu mwy'n arwain at gynigion gwell ac yn arbed arian i bawb o ganlyniad.
·
Teimlwyd y byddai gwell arweiniad a gwasanaeth wedi eu
symleiddio gan Lywodraeth Cymru'n fuddiol.
Mae cyflwyno cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru'n broses hir a
thrwm. Mae'r panel yn cydnabod ei fod yn
bwysig bod y sector cyhoeddus yn mynd gam ymhellach o ran diwydrwydd dyladwy a
llywodraethu wrth wario arian y cyhoedd, ond mae'n awyddus i weld y broses yn
cael ei symleiddio os bwriedir i waith rhanbarthol gael ei ddatblygu ar raddfa
fwy. Teimlwyd bod angen cydbwysedd gwell
rhwng dwysedd y broses, yr angen am ddiwydrwydd dyladwy a'r amser mae'n ei
gymryd/y fiwrocratiaeth sy'n ei dilyn. Arweinydd y
Fargen Ddinesig ar gyfer Sir Gâr ·
Mae
gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe 11 o brosiectau ar draws y rhanbarth gyda
chyfanswm cyllid gwerth £1.3 biliwn. ·
Clustnodir
241 miliwn ar gyfer prosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe'n gyffredinol, sydd
wedi'i ariannu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'r
sector preifat. Llofnodwyd y fargen ar 20 Mawrth 2017 ac mae'n nodi cytundeb
mewn egwyddor ar gyfer yr 11 o brosiectau dros y 15 mlynedd nesaf: 5 mlynedd i'w cyflwyno a 10 mlynedd i'w cyflawni.
Sir Gâr yw'r cyngor arweiniol. ·
Defnyddiwyd
model busnes 5 achos Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn drwm ar amser ac
adnoddau. ·
Cyflwynwyd 8 o'r 11 o achosion busnes i'r ddwy
lywodraeth. Mae'n broses gymhleth oherwydd bydd yr achosion busnes hyn wedyn yn
cael eu trosglwyddo i 3 adran wahanol yn y llywodraeth. ·
Mae
gan Abertawe ddau brosiect: y Fargen Ddinesig a Dinas a Glannau Abertawe. Mae'r
holl achosion busnes ar ffurf ddrafft ar hyn o bryd. ·
Cyfanswm
y ddau brosiect hyn yw 168 miliwn, sy'n cynnwys 50 miliwn a roddwyd ar y cyd
gan Lywodraeth y DU/Lywodraeth Cymru, 94 miliwn gan y sector cyhoeddus a 24
miliwn gan y sector preifat. ·
Disgwylir
i werth ychwanegol gros economi Abertawe elwa o gynnydd gwerth 64 miliwn ar ôl
5 mlynedd, 190 miliwn ar ôl 10 mlynedd a 319 miliwn ar ôl 15 mlynedd, gyda 265
o swyddi'n cael eu creu ar ôl 5 mlynedd, 1178 ar ôl 10 mlynedd a 1323 ar ôl 15
mlynedd. Er hynny, mae angen gwneud mwy
o waith ar werth arfaethedig y swyddi hyn. Mae'r panel yn teimlo ei fod yn
bwysig sicrhau bod nifer o'r swyddi hyn yn swyddi â mwy o dâl. ·
Clywodd
y panel am y fenter talent a sgiliau lle mae pobl yn yr ardal leol yn ennill
sgiliau er mwyn iddynt allu cyflawni'r swyddi a fydd yn deillio o'r 11 o
brosiectau hyn. Gweithio gyda phrifysgolion, colegau ac ysgolion gan gynnwys
ysgolion cynradd. ·
Gweithio gydag arweinwyr a phrif weithredwyr ar draws y
rhanbarth ar hyn o bryd i lunio strwythur llywodraethu cyfreithiol. Mae rhai
materion i'w datrys gyda'r ddwy lywodraeth ar hyn o bryd, gydag un ohonynt yn
