Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emily Davies 07980 757686 E-bost: emily-jayne.davies@swansea.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cadarnhau Cynullydd Cofnodion: Cytunodd y Panel y byddai'r Cynghorydd Jeff Jones yn cael ei ailbenodi'n Gynullydd. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 316 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Panel lythyrau a chofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunodd fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi 2020 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd. |
|
Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect PDF 208 KB Gwahodd i fynychu: Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) Robert Francis-Davies - Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth Phil Homes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas Huw Mowbray - Gwasanaeth Adfywio Economaidd A Chynllunio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Huw Mowbray, y Rheolwr Datblygu Eiddo, y diweddaraf i'r panel ynghylch y prosiectau adfywio yn Abertawe. Roedd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd), a Phennaeth Cynllunio ac Adfywio Dinasoedd hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Abertawe Ganolog - Cam 1 • Hysbyswyd y panel fod achosion o COVID-19 wedi'u cadarnhau ar safle'r Arena, fodd bynnag, roedd gwaith yn parhau i ddatblygu’n dda o dan yr amgylchiadau. Yn unol â chanllawiau cenedlaethol, anfonir contractwyr adref i hunanynysu am bedwar diwrnod ar ddeg. • Mae to'r Arena bellach wedi'i gwblhau ac mae'r cladin allanol hefyd wedi'i gwblhau sy'n golygu bod yr Arena bellach yn ddwrglos. • Holodd y panel faint o gontractwyr a phrentisiaid oedd yn lleol a faint oedd yn dod o bell. • Caiff fideo drôn o'r Arena ei ddarparu, gan nad yw ymweliad safle’n ymarferol ar hyn o bryd. • Disgrifiodd swyddogion gynlluniau ar gyfer y 'Man oedi' a'r dodrefn digidol disgwyliedig a fydd yn cael eu gosod yn fuan, gan gynnwys gogls digidol i weld y datblygiadau a'r wybodaeth am hanes yr ardal. • Mynegodd y panel rai pryderon ynghylch datblygiadau Wellington Street o ran plannu coed ac ymgynghori â Fforwm Coed Abertawe. Dywedodd swyddogion wrth y Panel y bu digon o ymgynghori â'r holl gyrff priodol o ran plannu coed. • Mae'r bloc preswyl bellach wedi'i gwblhau o ran ei uchder, ac mae cytundebau gyda Pobl hefyd wedi'u cwblhau. Bydd pethau mewnol yn cael eu gosod yn yr adeilad hwn yn nawr. • Bu'n rhaid i ATG ddiswyddo rhai gweithwyr ar draws y cwmni, fodd bynnag, maent wedi diogelu'r busnes craidd ac wedi derbyn buddsoddiadau ecwiti. Cadarnhaodd swyddogion fod y busnes craidd yn gadarn ac nad oes unrhyw bryderon am brosiect ATG yn Abertawe ar hyn o bryd. • Ar hyn o bryd, mae ATG yn bwriadu recriwtio rheolwr ar gyfer Arena Abertawe. Gogledd Abertawe Ganolog • Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt o ran darpar ddeiliaid. • Gofynnodd y Panel am ragor o wybodaeth ar ffurf diagramau er mwyn rhoi gwybod i bobl mewn ffordd well am ddatblygiad Gogledd Abertawe. Cytunwyd y byddai cyflwyniad byr ar y delweddau hyn yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr 2021. Ffordd y Brenin • Holodd y Panel a oedd cynllun palmant yn Ffordd y Brenin yn cydymffurfio â Chanllawiau Dylunio Teithio Llesol (Llywodraeth Cymru 2014) er mwyn gwahanu beicwyr a cherddwyr yn briodol. Esboniodd swyddogion fod ymgynghori helaeth wedi digwydd gyda grwpiau beicio a grwpiau symudedd, gan arwain at ddyluniad cytbwys a oedd yn ystyried amrywiaeth o nodweddion. • Gofynnodd y panel a oedd safleoedd bysus ar hyd Ffordd y Brenin yn cael eu cau neu eu hadleoli er mwyn osgoi tagfeydd traffig pan fyddai bws yn aros wrth safle dynodedig. Roedd gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i gywiro unrhyw ddiffygion tra bod llif y traffig ar ei isaf, ond nid oedd lleoliadau arosfannau bysus wedi newid. • O ran Iard Picton, roedd gwaith wedi'i gwblhau i gysylltu rhan isaf Oxford Street â'r ardal hon, fodd bynnag, mae'r gwaith adeiladu'n parhau ac felly mae'r ardal hon yn aros ar gau. Mae cyswllt rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin hefyd yn ddyhead ac mae'r prosiect hwn yn cael ei archwilio, er nad oes unrhyw gyllid pendant hyd yma. 71 a 72 Ffordd y Brenin • Bydd hysbysfyrddau â graffeg newydd yn cael eu codi yr wythnos hon, yn dilyn oedi oherwydd tywydd garw. • Mynegwyd pryder ynghylch dychwelyd i swyddfeydd ac unedau masnachol yn dilyn pandemig COVID-19. Holodd y Panel beth ddylai'r ganran isaf