Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 4 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny - 01792 637256
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Joe Hale a'r Cynghorydd Mary Jones fudd personol yn y trosolwg o'r
adroddiad Gweithio Rhanbarthol. |
|
Trosolwg o'r adroddiad Gweithio Rhanbarthol a'r sesiwn holi ac ateb PDF 110 KB Gwahoddwyd: Y Cyng. Rob Stewart (Arweinydd) Sarah Caulkin (Cyfarwyddwr, Adnoddau) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cynghorydd
Rob Stewart (Arweinydd), Phil Roberts (Prif Weithredwr) a Sarah Caulkin
(Cyfarwyddwr Adnoddau) yn bresennol yn y panel a rhoesant drosolwg o Weithio Rhanbarthol er mwyn cyfeirio a chefnogi'r ymchwiliad. Nodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Trafodwyd
pam ein bod angen diwygio, gan gynnwys: caledi a fforddadwyedd gwasanaethau'r
cyngor; mae patrymau ôl-traed cymhleth ar hyn o bryd; cyfyngiadau cydweithio a
sicrhau bod y ffocws ar ganlyniadau dinasyddion. ·
Mae
gwaith newid sylweddol yn mynd rhagddo ar lefel ranbarthol yn dilyn y
cyhoeddiadau a chyfarfod dilynol Llywodraeth Cymru ynghylch Diwygio Llywodraeth
Leol (LGR) yng Nghymru. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei gynigion ar gyfer
gweithio rhanbarthol gorfodol a Phwyllgorau Llywodraethu ar y Cyd (PLlC) sy'n
codi o broses ymgynghori'r Papur Gwyn: ·
Mae
meysydd gwasanaeth mandedig gweithio rhanbarthol yn cynnwys: ―
Datblygiad
economaidd ―
Cludiant ―
Cynllunio
defnydd tir strategol a rheoli adeiladau ―
Gwasanaethau
cymdeithasol ―
Gwella
addysg ac anghenion dysgu ychwanegol ―
Diogelu'r
cyhoedd ·
Byddai'r
Pwyllgorau Llywodraethu ar y Cyd yn gyfrifol am gynllunio a rheoli'r rhain yn
effeithiol. Bydd dau fath o Bwyllgorau Llywodraethu ar y Cyd: Llywodraethu a
Gwasanaeth. Bydd Pwyllgorau Llywodraethu ar y cyd ar gyfer pob rhanbarth yn
cynnwys aelodau etholedig. Byddant yn gyrff sy'n gwneud penderfyniadau â
lefelau cyson o ddirprwyaeth o bob ALl. Bydd deddfwriaeth newydd yn pennu eu
dyletswyddau a'u pwerau. ·
Bydd
strwythurau partneriaeth presennol yn cael eu cynnal yn y fframwaith newydd ac
yn cydfodoli. ·
Cynigir
bod tri rhanbarth mawr, ―
Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru a
De-ddwyrain Cymru. ―
Byddai
Abertawe'n rhan o Ganolbarth a Gorllewin Cymru ynghyd â Phowys, Ceredigion, Sir
Benfro, Sir Gâr a Chastell-nedd Port Talbot. ·
Mae'n
debygol y bydd llawer o Bwyllgorau Llywodraethu Gwasanaeth ar y Cyd dan y
cynigion hyn ar batrymau ôl-traed rhanbarthol ac is-ranbarthol. Bydd y rhain yn
goruchwylio cynllunio, cyllidebu, cyllid etc. Roedd gan y panel bryderon
ynghylch haen arall o fiwrocratiaeth o bosib. ·
Hysbyswyd
y panel y byddant yn symud i ffwrdd o uno i fodel fframwaith. ·
Amlinellodd
y panel yr angen am ystyried trefniadau craffu yn y modelau partneriaeth hyn am
fod hyn yn dal i fod yn aneglur ar hyn o bryd. ·
Atodwyd
crynodeb o ymatebion Cyngor Abertawe i'r Papur Gwyn i'r adroddiad er
gwybodaeth. ·
Mae
adolygiad o'r partneriaethau presennol yn amlygu bod y cyngor yn ymwneud ag
oddeutu 100 o bartneriaethau/meysydd cydweithio ar hyn o bryd ond y tri mwyaf
yw: ERW, y Dinas-ranbarth a Bae'r Gorllewin. ·
Ac
eithrio'r tri mwyaf, mae'r cyngor hefyd yn gwneud cyfraniad ariannol o £150 i
bartneriaethau'n flynyddol. Mae amser swyddog y cyngor yn gyfwerth ag ychydig
llai na 600 o ddiwrnodau bob blwyddyn (heb gynnwys y swyddi hynny sy'n cael eu
hariannu'n benodol drwy grant ar gyfer gwaith rhanbarthol) ·
Cytunodd
y panel ei fod yn bwysig deall yr hyn sy'n gweithio'n dda gyda'r trefniadau
presennol, yr hyn sydd angen ei wella a pha gydweithrediadau sydd ddim yn
ychwanegu gwerth. Mae'r panel yn bwriadu ystyried hyn wrth siarad â swyddogion
a phartneriaid drwy'r ymchwiliad hwn. ·
Trafodwyd
prif fanteision ac anfanteision gweithio ar y cyd, gan gynnwys: ―
