Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Nodiadau o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 12 2017 PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd y nodiadau gan y panel. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Chris
Sivers (Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol), Helen Morgan Rees (Pennaeth
Hwb y Gwasanaeth Gwella Addysg) a Sara Harvey (Cyfarwyddwr Rhaglen Bae'r
Gorllewin) adroddiad a oedd yn amlinellu gweithio rhanbarthol yn y
Gyfarwyddiaeth hon ynghyd â gwybodaeth am y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd
hyn yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol: ·
Ein
Rhanbarth ar Waith (ERW) ·
Iechyd
a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin ·
Bwrdd
CONTEST Rhanbarthol Bae'r Gorllewin ·
Bwrdd
y Gwasanaethau Lleol ·
Rhaglen
Cydlyniant Cymunedol Mae risgiau posib
yn y dyfodol i gydweithio wedi'u nodi: ·
Mae
newidiadau i ôl troed y Bwrdd Iechyd (er enghraifft dileu/symud partner ac
effaith hynny ar brosiectau a chyfraniad ariannol priodol) ·
Proffiliau
poblogaeth (amddifadedd trefol yn erbyn cefn gwlad gwasgaredig, poblogaethau
BME) ·
Colled
bosib ar ffocws ardal a/neu ddyblygu (rhaid cael sicrwydd lleol) ·
Gwydnwch
a maint awdurdod lleol i gyflawni swyddogaethau Mae'r pwyntiau
allweddol ar gyfer yr ymchwiliad o waith rhanbarthol a gafwyd o'r drafodaeth
ddilynol wedi'u nodi fel a ganlyn: ERW ·
Rhaid
ystyried anghenion a chyd-destun lleol mewn partneriaethau rhanbarthol. Er
enghraifft, gydag ERW caiff cynllun busnes ei lunio lle caiff cyfarwyddebau
cenedlaethol ac amcanion cyffredin ar draws y rhanbarth eu cefnogi ond mae'n
cynnwys amcanion lleol pob awdurdod lleol. Mae hyn yn bwysig oherwydd bydd gan
bob awdurdod lleol gyd-destun gwahanol ac felly anghenion gwahanol a hefyd pan
fydd rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau bod ERW yn atebol ar lefel leol.
Gweithio ar draws y rhanbarth gyda chyswllt agos â blaenoriaethau lleol yw'r
ateb gorau. ·
Gall
blaenoriaethau gwahanol fod yn broblem i ranbarth, er enghraifft yn ôl troed
ERW lle mae rhan fwyaf y rhanbarth yn wledig, gall materion gwledig ragori a
gall hyn gael ei adlewyrchu yn y dyraniad arian ar draws y rhanbarth. ·
Y
gwahaniaeth rhwng SWAMWAC, y bartneriaeth addysg ranbarthol flaenorol ac ERW.
Mae gan ERW drefniant cydweithredol cyfreithiol â strwythur llywodraethu
cysylltiol. ·
Un o
rolau ERW a'r manteision cadarnhaol posib yw bod awdurdodau lleol yn helpu ei
gilydd. Clywodd y panel fod rhannu sgiliau ac arbenigedd ar draws awdurdodau'n
gweithio'n dda, er enghraifft rydym wedi helpu Sir Benfro ac yn cynorthwyo ysgolion
Powys ac rydym wedi cael cymorth hefyd. Mae hyn hefyd yn dda i ddileu rhwystrau
rhwng awdurdodau lleol. Mae hyn yn gweithio os nad yw un awdurdod ar golled
oherwydd y trefniant. ·
Gofynnodd
y panel a oedd ERW yn haen o sefydliadau sy'n dal i fod yn berthnasol ac a oes
ei angen? Clywodd y panel y bu'n gadarnhaol iawn ac mae wedi cyflwyno
manteision go iawn wrth fabwysiadu model cenedlaethol sydd wedi cyflwyno gwell
cysondeb yng ngwaith ymgynghorwyr herio a phenaethiaid. Mae hefyd wedi galluogi cyfleoedd hyfforddi
ehangach a mwy cyson i ysgolion a staff addysg ar draws y rhanbarth. Mae
gweithio'n agosach â Chastell-nedd Port Talbot, er enghraifft i ddysgu a rhannu
arfer da wedi bod o fudd mawr. Er bod cysyniad ein bod yn un o'r ardaloedd
perfformio cryfaf, mae'n debygol y byddwn yn gwneud mwy i eraill. ·
Ar
hyn o bryd, mae ERW yn cael ei ddiwygio a'i ailfodelu. Phil Roberts, Prif
Weithredwr Abertawe, yw'r swyddog arweiniol ac mae arweinydd cyngor newydd o
Geredigon, a rhagwelir y bydd ymagwedd fodern newydd wrth symud ymlaen. ·
Ydym
ni wedi dysgu unrhyw beth gan Gonsortia eraill yng Nghymru? Clywodd y panel fod ERW wedi gweithio gyda
chonsortia eraill ar bethau y mae angen cymorth i'w datblygu, fel y maent wedi
gwneud gydag ERW. ·
Mae
gan ERW strwythur llywodraethu da gyda threfniant craffu cysylltiol. ·
Clywodd
y panel y bu rhai ysgolion yn herio eu canfyddiad o ERW. Gan fod ERW yn ymgymryd â'r rôl o
