Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan, Scrutiny 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Trosolwg o Gydlyniant Cymunedol a Throseddau Casineb pdf eicon PDF 652 KB

Jane Whitmore, Rheolwr Partneriaethau a Chomisiynu

Paul Thomas, Rheolwr Integreiddio a Phartneriaethau Cymunedol

Declan Cahill, Heddlu De Cymru

 

Cofnodion:

Roedd Paul Thomas, Rheolwr Integreiddio a Phartneriaeth Gymunedol, yn bresennol i gyflwyno'r adroddiad.  Roedd y Cynghorydd Will Evans, Jane Whitmore a Duncan Cahill o Heddlu De Cymru hefyd yn bresennol i ateb cwestiynau. 

 

Trafodwyd y prif faterion canlynol:

 

  • Mae hwn yn faes gwaith sy'n datblygu. 
  • Mae ymagwedd bartneriaeth yn bwysig iawn.
  • Mae problem o ran sut rydym yn mynd i'r afael â phroblemau ac yn dod â chymunedau ynghyd.
  • Mae'r gweithgor yn bryderus o ran sut yr adroddir am droseddau casineb yn y cyfryngau ac ar gyfryngau cymdeithasol a hoffai gael gweithio agosach gyda phapurau newydd lleol. Cafwyd gwybod bod y berthynas â'r cyfryngau'n gwella'n lleol, ond nid oes llawer y gallwn ei wneud yn genedlaethol.  Anodd iawn i reoleiddio cyfryngau cymdeithasol.  Mae addysg yn allweddol i hyn. 
  • Mae'r heddlu yn edrych ar ffyrdd gwahanol o ddarganfod dangosyddion tyndra ar gyfer troseddau casineb er mwyn iddyn nhw allu deall yr hyn sy'n digwydd.  Gall cynghorwyr fwydo i'r broses hon drwy gysylltu â Swyddogion Cymunedol yr Heddlu (PCO).  Mae angen ymgymryd â darn o waith er mwyn cysylltu'r wybodaeth a dderbynnir.
  • Roedd gan y gweithgor bryderon am PCO yn gweithio mewn ardaloedd lle nad yw pobl yn gwybod pwy ydyn nhw a beth yw eu rôl.
  • Mae Llywodraeth Cymru'n darparu cyllid i 7 sefydliad.  Hoffai'r gweithgor wybod pa mor effeithiol yw'r sefydliadau hyn.  Nid yw'n ymddangos bod cyllid yn treiddio i lawr i lefel leol.
  • Teimla'r gweithgor nad oes digon o hyfforddiant ar gyfer cydlyniant cymunedol ac nid yw sesiynau hyfforddi awr a hanner yn ddigon i gwmpasu popeth.
  • Mae'r cyngor yn darparu hyfforddiant ar fanylion ond mewn perthynas â chydlyniant cymunedol, awgryma'r gweithgor y dylid edrych eto ar ein hyfforddiant cydraddoldeb.  Bydd y gweithgor yn rhannu'r profiad sydd ganddo o feysydd eraill â swyddogion perthnasol.

 

3.

Trafodaeth a Chasgliadau

Gofynnir i Gynghorwyr drafod y casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet:

 

a) Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)?

 

b) Oes gennych unrhyw argymhellion sy'n codi o'r sesiwn hon i Aelod y Cabinet?

 

c) Oes unrhyw faterion eraill sy'n codi o'r sesiwn hon yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt?

 

 

Cofnodion:

Trafododd y panel gynnydd a daethpwyd i'r casgliadau canlynol:

 

  • Mae Strategaeth Troseddau Casineb yn fframwaith eithaf cadarn ac mae'n strategaeth dda.
  • Mae llawer o waith i'w wneud gyda chydlyniant cymunedol gan nad oes cyfeiriad neu strategaeth drosgynnol.
  • Mae diffiniad Abertawe o gydlyniant cymunedol yn canolbwyntio'n ormodol ar yr elfen drosedd.  Hoffai'r gweithgor weld cydbwysedd gwell.
  • Bydd y gweithgor yn argymell i Bwyllgor y Rhaglen Graffu y cynhelir cyfarfod arall mewn chwe mis i ganolbwyntio ar gydlyniant cymunedol gan ei fod yn bryderus ynghylch diffyg cynllun/strategaeth ar gyfer yr agwedd hon. Byddai'n ddefnyddiol i Gydlynydd Cydlyniant Cymunedol ddod i'r cyfarfod.
  • Teimla'r gweithgor fod cydlyniant cymunedol yn bwnc am ymchwiliad craffu yn y dyfodol neu'n fater y mae angen i Bwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi perthnasol ei drafod.

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

  • Bydd cynullydd y gweithgor yn anfon llythyr at Aelod y Cabinet gan grynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu barn ac argymhellion y gweithgor.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet