Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu 637732
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
|
2. |
Trosolwg Cynllunio ar gyfer Argyfyngau a Chydnerthedd PDF 96 KB
·
Craig Gimblett - Rheolwr
Iechyd, Diogelwch, Rheoli mewn Argyfwng
a Lles Corfforaethol
Cofnodion:
- Daeth Craig Gimblett, Rheolwr Iechyd,
Diogelwch, Argyfyngau a Lles Corfforaethol, i roi trosolwg i'r panel yn
ogystal â'r diweddaraf am ei wasanaeth.
- Nododd aelodau'r panel eu siom bod yr hen
Gydbwyllgor Cydnerthu gyda Chastell-nedd Port Talbot wedi cael ei ddiddymu
heb ymgynghoriad
- Roedd y panel o'r farn y dylai pwyllgor fod
ar waith i ymwneud â phwnc mor bwysig
- Nododd Craig fod gan Abertawe heriau gwahanol
o ran perygl
- Mae Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn
rhannu rhai gwasanaethau a byddai'r ddau'n cynorthwyo ei gilydd mewn
argyfwng
- Mae'r adran yn cyflawni amrywiaeth o
weithgareddau bwrdd gwaith ac ymarferol
- Mae'r adran yn cydgysylltu â Gwasanaeth Tân
Canolbarth a Gorllewin Cymru a Heddlu De Cymru ac mae ganddi berthnasoedd
da â rhanddeiliaid eraill
- Petai digwyddiad, byddai'r adran yn cefnogi
gwasanaethau argyfwng eraill a byddai ganddi bresenoldeb amlwg yn y
gymuned
- Mae'r adran hefyd yn cynllunio ac yn asesu
peryglon parhaus a newydd
- Gwneir peth buddsoddiad di-oed yn yr adran er
mwyn hwyluso symudiadau a chyfarpar newydd ond cyllideb fach ydyw ar y
cyfan
- Trafodwyd sut caiff gwybodaeth ei dosbarthu i
gynghorwyr o ran yr hyn i'w wneud mewn argyfwng. Nid yw rhai cynghorwyr wedi
cael unrhyw wybodaeth o gwbl
- Trafodwyd cynlluniau Abertawe ynglŷn â
pharhad busnes petai digwyddiad
- Dywedodd Craig wrth y panel am ychydig o'r
gwaith sydd wedi cael ei wneud gydag ysgolion, ceidwaid nos a staff canol
y ddinas
- Cafodd gwybodaeth am reoli argyfyngau a
chydnerthu ei dosbarthu i gynghorwyr yn flaenorol ond nid yw wedi cael ei
hanfon at bob cynghorydd fel trefniad safonol
- Disgwylir i'r Ddyletswydd Argyfyngau Sifil
Posib gael ei datganoli i Lywodraeth Cymru ar 1 Ebrill 2018. Gallai hyn
effeithio ar gymorth ariannol ar gyfer digwyddiadau, ond bydd mwy o
wybodaeth ar gael yn ddiweddarach
- Trafododd cynghorwyr faterion ac argymhellion
arfaethedig
|
3. |
Trafodaeth a Chwestiynau
Cofnodion:
Bu’r Cynghorwyr
yn trafod materion ac yn cynnig argymhellion
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 114 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet PDF 109 KB
|