ystyried/herio perfformiad o ran arweinyddiaeth, mae ysgolion yn teimlo bod hyn
yn creu mwy o waith. Mae ERW wedi gweithio
gyda Llywodraeth Cymru i helpu i ddatblygu gwybodaeth i ysgolion ynghylch
lleihau llwythi gwaith. Bae'r Gorllewin ·
Mae Llywodraeth Cymru'n cyfeirio arian yn fwyfwy drwy
bartneriaethau rhanbarthol gan annog cydweithio, ond rhaid i bartneriaid brofi
eu bod yn gweithio gyda'i gilydd. ·
Mae gan Fae'r Gorllewin hanes da o gyflwyno, felly mae
nifer cynyddol o fentrau'n cael eu creu drwy'r trefniant partneriaeth hwn. ·
Rhaid i'r holl waith rhanbarthol dan Fae'r Gorllewin gael
(Rhan 9) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
2014 yn
sylfaen iddo. ·
Caiff arian ei gronni i greu tîm a gynhelir gan Abertawe. ·
Daw rhan helaeth o'r arian o'r Gronfa Gofal Integredig
(Canolraddol gynt) sy'n ymwneud yn bennaf â gwasanaethau ar gyfer pobl
hŷn. ·
Gofynnodd aelodau'r panel pam nad oedd trefniant craffu
rhanbarthol ar waith. Clywodd y
cynghorwyr fod y rhan fwyaf o bartneriaid sy'n rhan o'r bartneriaeth yn awyddus
i ddatblygu trefniant craffu ond nid oedd un partner am wneud hynny. Rhaid i'r holl bartneriaid gytuno ar unrhyw
ddatblygiadau drwy eu pwyllgorau Cabinet unigol. Teimlai'r panel ei bod hi'n bwysig ac yn
briodol i gael trefniant craffu rhanbarthol yn rhan o'r trefniadau llywodraethu
ar gyfer Bae'r Gorllewin gan gytuno y gallai hyn fod yn argymhelliad sy'n
deillio o'i ymchwiliad. ·
Gall gwneud penderfyniadau ar gyfer Bae'r Gorllewin fod
yn hir ac yn feichus, oherwydd ni all y cydbwyllgor wneud penderfyniadau dim
ond argymell yn unig, ac yna rhaid i bob awdurdod lleol yn y bartneriaeth
ynghyd â PABM fynd yn ôl a dwyn yr argymhelliad gerbron y Cabinet. Gofynnodd y panel a ddylai'r trefniadau
llywodraethu hyn gael eu hailfodelu a'u symleiddio, fel y gellir gwneud
penderfyniadau mewn modd mwy effeithlon ac amserol. Teimlwyd y gallai hyn hefyd fod yn
argymhelliad posib ar gyfer y panel. ·
Mae gwasanaethau ymyrryd yn gynnar cyfiawnder ieuenctid
wedi bod yn hynod fuddiol. Rhaid bod yn
ymwybodol o'r hyn sy'n gweithio'n dda pan fyddwn yn gwneud newidiadau rhanbarthol
i sicrhau nad yw arferion da'n cael eu colli. ·
Pan fyddwn yn gweithio ar draws y rhanbarth, mae'n bwysig
bod yn glir am flaenoriaethau pob awdurdod lleol. Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus ·
Mae rhai aelodau o'r bartneriaeth hon yn awyddus i weld y
BGC yn symud i fodel rhanbarthol sy'n debyg i Fae'r Gorllewin. Mae manteision hyn i rai partneriaid yn glir,
er enghraifft dim mwy o bresenoldeb lluosog mewn ALl gwahanol. ·
Mae Llywodraeth Cymru'n annog gweithio'n rhanbarthol. ·
Ar hyn o bryd, mae Abertawe'n gweithio ar ei Gynllun
Lles, ond bydd trafodaeth am waith rhanbarthol yn ailddechrau unwaith bydd hyn
wedi'i gwblhau. Y cynllun yw'r ffocws ar
hyn o bryd, ond gwelir gwaith rhanbarthol gan rai fel y ffordd naturiol ymlaen. ·
Mae meysydd dysgu cychwynnol posib o brofiad BGC Abertawe
wrth lunio'r cynllun lles gyda phartneriaid yn cynnwys: o Cytuno ar weledigaeth a meddwl tymor hir, gall defnyddio brwdfrydedd a
diddordeb wir ddatblygu gweithio mewn partneriaeth. o Erys yn her i gynnal perchnogaeth ac ysgogiad ar draws yr holl
sefydliadau partner. o Wrth wraidd partneriaethau sylfaenol cryf mae datblygu perthnasoedd
sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth. Mae cymaint yn dibynnu ar yr unigolion sy'n
rhan o hyn a'u hymagwedd bersonol i'r bartneriaeth. o Erys yn her i gynnal ffocws ar gyflawni nifer llai o brif
flaenoriaethau, heb gael ein llethu gan y manylion. o Ceir cydbwysedd priodol rhwng ymagweddau o'r gwaelod i fyny ac o'r brig
i lawr er mwyn cael cytundeb ar gyflwyno. o Mae trefniadau llywodraethu'n helpu i ddarparu sicrwydd ond nid ydynt
yn gwarantu canlyniadau llwyddiannus. Partneriaethau eraill ·
Mae'n bwysig sicrhau bod y bobl gywir yn rhan o gytundeb
partneriaeth. Cafwyd trafodaeth gan y
panel nad yw'r Gwasanaethau Tân ac Ambiwlans yn rhan o'r Bwrdd CONTEST ac a oedd
hyn yn briodol neu beidio. |
|
Rhaglen Waith Cynllun y Prosiect PDF 81 KB Cofnodion: Yn y ddau
gyfarfod nesaf ar 2 ac 16 Chwefror, bydd y panel yn cwrdd â sefydliadau
partner. |