ymwneud â chyfalafu. ·
Anfonwyd
llythyrau sy'n trafod cyfalafu i'r llywodraethau: hynny yw, gallu newid peth o
arian cyfalaf y prosiect yn wariant refeniw. Mae Caerdydd wedi llwyddo i wneud
hyn, ond nid yw wedi cael ei dderbyn ar gyfer Bargen Ddinesig Abertawe hyd yn
hyn. Roedd y panel yn gefnogol o'r sylwadau a wnaed o ran gallu defnyddio peth
o'r arian at ddibenion refeniw. ·
Soniodd
y panel am y rhan o'r fargen sy'n cynnwys cyllid Ewropeaidd. Clywodd y panel ei
fod yn bosib blaenlwytho'r agweddau a ariennir gan ERDF lle y bo'n bosib. Ni
chafwyd unrhyw gytundeb o ran sut i adennill unrhyw arian a gollir o ganlyniad
i beidio â bod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd bellach. Mae arian gan yr UE wedi'i
gynnwys yn y £94 miliwn o arian cyhoeddus. ·
Gall
un o'r rhwystrau gynnwys yr ymarferoldeb o weithio ar draws y 4 awdurdod lleol.
Ond, ar gyfer y Fargen Ddinesig, mae'r berthynas wedi aeddfedu ac mae materion
megis diffyndollaeth wedi gwella gan fod yr holl bartneriaid yn gweld y
manteision cyffredinol o weithio ar draws y rhanbarth. Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth Abertawe
(Partneriaeth Trafnidiaeth Ranbarthol De-orllewin Cymru) ·
Mae llywodraethu partneriaeth yn bwysig iawn. Nid oes gan Bartneriaeth
Trafnidiaeth Ranbarthol De-orllewin Cymru strwythur llywodraethu ffurfiol ar
hyn o bryd gan y diddymwyd y Consortia yn 2014.
Mae partneriaid ar draws y rhanbarth wedi cytuno ei fod yn bwysig cynnal
y bartneriaeth gan nad ydynt am golli gwaith partneriaeth, sgiliau a gwybodaeth
ei haelodau na gorfod dechrau o'r dechrau wrth weithio ar y cyd yn ffurfiol
unwaith eto, felly mae'n gweithio ar y cyd yn anffurfiol ar hyn o bryd. Roedd yr awdurdodau a oedd yn rhan o'r
bartneriaeth yn ymwybodol o'i gwerth. Mae'r strwythur mandadedig cyfreithiol
rhanbarthol ar gyfer trafnidiaeth wedi'i ddiddymu'n llwyr. Tybiwyd y byddai'n
cael ei gynnwys yn natblygiadau'r Fargen Ddinesig newydd ond nid yw hyn wedi
digwydd. Nid oes llais ar lefel
genedlaethol ar hyn o bryd oherwydd tynnwyd y strwythur llywodraethu i ffwrdd. ·
Mae angen ffurfio partneriaeth ffurfiol â mandad gan Lywodraeth Cymru ar
gyfer Trafnidiaeth yn y rhanbarth. Ni allwn ailwampio SWITCH gan y cafwyd
datblygiadau, ac mae angen ffurfio partneriaeth yn ei rhinwedd ei hun a/neu ei
chynnwys yn y Fargen Ddinesig. Mae angen i Lywodraeth Cymru egluro'r mater
llywodraethu sy'n berthnasol i'r polisi trafnidiaeth. ·
Mae cysylltiadau agos â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn enwedig o
ran materion megis lleihau allyriadau carbon etc. |
|
Rhaglen Waith Cynllun y Prosiect PDF 81 KB Cofnodion: Yng nghyfarfod
nesaf y panel ar 16 Chwefror bydd y panel yn siarad â phartneriaid y
Gyfarwyddiaeth Pobl, gan gynnwys Bae'r Gorllewin ac Ein Rhanbarth ar Waith. |