o ddeiliadaeth fod er mwyn cyfiawnhau'r gwariant ar y datblygiad hwn. Fe’i hysbyswyd bod galw da gan fusnesau 'Technolegol' yn arbennig sy'n gwerthfawrogi swyddfeydd cydweithredol a hyblyg. • Bydd swyddogion yn darparu rhagor o wybodaeth am gyllideb y datblygiad hwn, ac effeithiau COVID-19 ar y gyllideb honno, unwaith y bydd y ffigurau hyn ar gael. • Gofynnodd y panel am gyfradd llwyddiant y Grantiau Preswyl Parth (yng nghyd-destun Ffordd y Brenin. Fe’i hysbyswyd bod y rhaglen yn hynod lwyddiannus ac roedd ôl-groniad o brosiectau eraill yn aros am arian. Bydd swyddogion yn darparu adroddiad pellach ar y ffigurau hyn yn y cyfarfod nesaf. Wind Street • Holodd y panel pam y torrwyd coed yn Wind Street. Esboniodd swyddogion mai ychydig iawn o goed a gafodd eu torri, yn dilyn grwpiau ymgynghori. • Mynegodd y panel bryder ynghylch y polisi torri coed cyffredinol ar draws y ddinas. Dywedodd swyddogion fod cynifer o goed aeddfed â phosibl yn cael eu gwarchod. Ar draws y Sir mae'r ffigurau'n gadarnhaol net o ran plannu coed, a'r nod bob amser yw plannu mwy o goed nag sy'n cael eu torri. • Mynegwyd pryderon ynghylch effaith COVID-19 ar Wind Street fel economi nos ac yn ystod y dydd, a chynlluniau i helpu i gefnogi adferiad busnesau yma. Dywedodd swyddogion wrth y panel fod y Cyngor wedi darparu grantiau o fwy nag £1m i fusnesau i'w galluogi i ehangu i fannau agored. Marchnata Safleoedd Strategol yng Nghanol
y Ddinas • Amlinellodd swyddogion yr ymateb enfawr i'r broses hon o ran y lansiad marchnata, yr oedd dros 2000 wedi cael cipolwg arni’n genedlaethol. • Soniodd swyddogion am ansawdd uchel cyflwyniadau. • Mae'r broses yn mynd rhagddi ac mae'r rhestr fer wedi'i chymeradwyo i hysbysu partïon. Safleoedd Strategol a Throsolwg o'r Prosiect • Codwyd pryderon ynghylch prosiect Skyline, gan fod yr amserlen ar gyfer hyn wedi'i nodi fel 2026, ac a oedd y tîm gweithrediadau’n debygol o dynnu'n ôl o'r prosiect hwn. Sicrhaodd swyddogion y panel fod nifer o alwadau cynhadledd gyda Skyline yn Seland Newydd wedi'u cynnal yn ddiweddar ac felly roeddent yn obeithiol. • Mae'r tîm proffesiynol a benodwyd ar gyfer Sgwâr y Castell ar y cam cwblhau astudiaethau dichonoldeb gyda'r bwriad o gyflwyno cynllun manwl er mwyn symud ymlaen. Nid yw'r Cyngor wedi neilltuo cyfalaf i ariannu datblygiad Sgwâr y Castell eto. Mae'r panel yn awyddus i weld cynlluniau terfynol ar gyfer y prosiect hwn i sicrhau bod yr amcan yn cael ei gyflawni ar gyfer ardal wyrddach. Trafnidiaeth a Phriffyrdd •Holwyd a yw cynlluniau'n cael eu gwthio ymlaen dan y cynllun metro ar gyfer Glandŵr; yn benodol, darparu ar gyfer mynediad i barc manwerthu Morfa, y Stadiwm a'r ddistyllfa sydd newydd ei datblygu. Dywedwyd wrth y panel fod gwaith yn mynd yn ei flaen o hyd ar y system metro fel syniad. • Gofynnodd y panel am yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau tir Coridor Arloesedd Fabian Way. • Mynegwyd pryderon ynghylch yr ymchwil a'r dystiolaeth a oedd yn cyfiawnhau rhai llwybrau beicio newydd, ac a oedd y galw'n ddigon uchel i gyfiawnhau'r costau. • Trafodwyd llwybr beicio Mayals Road y trefnwyd iddo gael ei adeiladu'n fuan a holodd a oedd hyn wedi mynd i dendr. Awgrymodd swyddogion y gellid gofyn am ragor o wybodaeth gan y Pennaeth Priffyrdd a Chludiant. Camau Gweithredu: • Gofynnwyd am ffigurau
ar gyfer nifer y contractwyr (a'r prentisiaid) a gyflogir ar safle’r
Arena (lleol ar wahân i'r rheini a ddaw o bell) ar ddechrau'r contract a hefyd ar hyn o bryd. • Gofynnodd am ddiagramau/ddelweddau o Ogledd Abertawe Ganolog ar
gyfer y cyfarfod nesaf ar 12 Ionawr
2021 (y cydnabyddir bellach
ei fod wedi
dod i
law yn dilyn y cyfarfod hwn). • Gofynnwyd am wybodaeth
am nifer y coed,
a rhywogaethau, sy'n cael eu dadleoli
dan ddatblygiadau
Wellington Street. • 71-72 Ffordd y Brenin: gofynnwyd am wybodaeth bellach am gyllideb y datblygiad hwn, ac effeithiau COVID-19 ar y gyllideb honno • Grantiau Preswyl Parth: Bydd swyddogion yn darparu adroddiad pellach ar y ffigurau hyn yn y cyfarfod nesaf |
|
Cynllun Gwaith 2020-21 PDF 10 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trafododd y panel y cynllun gwaith drafft a chytunwyd y canlynol: • Ychwanegu eitem ychwanegol am ddatblygiadau blaendraethau. • Trafod 'Effaith Brexit ar Gyfleoedd Masnachol mewn Ardaloedd Gwledig' yng nghyfarfod mis Ionawr os yw'n bosib ac yn briodol. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 336 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Ymateb Aelod y Cabinet (RS) PDF 560 KB Dogfennau ychwanegol: |