Manteision
posib: rhannu arfer da,
syniadau ac arloesedd; rhannu adnoddau er mwyn sicrhau mwy o allu; rhannu
gwybodaeth a deallusrwydd busnes; cynllunio a rheoli perfformiad ar y cyd yn
rhanbarthol; rheoli prosiect(au) risg uchel ar y cyd; hyfforddiant a datblygiad
a chyfleoedd rhwydweithio. ―
Anfanteision
posib: yn aml, cynhelir
cyfarfodydd yn Llandrindod - golyga hyn fod yr holl bartneriaid yn gorfod
teithio'n bell. Cytunodd y panel fod angen gwell defnydd o dechnoleg newydd a
thechnoleg gweithio o bell; amser staff; gall grwpiau ac ysgogwyr â
blaenoriaethau gwahanol wneud y broses o wneud penderfyniadau a chynnydd yn un
araf; ychydig iawn o gyfraniad ariannol sydd, sy'n gallu golygu ei fod yn
gweithredu ar adnoddau sydd eisoes wedi'u hymestyn; anaml y bydd rhai grwpiau'n
cwrdd felly mae'n anodd gweithredu agenda ystyrlon. ·
Nid
yw trefniadau cadarn ar gyfer craffu wedi'u trafod eto, fodd bynnag amlygodd
crynodeb y Papur Gwyn y dylai ymagwedd PLlC gael ei chynnwys ynghyd â phwyllgor
craffu rhanbarthol ar y cyd. Ni ddylai gwaith gael ei ddyblu rhwng pwyllgorau
craffu rhanbarthol a'r awdurdodau lleol a dylai un awdurdod arwain pwyllgor
craffu unigol. ·
Awgrymwyd
hefyd y dylai swyddogaeth graffu fod yn seiliedig ar arfer da yn rhanbarthol ac
yn genedlaethol. Mae'n rhaid i aelodau etholedig lleol gael llais ac mae'n
rhaid iddynt allu dal cyrff rhanbarthol i gyfrif ar ran dinasyddion lleol. Mae
awgrym hefyd i gynnwys grwpiau cyhoeddus a rhanddeiliaid yn y broses graffu. ·
Amlygwyd
materion ynghylch cytuno, er enghraifft: cydfodolaeth PLlC a Byrddau
Gwasanaethau Cyhoeddus; cytuno ar draws clystyrau rhanbarthol gwahanol sydd
eisoes ar waith fel dinas-ranbarthau. ·
Mae
risg y gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno fframwaith sydd naill ai heb ei
gydlynu, neu sy'n cael effaith andwyol ar y partneriaethau presennol hynny sy'n
profi eu bod yn hynod fuddiol. Clywodd y panel fod y CLlLC yn annog Llywodraeth
Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i adolygu trefniadau presennol ac i
wella lle bo angen; adolygu cytundebau rhwymol presennol rhwng cynghorau;
ystyried amrywiadau rhanbarthol a pheidio â chymryd ymagwedd un ateb sy'n addas
i bawb; ystyried cytundebau fframwaith rhanbarthol yn gynnar yn y broses cyn
ffurfioli popeth. ·
Mae
risg hefyd y bydd y penderfyniadau rhanbarthol yn gofyn am broses benderfynu
gan yr ALl a allai gymryd amser a pheri i'r newidiadau fod yn anodd i'w
gweithredu. ·
Cytunodd
y panel fod rhaid i ni ddysgu gwersi o brofiad, gan gynnwys ad-drefniadau
llywodraeth leol a chynigion i rannu gwasanaethau, er enghraifft: ―
Yr
angen am glymblaid arweiniol a gweledigaeth a rennir. ―
Mae
angen i'r cyngor a'r partneriaid allu rhoi amser ac adnoddau er mwyn datblygu
syniadau ―
Yr
angen am arweinyddiaeth glir, amser, blaenoriaeth a ffocws ―
Yr
angen am gysoni hyfforddiant a sgiliau staff ―
Yr
angen am gysoni amodau a thelerau a pholisïau sy'n ymwneud â'r gweithlu wrth
iddynt amrywio'n sylweddol ac mae hyn yn cymryd amser ―
Cysoni
rhwng gwahanol dimau sy'n gweithio gyda'i gilydd oherwydd gall diwylliant fod yn
wahanol iawn mewn gwahanol sefydliadau |
|
Trafod a Chynllunio Ymchwiliad Craffu Gweithio Rhanbarthol PDF 154 KB a) Llunio Cylch Gorchwyl yr ymchwiliad b) Cynllunio’r ymchwiliad a’r cynllun prosiect Cofnodion: Cytunwyd ar y canlynol:
a)
Casgliad
o ddyddiadau ar gyfer y rhaglen waith gytunedig b)
Gweithgareddau
craffu yn ôl y rhaglen waith ddrafft a ddosbarthwyd c)
Cyhoeddi
blog 'galw am dystiolaeth' a'i rannu ar Twitter ch) Y Tîm Craffu i gwblhau peth ymchwil desg sy'n
edrych ar wahanol ddulliau craffu a ddefnyddir mewn partneriaethau amrywiol. d) Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 30 Hydref a bydd
yn edrych ar y darlun ariannol mewn perthynas â gweithio rhanbarthol |