Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu - E-bost: emily-jayne.davies@swansea.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau |
|
Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol PDF 343 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Ystyriodd y Panel lythyrau a chofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2021 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd. |
|
Cyflwyniad: The Ambassador Theatre Group (ATG) Gwahodd i fynychu: Stuart Beeby - Cyfarwyddwr Gweithrediadau Grŵp Claire Dixon - Rheolwr Busnes ATG UK Cofnodion: Roedd Stuart Beeby, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Grŵp ATG, a Claire Dixon, Rheolwr Busnes ATG UK, yn bresennol i gyflwyno ar ran The Ambassador Theatre Group (ATG). Clywyd:
|
|
Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect PDF 1 MB Gwahodd i fynychu: Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (yr
Arweinydd) Robert Francis-Davies - Aelod y
Cabinet - Buddsoddi, Adfywio
a Thwristiaeth Phil Homes – Pennaeth Cynllunio ac
Adfywio’r Ddinas Huw Mowbray - Gwasanaeth Adfywio Economaidd A Chynllunio Cofnodion: Rhoddodd Huw Mowbray, y Rheolwr Datblygu Eiddo, y diweddaraf i'r panel ynghylch y prosiectau adfywio yn Abertawe. Roedd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd), a'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, a Thwristiaeth hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Clywyd: Bod elfen adeiladu Bae Copr
Gogledd Abertawe Ganolog
Ffordd y Brenin
71 a 72 Ffordd y Brenin · Roedd angen eglurhad ar y tendr. Mae'n cael ei ddadansoddi gan y tîm. · Adroddiad posib gan y Cabinet maes o law, o ran agweddau costau tendro. · Panel yn gofyn am ddadansoddiad ar gyfer pob ffynhonnell ariannu prosiect. Wind Street
Adfywio Abertawe · Sesiynau deialog – mewn trafodaethau ar gyflawni a masnach. · Cyfarfodydd dilynol gyda chydweithwyr eraill yn y cyngor; cynnwys y cyngor yn eang. · Ansawdd y cynigwyr sy'n deillio o negeseuon cysylltiadau cyhoeddus da mewn perthynas â'r arena. Rydym yn cystadlu yn erbyn llawer o ddinasoedd eraill. Mae prosiectau mawr Abertawe yn agweddau allweddol ar gyfer pam ein bod wedi derbyn ceisiadau o ansawdd uchel. · Mae'r arena yn gatalydd ar gyfer cynlluniau pellach a bydd yn creu buddsoddiad pellach. Ail-bwrpasu Abertawe · Sefyllfa economaidd anodd ledled y DU. Llawer o fethiannau manwerthu, ac mae mwy yn debygol o ddod. · O edrych ar ardaloedd craidd y ddinas, beth yw’r ymyriadau allweddol ar gyfer symud Canol y Ddinas yn ei flaen? · Angen creu hafan yn y Cwadrant. · Bydd uwchgynllun yn nodi prosiectau allweddol. Rydym ar y camau cynnar o hyd, penodwyd BDP yn ddylunwyr (2-3 mis cyn rhyddhau cynlluniau). · Ariennir yn bennaf gan Lywodraeth Cymru. · Grwpiau swyddogion i weithio gyda'r tîm a benodwyd i ddechrau, gan arwain at strategaeth mewn uwchgynllun diwygiedig a chynllun gweithredu newydd sy'n ceisio cyflawni amcanion. · Darn pwysig o waith i sicrhau bod Abertawe'n symud ymlaen ac y gallwn roi ymyriadau cywir ar waith i helpu gyda'r adferiad. · Bydd swyddogion yn adrodd yn fanylach pan fo hynny'n bosib. · Holodd y panel am gyfleoedd i aelodau gyfrannu – hoffent gymryd rhan yn y gwaith pwysig hwn. · Mae gweithdai yn debygol yn ystod y broses hon, er bod hyn yn gyfyngedig o ran amser ac mae angen ei gorffen erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Theatr y Palace · Gwneud cynnydd da ar gyfer ei chwblhau erbyn mis Mehefin 2022. · Cyflwynwyd cais am statws adeilad rhestredig. Cafwyd caniatâd cynllunio. · Mewn trafodaethau â'r darpar denant. · Bwriadu penodi contractwr a phrif dendr ar ddiwedd mis Chwefror. Pwerdy · Cyfarfodydd rheolaidd gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), y prif ariannwr. · Mae contractwyr wedi gofyn am estyniad amser oherwydd problemau COVID. Y cyngor wedi cymeradwyo estyniad rhannol. · Mae swm enfawr o archaeoleg yn y ddaear wedi bod yn broblem. Mae cymhlethdodau yma, er eu bod bellach yn hysbys, gall y tîm gynllunio ymlaen llaw yn awr. · Problemau mewn perthynas â chyfrifon banc prosiectau (CBP), sydd bellach yn un o ofynion y cyngor. · Nid oes unrhyw fanciau'n sefydlu CBP ar hyn o bryd, oherwydd y pandemig. · Bydd y cyngor yn gweithio gyda chontractwyr yn absenoldeb CBP i symud ymlaen. · Gobeithio adeiladu ar hyn gyda Skyline er mwyn creu cyrchfan hamdden fawr. · Holodd y panel am faterion CBP – esboniodd swyddogion fod hon yn broses eithaf newydd a gall y cyngor ddelio â hyn mewn ffordd draddodiadol er mwyn sicrhau bod is-gontractwyr yn cael eu talu'n brydlon. Parhau i fonitro. · Holodd yr aelodau am broblemau ynghylch diffyg cyllideb i gwblhau'r cynllun – trafodaeth barhaus gyda CDL. Caniatâd i ryddhau rhywfaint o arian wrth gefn. · 3 adeilad rhestredig, cyfanswm o 11 ar y safle. Mae ansawdd y gwaith yn rhagorol. Mae gwaith archaeoleg wedi oedi pethau, ond mae potensial mawr i ychwanegu at y gyrchfan. Cydnabuwyd gwaith caled swyddogion. · Holodd y Panel am Lan yr afon Tawe – mae trafodaethau'n parhau â pherchnogion tir ac mae'r ateb ymarferol posib i greu troedffordd gantilifer yn ateb drud. Mae trafodaethau â Llywodraeth Cymru yn parhau o ran cyllid. Nid yw cynlluniau y tu allan i ganol dinasoedd craidd yn cael eu hariannu ar hyn o bryd. · Holodd aelodau am y diweddaraf am Bontynau – gwnaed ceisiadau am gyllid er mwyn ceisio cysylltu Canol y Ddinas â'r Hafod a'r Stadiwm y tu hwnt i'r bont wrthbwys. Camau Gweithredu:
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth PDF 324 KB |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Economi, Cyllid a Strategaeth PDF 337 KB |
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Economi, Cyllid a Strategaeth PDF 309 KB |
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Economi, Cyllid a Strategaeth - Atodiad PDF 39 KB |